Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hunanasesiad ar-lein

Mae Hunanasesiad Ar-lein yn wasanaeth cyflym, effeithlon ac yn dra ddiogel sy’n eich galluogi i gwblhau eich hunanasesiad treth a gwirio eich manylion cyfrif ar-lein. Darparwyd gan Gyllid a Thollau EM mewn partneriaeth â Cross & Stitch.

Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Bydd y ddolen isod yn eich cymryd i’r dudalen mewngofnodi a chofrestru am yr Hunanasesiad Ar-lein. Pan fyddwch yn allgofnodi o’r gwasanaeth byddwch yn dychwelyd i Cross & Stitch. Telerau ac amodau Cyllid a Thollau EM a fydd yn gymwys wrth i chi ddefnyddio’r Hunanasesiad Ar-lein.

Bydd arnoch angen eich Rhif Adnabod Defnyddiwr a chyfrinair wrth fewngofnodi.

Ydych chi’n newydd i Hunanasesiad Ar-lein?

Os nad ydych wedi defnyddio Hunanasesiad Ar-lein o’r blaen, bydd angen i chi gofrestru ac ysgogi eich cyfrif cyn y gallwch lenwi eich ffurflen dreth ar-lein. Gallwch gael gwybod sut i wneud hyn, ac ynghylch y nifer o fuddion sydd ar gael wrth gwblhau ar-lein, drwy ddilyn y ddolen isod.

Gweld a yw gwasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM ar gael

Defnyddiwch y ddolen isod i weld os mae unrhyw ddiffoddiadau wedi’u trefnu neu broblemau sy’n effeithio Hunanasesiad Ar-lein neu wasanaethau Cyllid a Thollau EM eraill.

Cefnogaeth gan y ddesg gymorth

Am help technegol wrth ddefnyddio Hunanasesiad Ar-lein, ffoniwch Ddesg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Cyngor budd-daliadau ar-lein

Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael

Cymorth gyda ffeiliau PDF

I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes

Allweddumynediad llywodraeth y DU