Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes bylchau yn y cofnod o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae’n bosib y bydd hyn yn effeithio ar eich hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a budd-daliadau profedigaeth eraill. Mae'n bosib yr hoffech chi ystyried llenwi'r bylchau drwy dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Bydd angen i chi edrych ar nifer o ffactorau cyn penderfynu a ddylech chi wneud hyn ai peidio.
Mae faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth (a budd-daliadau profedigaeth penodol) y mae gennych hawl iddynt yn seiliedig ar y cofnod o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ystod eich bywyd gweithio, o’r adeg pan oeddech yn 16 oed hyd at oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r cofnod hwn yn cynnwys y cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi wedi’u talu/sydd wedi’u credydu i chi ym mhob blwyddyn dreth. Mae’n rhaid i chi gael isafswm o gyfraniadau a/neu gredydau er mwyn i bob blwyddyn gyfrif fel ‘blwyddyn gymhwyso’ tuag at y cofnod o’ch cyfraniadau.
Efallai fod bylchau yn y cofnod o'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol, a hynny am wahanol resymau. Er enghraifft, efallai fod un o'r canlynol yn wir i chi:
Mae hyn yn dibynnu ar pryd fyddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os byddwch chi’n cyrraedd yr oedran ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, bydd angen llai o flynyddoedd cymhwyso arnoch nag o’r blaen. Hefyd, mae nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen ar gyfer Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth yr un fath i ddynion a menywod – roedden nhw’n arfer bod yn wahanol. Edrychwch ar y tabl isod.
Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, mae'n bosib y bydd modd i chi gael credydau Yswiriant Gwladol i rieni a gofalwyr ar gyfer y cyfnodau hynny pan nad ydych yn gweithio, neu pan fydd eich enillion yn rhy isel i gyfrif ar gyfer blwyddyn gymhwyso oherwydd eich cyfrifoldebau gofalu.
Os cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, gellir lleihau nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth os oedd gennych chi hawl i Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.
Faint o flynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth
Nifer y blynyddoedd cymhwyso |
Dynion |
Menywod |
---|---|---|
Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny |
30 |
30 |
Os gwnaethoch chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010 |
44 fel rheol |
39 fel rheol |
Os nad ydych wedi cael y nifer llawn o flynyddoedd cymhwyso erbyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y swm a gewch yn dibynnu ar y dyddiad y gwnaethoch gyrraedd yr oedran, a nifer y blynyddoedd cymhwyso rydych chi wedi’u cronni.
Gallwch gael syniad o faint o flynyddoedd sydd gennych chi hyd yn hyn a faint o Bensiwn y Wladwriaeth rydych chi wedi’i gronni drwy ddilyn y ddolen isod.
Er 6 Ebrill 2010, mae nifer y blynyddoedd cymhwyso angenrheidiol yr un fath i ddynion a menywod.
Byddwch yn cael 1/30 o Bensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth ar gyfer pob blwyddyn gymhwyso. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd unrhyw nifer o flynyddoedd cymhwyso yn rhoi hawl i chi gael o leiaf rywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Felly, pe bai gennych, er enghraifft, ddeg o flynyddoedd cymhwyso, byddai gennych hawl i 10/30 o Bensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.
Os nad oes gennych y nifer llawn o flynyddoedd cymhwyso a’ch bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010, beth yw effaith hyn ar Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
Nifer y blynyddoedd cymhwyso |
Faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gewch chi (cyfraddau 2012-13) |
---|---|
Dynion: 11-44 |
Rhwng isafswm o £26.86 yr wythnos a’r uchafswm o £107.45 yr wythnos |
Dynion: 0-10 |
Ni fyddwch yn cael dim Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar y cofnod o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol chi. Mae’n dal yn bosib i fenywod gael rhywfaint ar gofnod eu gwŷr os ydynt wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol – gweler isod. |
Gallwch gael gwybod hyn mewn sawl ffordd:
Efallai y cewch lythyr gan Gyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i chi bod bwlch yn eich cofnod. Yn gyffredinol, bydd y llythyrau hyn yn cael eu hanfon rhwng mis Medi a mis Ionawr bob blwyddyn. Nid yw’r llythyr yn mynnu eich bod yn talu – ond fe fydd yn dweud wrthych faint allwch chi ei dalu os ydych chi’n awyddus i lenwi’r bylchau, a sut gallwch chi dalu os byddwch chi’n penderfynu gwneud hynny.
Gallwch weld a yw’n debygol bod gennych fwlch yn eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy ofyn am wybodaeth ynghylch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth gan y Ganolfan Bensiynau’r Dyfodol.
Datganiad o’ch cofnod Yswiriant Gwladol
Gallwch hefyd ofyn Cyllid a Thollau EM am ddatganiad o’ch cofnod Yswiriant Gwladol. Bydd hwn yn dweud wrthych faint o ddiffyg sydd yn eich cofnod, a oes modd i chi leihau’r diffyg hwnna, a sut gallwch chi dalu os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.
Os ydych chi wedi byw dramor, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau – Yr Adran Bensiynau i edrych ar eich cofnod i weld a oes unrhyw ddiffyg, gallant hefyd eich darparu â gwybodaeth ynghylch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth – dilynwch y ddolen isod.
Chi sydd i benderfynu a ydych am wneud iawn am unrhyw ddiffyg. Fodd bynnag, gan fod nifer y blynyddoedd cymhwyso y bydd ar bobl eu hangen i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth wedi gostwng i 30 i’r rheini sy'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, cofiwch fod angen i chi bwyso a mesur yn ofalus a oes angen i chi ychwanegu at nifer y blynyddoedd o gwbl. Ar yr un pryd, bydd angen i chi gofio am sut y bydd peidio ag ychwanegu at y blynyddoedd sydd gennych yn barod yn effeithio ar rai budd-daliadau profedigaeth – edrychwch ar yr adran nesaf i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Cyllid a Thollau EM yn argymell i chi gael gwybod ynghylch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i’ch helpu i benderfynu – cewch wybod sut mae gwneud hyn yn yr adran uchod.
Os nad ydych yn siŵr, gallwch gael help gan Ganolfannau Cyngor ar Bopeth neu gan nifer o fudiadau eraill sy’n cynnig gwasanaeth di-dâl - neu gallech gysylltu ag ymgynghorydd ariannol (ond cofiwch efallai y byddant codi ffi arnoch).
Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, mae eich hawl i fudd-daliadau profedigaeth (sy’n daladwy, os bydd rhywun yn marw, i’w partner priod neu sifil os yw'n iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ymadawedig), yn wahanol i’ch hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. O ran budd-daliadau profedigaeth, mae’n parhau’n hyd at 39 blwyddyn gymhwyso i fenywod a hyd at 44 mlynedd i ddynion. Efallai y byddwch am ystyried hyn wrth benderfynu a ydych am ychwanegu at y blynyddoedd yn y cofnod o’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol ai peidio.
Fel rheol, mae’n rhaid i chi wneud iawn am y diffyg o fewn chwe blynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth pan ddechreuodd y cyfraniadau Yswiriant Gwladol gael eu talu. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn ar gyfer ambell flwyddyn dreth, a cheir rheolau arbennig os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 6 Ebrill 2008 a 5 Ebrill 2015.
I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cau ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, darllenwch ein harweiniad, ‘Pryd a sut mae ychwanegu at gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol’ drwy ddilyn y ddolen isod.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs