Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Bod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Gallwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar y blynyddoedd cymhwyso ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych. Yma cewch fwy o wybodaeth am sut y gallwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a phryd y gallwch ei gael.

Pryd allwch chi gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?

Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Yma cewch wybod sut gallwch chi hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Ni allwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’n rhaid i chi ei hawlio. Gallwch hefyd ddewis gohirio ei hawlio a chymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth yn nes ymlaen.

Os byddwch chi’n dewis gohirio gallech gael swm ychwanegol o Bensiwn y Wladwriaeth neu daliad un-swm yn ogystal â Phensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch chi’n hawlio.

Newidiadau yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Efallai y bydd yr oedran y byddwch yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn newid. I gael gwybod os bydd hyn yn effeithio arnoch chi, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

A fyddwch yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?

Gallwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy dalu neu gael eich credydu gyda digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol tuag at flynyddoedd cymhwyso cyn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Yn 2012-13, bydd angen i chi gael £5,564 neu ragor o'r cyfryw enillion os:

  • ydych yn gyflogai
  • ydych yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol fel person hunangyflogedig

Gallwch ddefnyddio Amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth i gael syniad o faint o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych chi a beth y mae hyn yn ei olygu i chi. Mae’r offeryn syml hwn yn eich helpu i amcangyfrif yn gyflym faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y mae’n bosib y bydd gennych hawl iddo yn seiliedig ar eich Cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd hyn. Bydd hefyd yn dweud wrthych pryd y byddwch yn ei gael. Bydd hefyd yn eich helpu i weld fel y byddwch chi’n cael eich effeithio gan newidiadau diweddar i Bensiwn y Wladwriaeth.

Faint o flynyddoedd cymhwyso y mae eu hangen arnoch?

Mae nifer y blynyddoedd cymhwyso y bydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich oedran ac a ydych yn ddyn ynteu'n fenyw.

Fel arfer, bydd dynion a aned cyn 6 Ebrill 1945 angen 44 blwyddyn gymhwyso.

Fel arfer, bydd menywod a aned cyn 6 Ebrill 1950 angen 39 blwyddyn gymhwyso.

Bydd dynion a aned ar 6 Ebrill 1945 neu ar ôl hynny angen 30 blwyddyn gymhwyso.

Bydd menywod a aned ar 6 Ebrill 1950 neu ar ôl hynny angen 30 blwyddyn gymhwyso.

I gael gwybod rhagor am Bensiwn y Wladwriaeth, gallwch lwytho'r daflen 'Pensiynau’r Wladwriaeth – Eich arweiniad' oddi ar y we.

Os ydych wedi bod yn rhiant neu'n ofalwr

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, mae'n bosib y cewch gredydau Yswiriant Gwladol (YG) newydd. Bydd y credydau YG hyn yn caniatáu i chi fod ag hawl i Bensiwn y Wladwriaeth.

Dyma'r rhai a allai fod yn gymwys i gael credydau YG:

  • rhiant sydd â phlentyn dibynnol o dan 12 mlwydd oed
  • gofalwr maeth cymeradwy
  • rhywun sy'n gofalu am un neu ragor o bobl sy'n ddifrifol anabl am o leiaf 20 awr yr wythnos

Hyd at 5 Ebrill 2010, roedd nifer o bobl a oedd yn gofalu am eraill yn gymwys ar gyfer cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref. Roedd y cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn helpu i ddiogelu eich hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer y blynyddoedd pan nad oeddech yn gweithio neu pan oedd eich enillion yn isel. Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2010, byddwch yn cael credydau YG yn hytrach na Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref.

Roedd y credydau YG newydd yn disodli’r cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref o 6 Ebrill 2010 ymlaen. Os oes gennych blynyddoedd o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref cyn 6 Ebrill 2010, bydd hyd at 22 o'r blynyddoedd hyn yn cael eu trosi'n gredydau YG yn awtomatig. Yna, bydd y credydau YG hyn yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Os ydych wedi bod yn hawlio budd-dal

Byddwch yn cael credydau YG yn awtomatig ar gyfer yr wythnosau yr ydych wedi bod yn hawlio'r budd-daliadau canlynol (os ydych chi wedi talu digon o gyfraniadau YG):

  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

I gael gwybod mwy, cysylltwch â'r swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Faint yw Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth?

I gael gwybod faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallwch ei gael, gweler ‘Cyfradd Credyd Pensiwn a Phensiwn y Wladwriaeth: faint allwch chi ei gael?’.

Os nad ydych yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth

Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny

Os oes gennych chi rywfaint o flynyddoedd cymhwyso ond ddim digon i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, fe gewch chi rywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Am bob blwyddyn gymhwyso fydd gennych chi, fe gewch rywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Mae'n bosib y gallwch gymryd camau i gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Cewch Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth wythnosol rhwng yr isafswm (£26.86 yn 2012-13) a'r uchafswm (£107.45 yn 2012-13):

  • os nad ydych yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth
  • os oes gennych 25 y cant neu ragor o flynyddoedd cymhwyso

Os oes gennych lai na 25 y cant o’r blynyddoedd cymhwyso, ni fydd gennych hawl i ddim Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy ddefnyddio eich cofnod cyfraniadau YG eich hun. Fodd bynnag, efallai y gallwch gymryd camau i gynyddu eich Pensiwn gan y Wladwriaeth. I gael gwybod rhagor, darllenwch 'Oes angen i chi ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol?'

Efallai y bydd yn bosib i chi gael ‘Pensiwn Anghyfrannol’ neu ‘Bensiwn i Bobl Dros 80’ os ydych chi’n 80 oed neu’n hŷn ac yn bodloni'r amodau preswylio, sy’n £64.40 yr wythnos ar gyfer 2012-13.

Os ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil, neu os ydych chi wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil yn y gorffennol

Mae'n bosib y bydd gennych hawl i rywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy gofnod cyfraniadau YG naill ai:

  • eich priod neu'ch partner sifil
  • eich cyn neu'ch diweddar briod neu bartner sifil

Credyd Pensiwn

Os ydych chi'n bensiynwr sy'n byw ym Mhrydain Fawr, gallai'r Credyd Pensiwn ychwanegu at eich incwm wythnosol gan roi i chi isafswm sicr o:

  • £142.70 os ydych yn sengl
  • £217.90 os oes gennych bartner

Mae’r oedran y gallech o bosib gael Credyd Pensiwn yn newid. I gael gwybod mwy ynghylch Credyd Pensiwn gweler ‘Credyd Pensiwn – cyflwyniad’.

Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Dilynwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth ynghylch:

  • hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • sut mae'n cael ei dalu
  • gohirio ei hawlio am y tro

Rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn am newid mewn amgylchiadau

Yma cewch wybod beth y mae angen i chi roi gwybod amdano, megis newid cyfeiriad neu fanylion banc.

Allweddumynediad llywodraeth y DU