Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud yn siŵr eich bod wedi rhoi'r gorau i dalu Yswiriant Gwladol

Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy gydol eich bywyd gwaith. Maent yn cronni eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth ac i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol. Bydd y math a'r lefel o gyfraniadau y byddwch yn eu talu'n dibynnu ar faint rydych yn ei ennill a ph'un a ydych wedi'ch cyflogi neu'n hunangyflogedig. Byddwch yn rhoi'r gorau i'w talu pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd at oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn gweithio - naill ai fel cyflogai neu'n hunangyflogedig - a bod eich enillion dros lefel benodol, byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Byddwch yn dechrau eu talu pan fyddwch yn 16 oed, ac yn parhau i'w talu hyd nes y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych wedi'ch cyflogi, rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 fel canran o'ch enillion. Os ydych yn hunangyflogedig, rydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 ar gyfradd unffurf wythnosol a chyfraniadau Dosbarth 4 yn flynyddol, fel canran o'ch enillion trethadwy.

Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae'n bosibl bod yr oedran y byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn y broses o gael ei newid. Er mwyn cael gwybod a yw'r newidiadau'n effeithio arnoch, gweler yr ail ddolen isod, 'Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth'.

Beth sy'n digwydd pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth?

Unwaith y byddwch dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fydd angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 na Dosbarth 2. Os byddwch yn parhau i weithio, dim ond ar unrhyw enillion a oedd yn ddyledus cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y bydd rhaid i chi eu talu.

Os byddwch yn parhau i gael eich cyflogi

Os byddwch yn parhau i gael eich cyflogi ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth bydd angen i chi gyflwyno prawf i'ch cyflogwr eich bod wedi cyrraedd yr oedran hwn. Bydd hyn yn galluogi eich cyflogwr i roi'r gorau i ddidynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch enillion. Gallwch wneud hyn drwy gyflwyno unrhyw un o'r canlynol:

  • tystysgrif geni
  • pasbort
  • tystysgrif eithrio oherwydd oedran - mwy o wybodaeth isod

Os byddwch yn parhau i fod yn hunangyflogedig

Os byddwch yn parhau i fod yn hunangyflogedig ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd angen i chi barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4. Codir tâl blynyddol am y cyfraniadau hyn ac efallai y bydd angen i chi eu talu ar unrhyw elw trethadwy ar gyfer y flwyddyn y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Ni fydd angen i chi eu talu o ddechrau'r flwyddyn dreth ddilynol.

Tystysgrif eithrio oherwydd oedran

Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn dosbarthu pecyn i gwsmeriaid sy'n agosáu at oedran Pensiwn y Wladwriaeth sy'n rhoi gwybodaeth am eithrio oherwydd oedran. Os byddwch yn rhoi gwybod iddo y byddwch yn parhau i weithio pan fyddwch yn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, anfonir tystysgrif eithrio oherwydd oedran atoch yn awtomatig. Os na chewch dystysgrif, er enghraifft os byddwch yn oedi cyn hawlio Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wneud un o'r canlynol:

  • defnyddio eich tystysgrif geni neu basport fel prawf oedran
  • gofyn i Gyllid a Thollau EM anfon tystysgrif atoch - gweler y drydedd ddolen isod

Gall tystysgrif eithrio oherwydd oedran fod ar gerdyn neu ar bapur. Mae'r ddau yr un mor dderbyniol â'i gilydd fel prawf oedran.

Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Gallech fod wedi talu gormod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn rhai sefyllfaoedd. Er enghraifft:

  • gwnaethoch barhau i weithio ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth a gwnaeth eich cyflogwr barhau i ddidynnu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
  • gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar elw o hunangyflogaeth am flwyddyn dreth ar ôl yr un y gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • gwnaethoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 fel unigolyn hunangyflogedig pan oedd eich enillion yn llai na therfyn yr Eithriad Enillion Bach

Os ydych yn credu y gallech fod wedi talu gormod darllenwch y canllaw ar wahân isod ar sut i hawlio cyfraniadau Yswiriant Gwladol a ordalwyd yn ôl.

Allweddumynediad llywodraeth y DU