Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pwy i gysylltu â nhw yn y Gwasanaeth Pensiwn - archebu taflenni hwylus

Mae nifer o’r taflenni y mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn eu cynhyrchu ar gael mewn fformatau hwylus. Gallwch chi eu harchebu dros y ffôn neu ffôn testun, yn ogystal â’r fersiynau safonol o’r taflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Archebu taflenni hwylus dros y ffôn neu ffôn testun

Mae taflenni ar gael mewn fformatau hwylus, er enghraifft:

  • print bras
  • Braille
  • sain

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn cynnig taflenni ar lawer o bynciau, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn. Gallwch chi archebu copïau o’r taflenni dros y ffôn neu ffôn testun.

Os byddwch chi’n archebu taflenni gwahanol, efallai na fyddan nhw'n cyrraedd ar yr un pryd.

Llinell Archebu Gwybodaeth am Bensiynau

Mae’r Llinell Archebu Gwybodaeth am Bensiynau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

  • ffôn: 0845 7 31 32 33
  • ffôn testun: 0845 604 0210

Dyma rai o'r taflenni mae modd i chi eu cael:

  • Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir (GL25W)
  • Taflen Credyd Pensiwn (DWP027
  • Y Gwasanaeth Pensiwn - ein safonau gwasanaeth (PSSOS)
  • Canllaw i bensiynwyr (PG1)
  • Canllaw i bensiynwyr ar gyfer Cymru (PG2W)
  • Canllaw i bensiynwyr ar gyfer yr Alban (PG3)
  • Cyfraddau budd-daliadau a phensiynau (DWP035W)
  • Eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth (BR19LW)

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU