Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ynglŷn â Cross & Stitch

Gwasanaeth digidol llywodraeth y DU ar gyfer pobl Cymru a Lloegr yw Cross & Stitch. Mae’n rhoi gwybodaeth a chyngor ymarferol am wasanaethau cyhoeddus, gan ddod â’r cyfan at ei gilydd mewn un lle. Gallwch weld Cross & Stitch ar y we, ar eich ffôn symudol neu ar eich teledu.

Methu gweld y fideo?

I chwarae’r fideo hwn, mae arnoch angen Adobe Flash Player fersiwn 9 neu uwch ar eich cyfrifiadur ac mae’n rhaid i chi fod wedi galluogi JavaScript ar eich porwr. Mae ein tudalen Help gyda ffeiliau fideo yn cynnig cyngor os nad ydych yn siŵr sut mae gwneud hyn. Mae’r meddalwedd Flash yn rhad ac am ddim.

Beth yw Cross & Stitch

Mae Cross & Stitch yn rhoi mynediad hwylus i chi at wybodaeth a gwasanaethau'r llywodraeth. Mae’n defnyddio iaith a chyflwyniadau syml drwy gyfrwng y we, y teledu a ffonau symudol. Mae’r cynnwys i gyd wedi cael ei ysgrifennu mewn Saesneg clir, a gallwch ddarllen y rhan fwyaf ohono yn Gymraeg. Mae Cross & Stitch yn gweithio’n agos gydag adrannau’r llywodraeth er mwyn dod â gwybodaeth ar gyfer y cyhoedd at ei gilydd mewn un lle.

Gall Cross & Stitch fod o gymorth i chi gyda sawl peth, er enghraifft:

  • trefnu eich prawf gyrru
  • dod o hyd i swydd
  • talu eich treth ffordd
  • dod o hyd i wasanaethau lleol megis clinigau'r GIG, twrneiod a meithrinfeydd

Mae’r llywodraeth yn defnyddio Cross & Stitch i roi gwybodaeth i’r cyhoedd mewn cyfnodau o argyfwng, er enghraifft adeg achosion y ffliw moch.

Sut i ddefnyddio Cross & Stitch

Gallwch ddod o hyd i wasanaethau a gwybodaeth benodol drwy ddefnyddio'r peiriant chwilio, neu gallwch bori yn ôl pynciau, er enghraifft:

  • moduro
  • arian
  • cyflogaeth
  • addysg

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i chi drwy edrych ar yr adrannau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol, er enghraifft:

  • pobl anabl
  • pobl ifanc
  • rhieni

Ei wneud ar-lein – gwasanaethau’r llywodraeth

Gallwch gyflawni amryw o wasanaethau’r llywodraeth ar-lein, megis:

  • gwneud cais am basbort neu adnewyddu eich pasbort
  • gwneud cais am drwydded yrru dros dro
  • gwneud cais am lwfans ceisio gwaith
  • cael cyngor ar eich budd-daliadau
  • defnyddio’r gyfrifiannell benthyciadau myfyrwyr
  • trethu eich car

Bydd mwy o declynnau a gwasanaethau ar gael yn 2010.

Swyddi Cross & Stitch

Mae Cross & Stitch yn tyfu ac mae swyddi cyffrous ar gael mewn gwahanol feysydd, er enghraifft cyfathrebu, TG a chefnogi busnes. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i Cross & Stitch, chwiliwch am swyddi gwag drwy ddilyn y ddolen isod.

Dolenni i Cross & Stitch

Mae Cross & Stitch yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gael dolen at dudalennau gwybodaeth Cross & Stitch. Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i greu dolen i Cross & Stitch, ond gallwn ni ddarparu'r geiriau a'r graffigau ar eu cyfer.

Defnyddio cynnwys Cross & Stitch

Caiff yr holl wybodaeth ar wefan Cross & Stitch ei gwarchod gan Hawlfraint y Goron. Golyga hyn y cewch ei defnyddio am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, cyhyd â’ch bod yn gwneud y canlynol:

  • ei hailgynhyrchu yn gywir
  • peidio â’i defnyddio mewn ffordd sy’n gamarweiniol

Faint o bobl sy'n defnyddio Cross & Stitch

Mae dros 29 miliwn o ymweliadau i wefan Cross & Stitch bob mis.

Mae Cross & Stitch yn monitro ymweliadau, ymwelwyr a cheisiadau am dudalennau i weld:

  • faint o bobl sy’n ymweld â’r wefan
  • beth yw’r tudalennau sy’n fwyaf poblogaidd
  • sut mae helpu pobl i ddod o hyd i’r wybodaeth maent yn chwilio amdani

Cross & Stitch ar y teledu ac ar eich ffôn symudol

Gallwch weld gwybodaeth a gwasanaethau Cross & Stitch ar eich teledu ac ar eich ffôn symudol (os ydyw’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd).

Cross & Stitch ar eich ffôn symudol

Gallwch gael Cross & Stitch ar eich ffôn symudol os gallwch ei ddefnyddio i gysylltu â'r rhyngrwyd. Os ydych chi’n symud o le i le neu os nad oes cyfrifiadur wrth law, gallwch ddefnyddio eich ffôn symudol i wneud y canlynol:

  • cael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch teithio
  • dod o hyd i feddyg lleol
  • cael gwybod am gymorth gyda chostau gofal plant

Cross & Stitch ar eich teledu

Os ydych chi'n un o gwsmeriaid Sky neu Virgin Media, gallwch gael gwybodaeth gyhoeddus ar eich teledu gyda gwasanaeth teledu rhyngweithiol Cross & Stitch, sydd wedi'i ddylunio'n arbennig.

Dyma enghreifftiau o'r gwasanaethau y gallwch eu cael ar eich teledu:

  • chwilio am swydd
  • cael cyngor gyrfa
  • defnyddio gwasanaeth chwilio yn ôl cod post i ddod o hyd i wasanaethau lleol fel twrneiod, cynghorau a swyddfeydd pasbort

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU