Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r oedran ymddeol diofyn yn cael ei ddileu’n raddol – gall y rhan fwyaf o bobl bellach weithio cyn hired ag y dymunant. Mynnwch wybod rhagor am newidiadau i'r ddeddfwriaeth ynghylch oedran ymddeol, ymddeol yn gynnar a gweithio'n hirach.
Mae'r oedran ymddeol diofyn yn cael ei ddileu’n raddol. Mae hyn yn golygu os na chawsoch hysbysiad gan eich cyflogwr cyn 6 Ebrill 2011, ni all eich gorfodi i ymddeol drwy ddefnyddio'r oedran ymddeol diofyn o 65 oed. Dim ond os gellir ei gyfiawnhau'n wrthrychol yn yr amgylchiadau penodol y gall eich cyflogwr eich gorfodi i ymddeol.
Os tybiwch fod eich cyflogwr yn eich trin yn annheg oherwydd eich oedran, gallwch herio hyn mewn tribiwnlys cyflogaeth. Gweler 'Gwahaniaethu ar sail oedran' i gael rhagor o wybodaeth am gyfiawnhad gwrthrychol.
Chi sy'n gyfrifol am siarad â'ch cyflogwr am eich opsiynau ymddeol. Os ydych chi am barhau i weithio gall fod yn bosibl i chi newid eich patrwm a'ch oriau gwaith. Mae gan weithio’n hwyrach yn eich bywyd amrywiaeth o fuddion megis cael mwy o reolaeth ariannol a pharhau i fwynhau ffordd gyflawn a gweithgar o fyw.
Os na ddywedodd eich cyflogwr wrthych cyn 6 Ebrill 2011 fod yn rhaid i chi ymddeol, yna, ni all eich gorfodi i ymddeol drwy ddefnyddio'r oedran ymddeol diofyn. Dim ond os oeddech yn 65 oed neu'n hŷn cyn 1 Hydref 2011 y gallai eich cyflogwr eich gorfodi i ymddeol drwy ddefnyddio'r oedran ymddeol diofyn.
Mae'n rhaid i'ch cyflogwr hefyd roi rhwng 6 a 12 mis o rybudd i chi. Mae posibilrwydd hefyd o estyniad o hyd at chwe mis drwy'r 'hawl i ofyn'. Mae hyn yn golygu mai'r dyddiad ymddeol olaf posibl a allai gael ei bennu drwy ddefnyddio'r oedran ymddeol diofyn yw 5 Hydref 2012.
Eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw'r oedran cynharaf y gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth. Nid yw hyn yr un peth ag oedran ymddeol. Oedran ymddeol yw pryd y dewiswch ymddeol, ond gallwch barhau i weithio ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mynnwch wybod eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os byddwch yn ymddeol yn gynnar, neu'n rhoi'r gorau i weithio oherwydd dileu swydd, salwch neu resymau eraill, gall hyn effeithio ar eich Pensiwn y Wladwriaeth a phensiynau eraill y mae hawl gennych i'w cael. Mae angen i chi wybod eich holl opsiynau pensiwn i sicrhau y bydd gennych ddigon o arian i fyw arno ar ôl i chi ymddeol.
Nid yw cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu bod yn rhaid i chi roi'r gorau i weithio. Gallwch barhau i weithio a chael eich Pensiwn y Wladwriaeth o hyd. Efallai y gallwch newid eich oriau gwaith hefyd mewn ffordd sy'n gyfleus i chi. Mynnwch wybod am fanteision gweithio'n hirach a'r opsiynau sydd ar gael i chi.