Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio treth neu Yswiriant Gwladol yn ôl ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych chi wedi talu gormod o dreth neu Yswiriant Gwladol drwy eich swydd neu eich pensiwn neu ar ôl llenwi ffurflen dreth, gallwch ei hawlio yn ôl. Os ydych chi ar incwm isel a bod gennych chi gynilion, mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio yn ôl y dreth a ddidynnwyd o’r llog ar y cynilion cyn i chi ei gael.

Hawlio treth yn ôl os didynnwyd gormod o'ch pensiwn

Os byddwch yn talu treth ar bensiwn cwmni neu bensiwn personol (gan gynnwys blwydd-dal ymddeol) neu ar Bensiwn y Wladwriaeth drwy'r system Talu Wrth Ennill (TWE – y system a ddefnyddir gan gyflogwyr a darparwyr pensiwn i dynnu treth o'ch cyflog neu o'ch pensiwn) gallech fod yn talu gormod yn ddamweiniol am amryw o resymau.

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod pryd y gallech fod wedi talu gormod – a sut mae hawlio treth yn ôl os ydych chi wedi talu gormod.

Hawlio treth yn ôl os ydych wedi talu gormod drwy eich swydd

Weithiau, pan fyddwch yn gweithio gallwch dalu gormod o Dreth Incwm, yn enwedig os byddwch yn newid swyddi'n aml neu fod gennych fwy nag un swydd ar yr un pryd.

Os credwch eich bod wedi talu gormod o dreth gallwch gymryd rhai camau syml er mwyn hawlio ad-daliad. Gweler ‘Hawlio treth yn ôl os ydych chi wedi talu gormod drwy eich swydd’ am ragor o wybodaeth.

Os ydych chi wedi llenwi ffurflen dreth ac yn meddwl eich bod wedi talu gormod

Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad, wedi anghofio dweud rhywbeth ar eich ffurflen dreth Hunanasesu, neu'n meddwl eich bod wedi talu gormod neu rhy ychydig o dreth, mae'n hawdd rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM.

Os ydynt yn cytuno â’ch ffigurau newydd, fe gewch eich ad-dalu, neu os oes treth ychwanegol yn ddyledus gennych o ganlyniad i'r newidiadau, byddant yn dweud wrthych faint sy'n ddyledus gennych.

Cewch wybod sut mae rhoi gwybod am gamgymeriad neu sut mae hawlio ad-daliad drwy ddilyn y ddolen isod.

Hawlio cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ôl

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd angen i chi barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os byddwch yn parhau i weithio.

Hefyd, hyd at yr amser hwn, ceir cyfyngiad ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae angen i chi eu talu bob blwyddyn. I gael gwybod mwy am sut mae hawlio'r arian yn ôl os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu gormod, dilynwch y ddolen isod.

Cael llog di-dreth ar gynilion neu hawlio treth yn ôl

Os ydych chi ar incwm isel a bod gennych gynilion gyda banc neu gymdeithas adeiladu, gallech fod yn talu treth ar log heb fod angen gwneud hynny.

Os yw hyn yn wir, gallwch gofrestru er mwyn cael y llog wedi'i dalu'n ddi-dreth. Gallwch hefyd hawlio ad-daliad am unrhyw dreth y gwnaethoch dalu gormod ohoni.

Treth ar ddifidendau'r DU - nid oes modd ei ad-dalu

Os byddwch chi’n cael incwm o gyfranddaliadau’r DU (‘difidendau’) ni allwch hawlio’r credyd treth o 10 y cant a ddangosir ar y difidend yn ôl, hyd yn oed os nad ydych chi'n talu treth o gwbl. Y rheswm yw nad oes Treth Incwm wedi'i didynnu o'r difidend a dalwyd ichi - yr unig beth yr ydych wedi'i gael yw ‘credyd’ o 10 y cant yn erbyn unrhyw Dreth Incwm sy'n ddyledus. I gael gwybod mwy ynghylch treth a difidendau’r DU dilynwch y ddolen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU