Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid yw cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu bod rhaid i chi roi'r gorau i weithio - boed hwnnw'n waith cyflog neu'n waith gwirfoddol. Cewch ddewis dal i weithio tra'n derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, neu ohirio hawlio'ch Pensiwn a chael mwy yn nes ymlaen. Mae'r llywodraeth hefyd yn cynnig cynlluniau a chymhellion i'ch helpu i ddod o hyd i waith.
Mae'r incwm a dderbyniwch o waith rhan amser ar ôl ymddeol yn cyfrif fel 'incwm trethadwy'. Mae hyn yn ynghyd ag incwm o Bensiwn y Wladwriaeth, pensiynau personol neu bensiynau cwmni (galwedigaethol) ac o rai buddion trethadwy.
Os yw eich incwm trethadwy cyffredinol yn fwy na'ch lwfansau di-dreth bydd y gwahaniaeth yn cael ei drethu ar y cyfraddau Treth Incwm arferol. Ond efallai y byddwch yn ennill mwy cyn talu treth. Ni fyddwch yn talu unrhyw Yswiriant Gwladol pan fyddwch chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar hyn o bryd, i bobl sy’n cyrraedd 65 oed cyn mis Ebrill 2013, ceir lwfans personol di-dreth uwch. Efallai hefyd y byddwch yn gymwys i gael lwfansau eraill a all leihau eich bil treth.
Cynigir cymhellion er mwyn ichi gymryd Pensiwn y Wladwriaeth yn hwyrach, yn hytrach na'i gymryd ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth ('gohirio' eich hawl). Os ydych yn gohirio eich hawl mae gennych ddau opsiwn posibl:
Rhaid ichi ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf bum wythnos i gael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Rhaid ichi ohirio hawlio Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis olynol i fod yn gymwys i gael y taliad unswm.
Gall gohirio eich hawliad fod yn arbennig o addas os ydych am weithio ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd yn eich helpu i fod yn llai dibynnol ar Bensiwn y Wladwriaeth. Ond hyd yn oed os nad ydych yn gweithio gallwch barhau i ddewis cael mwy drwy ohirio.
Os ydych yn meddwl am ohirio Pensiwn y Wladwriaeth, mae angen i chi ystyried sut y gallai’r newidiadau i Bensiynau’r Wladwriaeth o Ebrill 2010 effeithio ar eich penderfyniad. Darllenwch y dudalen ganlynol am fwy o wybodaeth.
Mae gennych hawl o hyd i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol am unrhyw waith cyflogedig yr ydych yn ei wneud ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. I gael cyngor gallwch ffonio’r llinell gymorth Hawliau Gweithio a Thalu.
Gall unrhyw arian y byddwch yn ei ennill ar ôl cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth effeithio ar fudd-daliadau ar sail incwm megis Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor.
Gall staff eich canolfan bensiynau ddweud wrthych sut y bydd incwm o waith cyflog yn effeithio ar eich Credyd Pensiwn a budd-daliadau eraill. Gallant hefyd eich cynghori am sut y gallai gohirio derbyn Pensiwn y Wladwriaeth effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau.
Os ydych yn chwilio am waith drwy eich Canolfan Byd Gwaith leol, fe ddylent allu dweud wrthych sut y gall weithio effeithio ar eich budd-daliadau.
Os ydych am ddod o hyd i waith, mae gan y llywodraeth nifer o wasanaethau a all helpu.
Gall gweithio fel gwirfoddolwr roi boddhad mawr ichi ar ôl ymddeol. Hefyd, gall eich helpu i ddysgu sgiliau newydd y gallwch eu defnyddio o bosibl yn ddiweddarach ar gyfer gwaith gyda chyflog.
Os hoffech gael gwybod mwy am wirfoddoli, mae nifer o grwpiau a gwasanaethau a all eich helpu. Mae'r rhain yn delio gyda phopeth o helpu mewn ysgolion i waith amgylcheddol.
Nid oes angen i chi orffen gweithio i hawlio’ch pensiwn cwmni, os gyrhaeddoch yr oedran pan allwch ddechrau hawlio ar ôl 1 Ebrill 2006. Mae gennych sawl opsiwn, gan gynnwys cymryd rhywfaint o'r pensiwn yr ydych wedi'i gronni a pharhau i weithio i'r un cyflogwr.