Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynyddu eich incwm ar ôl i chi ymddeol

Pan fyddwch yn ymddeol, bydd angen i chi wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o incwm i ddarparu ar gyfer eich anghenion. Dylech edrych ar ba bensiynau cwmni a phensiynau personol sydd ar gael. Gallwch chi hefyd gynyddu’r Pensiwn y Wladwriaeth a gewch drwy ohirio ei hawlio neu ychwanegu ato.

Pensiwn y Wladwriaeth – sut mae bod yn gymwys

Gallwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy gael digon o ‘flynyddoedd cymhwyso’ o gyfraniadau Yswiriant Gwladol dros eich bywyd gwaith. Yma cewch wybod rhagor am sut mae hyn yn gweithio.

Pensiwn y Wladwriaeth – faint allech chi ei gael

Mae dwy ffordd o gael gwybod faint o Bensiwn y Wladwriaeth allech chi ei gael. Gallwch wneud y canlynol:

  • defnyddio amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein i gael amcangyfrif cyflym o’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth hyd yma
  • gofyn am amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth allech chi ei gael, gan gynnwys unrhyw Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a Budd-dal Ymddeol Graddedig, yn seiliedig ar gofnod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch chi’n dal i weithio ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch ddewis gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Gallech ennill rhagor o Bensiwn y Wladwriaeth yn nes ymlaen, neu gael taliad un-swm. Yn yr erthygl ganlynol, cewch wybod rhagor am fuddion posib gohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Efallai nad oes gennych chi ddigon o flynyddoedd cymhwyso ar gyfer Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth. Os nad oes gennych chi ddigon, mae’n werth gweld a allwch chi lenwi’r bylchau drwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Gallai hyn roi hwb i'r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a gewch.

Fel rheol, mae’n rhaid i chi wneud iawn am y diffyg o fewn chwe blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae’r cyfraniadau’n cael eu talu ar ei chyfer. Efallai y gallech wneud hyn hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gall rhai pobl hefyd dalu am hyd at chwe blynedd ychwanegol y tu allan i'r terfynau amser arferol. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod rhagor am dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Credydau ar gyfer rhieni a gofalwyr (Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref)

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, mae’n bosib i chi fod â hawl i gael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref. Roedd hyn yn golygu y gallai nifer y blynyddoedd cymhwyso roedd arnoch eu hangen ar gyfer Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth gael eu lleihau os oeddech chi:

  • ddim yn gweithio neu os oedd eich cyflog yn isel ac nid oeddech yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac
  • yn gofalu am blentyn dan 16 neu am unigolyn sâl neu anabl

Roedd y diogelwch hwn yn berthnasol i unrhyw flwyddyn dreth gyflawn rhwng Ebrill 1978 ac Ebrill 2010.

O 6 Ebrill 2010 ymlaen, disodlwyd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref gan gredyd Yswiriant Gwladol newydd ar gyfer rhieni a gofalwyr. Mae hyn yn galluogi pobl sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny i gronni blynyddoedd cymhwyso gyda chredydau Yswiriant Gwladol wythnosol newydd ar gyfer:

  • Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Mae cyfnodau o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref a roddwyd ar gyfer cyfnodau cyn Ebrill 2010 wedi’u newid yn flynyddoedd o gredydau.

Trefnu pensiwn personol

Ffordd arall o sicrhau darpariaeth ychwanegol ar gyfer eich ymddeoliad yw trefnu pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid. Math o bensiwn personol yw pensiwn cyfranddeiliaid, sy'n gorfod bodloni safonau sylfaenol y llywodraeth. Er enghraifft, gallwch wneud taliadau hyblyg ac mae'r costau rheoli blynyddol wedi'u ffrwyno.

Mantais pensiwn personol neu bensiwn cyfranddeiliaid yw bod y llywodraeth yn rhoi gostyngiad treth ar eich cyfraniadau i'ch cronfa bensiwn. Mae hyn yn golygu y bydd y llywodraeth yn talu £20 i’ch cronfa am bob £80 a fydd yn cael ei dalu iddi.

Ymuno â chynllun pensiwn cwmni

Os ydych chi’n gweithio i gyflogwr, holwch i weld a yw’n rhedeg cynllun pensiwn cwmni ac a gewch chi ymuno â’r cynllun.

Gwnewch yn siŵr bod ymuno â’r cynllun er eich lles pennaf chi. Gofynnwch i weinyddwyr y cynllun esbonio'r buddion a ddarperir gan y cynllun, a faint fyddwch yn gorfod ei gyfrannu o'ch cyflog.

Os byddwch yn newid eich swydd, mae'n debyg na fyddwch yn gallu parhau i dalu arian i'r cynllun. Bydd yn dal gennych chi’r hawl i gael unrhyw bensiwn cwmni rydych chi eisoes wedi’i gronni pan fyddwch yn ymddeol. Neu gallwch ei drosglwyddo i gynllun pensiwn arall.

O 2012 ymlaen, bydd ffordd newydd o gynilo yn y gwaith. Gyda’r system newydd, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru’n awtomatig â chynllun pensiwn oni bai fod gennych gynllun pensiwn addas eisoes. Bydd yn hawdd cofrestru, a gallwch ddewis peidio ag ymuno â’r cynllun os dymunwch.

Sawl cynllun pensiwn personol neu bensiwn cwmni allwch chi ei gael

Gallwch gael cynifer o gynlluniau pensiwn personol neu bensiwn cwmni ag y dymunwch, ond bydd gan bob cynllun ei ffioedd gweinyddu ei hun. Fe all fod yn werth cael cyngor gan ymgynghorydd annibynnol cyn trefnu mwy nag un cynllun.

Os ydych chi wedi colli manylion eich cynllun pensiwn personol neu bensiwn cwmni

Os oes gennych chi gynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn cwmni, a’ch bod chi wedi colli eu manylion cyswllt, efallai y gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU