Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pwy i gysylltu â nhw yn y Gwasanaeth Pensiwn

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth ynghylch Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Pensiwn, Taliad Tanwydd Gaeaf a budd-daliadau cysylltiedig. Dyma rai ffyrdd o gysylltu â’r person cywir naill ai dros y ffôn neu dros e-bost.

Eich canolfan bensiynau

Bydd angen i chi gysylltu â’ch canolfan bensiynau i wneud ymholiad ynghylch y canlynol:

  • hawlio Pensiwn y Wladwriaeth
  • hawlio Credyd Pensiwn
  • hawliadau cyfredol ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth neu Gredyd Pensiwn

Mae pob ardal o’r wlad â chanolfan pensiwn neilltuedig ar eu cyfer. I ddod o hyd i’r rhif ffôn, cyfeiriad post neu i e-bostio eich canolfan bensiwn, gweler ‘Dod o hyd i’ch canolfan bensiwn’.

Os hoffech gysylltu â ni yn Gymraeg, e-bostiwch:

YGwasanaethPensiwn.Gwasanaeth-Cwsmeriaid@dwp.gsi.gov.uk

Rhoi gwybod am newid i’ch cyfeiriad, manylion banc neu amgylchiadau eraill i’r Gwasanaeth Pensiwn

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn os yw’ch amgylchiadau yn newid ac yr ydych yn derbyn naill ai:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth
  • Pensiwn i Bobl dros 80
  • Credyd Pensiwn

Taliad Tanwydd Gaeaf

Os ydych yn hawlio Taliad Tanwydd Gaeaf, mae meini prawf arbennig a llinell gymorth bwrpasol ar gael i chi.

Cofrestru marwolaeth

Cael gwybod am bopeth sydd angen i chi ei wybod ynghylch cofrestru marwolaeth.

Budd-daliadau ac ymholiadau o dramor

Gall eich Canolfan Bensiwn Ryngwladol eich helpu:

  • os ydych yn byw dramor a bod gennych gwestiynau ynghylch taliadau Pensiwn y Wladwriaeth, budd-daliadau profedigaeth, budd-daliadau analluogrwydd a budd-daliadau eraill
  • os ydych yn byw yn y DU ac yn byw neu’n gweithio mewn gwledydd eraill sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol gyda’r DU
  • os ydych yn symud i fyw dramor ac yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth yn barod

Ymholiadau am amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth

Os hoffech gael amcangyfrif o Bensiwn y Wladwriaeth neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch hynny, gall y Ganolfan Bensiynau’r Dyfodol eich helpu.

Cymorth technegol gyda’r rhagolwg ar-lein o Bensiwn y Wladwriaeth

Os ydych yn cael trafferth defnyddio neu gael gafael ar wasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ac mae angen cymorth technegol arnoch, dylech gysylltu â’r ddesg gymorth E-wasanaethau.

Ymholiadau am y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau

Os ydych wedi colli cysylltiad â chynllun pensiwn personol neu bensiwn cwmni, gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiynau eich helpu.

Credyd Pensiwn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch Credyd Pensiwn gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn. Gallant ateb ymholiadau ynghylch a ydych yn gymwys i’w gael a bydd arnynt angen gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a all effeithio ar eich taliadau.

Gwasanaeth wyneb-yn-wyneb

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, mae Pwyntiau Gwybodaeth Gwasanaeth Lleol yn darparu gwasanaeth wyneb-yn-wyneb i gwsmeriaid mewn lleoliadau cyfleus.

Gallwch drefnu apwyntiad gyda staff Gwasanaeth Lleol i drafod materion megis:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Gweini
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • hawliadau a gwasanaethau eraill i bensiynwyr

Cewch daflenni hefyd ar y budd-daliadau a’r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Pensiwn.

Materion iaith

Os nad ydych am siarad Saesneg, gallwch ddefnyddio eich cyfieithydd eich hun neu gall y ganolfan bensiynau ddarparu un ar eich cyfer.

Taflenni braille, print bras a thapiau sain

Os oes gennych nam ar eich golwg neu’ch clyw, mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn darparu ystod o wybodaeth mewn fformatau eraill. Holwch eich swyddfa bensiynau neu swyddfa nawdd cymdeithasol, neu gallwch ofyn am fformatau eraill dros y ffôn neu ffôn testun.

Sut mae cwyno wrth y Gwasanaeth Pensiwn

Yma cewch wybod sut mae cwyno wrth y Gwasanaeth Pensiwn os ydych yn anfodlon â safon y gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Pensiwn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU