Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw'r oedran cynharaf y gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth. Mynnwch wybod am y newidiadau diweddaraf i oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Oedran presennol Pensiwn y Wladwriaeth

I ddynion a anwyd cyn 6 Rhagfyr 1953, oedran presennol Pensiwn y Wladwriaeth yw 65 oed.

I fenywod a anwyd ar ôl 5 Ebrill 1950 ond cyn 6 Rhagfyr 1953, eu hoedran Pensiwn y Wladwriaeth yw rhwng 60 a 65.

Cynyddu oedran Pensiwn y Wladwriaeth i 66 oed

O dan Ddeddf Pensiynau 2011, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod yn cynyddu'n gyflymach i 65 oed rhwng mis Ebrill 2016 a mis Tachwedd 2018. O fis Rhagfyr 2018, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i ddynion a menywod yn dechrau cynyddu er mwyn cyrraedd 66 oed ym mis Hydref 2020.

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch os ydych:

  • yn fenyw a anwyd ar 6 Ebrill1953 neu ar ôl hynny
  • yn ddyn a anwyd ar 6 Rhagfyr 1953 neu ar ôl hynny

Mae'r ddeddfwriaeth bresennol eisoes yn gwneud darpariaeth i oedran Pensiwn y Wladwriaeth gynyddu i:

  • 67 oed rhwng 2034 a 2036
  • 68 oed rhwng 2044 a 2046

Fodd bynnag, cyhoedded y llywodraeth ar 29 Tachwedd 2011 y bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth bellach yn cynyddu i 67 rhwng 2026 a 2028. Nid yw’r newid hwn yn ddeddf eto a bydd angen i’r Senedd gymeradwyo hwn.

Hefyd mae’r llywodraeth yn ystyried sut i sicrhau bod oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn parhau i godi’n gyfuwch â chynnydd mewn disgwyliad einioes. Bydd y llywodraeth yn cyflwyno cynigion yn ei bryd.

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth i gyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth o dan y ddeddfwriaeth bresennol. Nid yw’n cymryd mewn i ystyriaeth y cyhoeddiad diweddar i ddod â’r cynnydd ymlaen i 67.

Dewisiadau sydd gennych ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Nid yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr un peth ag oedran ymddeol. Oedran ymddeol yw pryd y dewiswch ymddeol, ond gallwch barhau i weithio ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch:

  • roi'r gorau i weithio a chael eich Pensiwn y Wladwriaeth
  • parhau i weithio a chael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn ychwanegol
  • parhau i weithio ac oedi cyn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn oedi cyn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddwch yn gallu cael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol neu gyfandaliad pan fyddwch yn ei hawlio.

Os byddwch yn parhau i weithio ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth, nid oes angen i chi barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Oedi cyn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch ddewis oedi cyn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth am gymaint o amser ag y mynnwch. Pan fyddwch yn ei hawlio, byddwch yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol rheolaidd a naill ai

  • Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol am weddill eich bywyd
  • cyfandaliad trethadwy untro (a fydd yn gyfwerth â'r Pensiwn y Wladwriaeth y gwnaethoch oedi cyn ei hawlio, yn ogystal â llog)

Oedran ymddeol

Yr oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw’r oedran cynharaf y gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth. Nid yw hwn yr un peth ag oedran ymddeol. Oedran ymddeol yw pryd y dewiswch ymddeol. Yma cewch wybod pryd y gallwch ddewis ymddeol.

Rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn am newid yn eich amgylchiadau

Mynnwch wybod beth sydd angen i chi roi gwybod amdano, megis newid mewn cyfeiriad neu fanylion banc.

Allweddumynediad llywodraeth y DU