Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deall a defnyddio Hunanasesiad Ar-lein

Os byddwch yn anfon ffurflen dreth Hunanasesu i Gyllid a Thollau EM (CThEM), gallwch wneud hynny ar-lein gan ddefnyddio'r gwasanaeth diogel a ddarperir gan CThEM. Mae sawl mantais o gyflwyno neu anfon eich ffurflen dreth ar-lein yn hytrach nac ar bapur, gan gynnwys cyfrifiadau awtomatig, prosesu'n gyflymach a dyddiadau cau diweddarach.

Manteision anfon eich ffurflen dreth ar-lein

Mae sawl mantais i anfon eich ffurflen dreth ar-lein:

  • mae'n gyfleus ac yn ddiogel - mae eich cyfrif wedi'i amgryptio a'i ddiogelu gan gyfrinair o'ch dewis a Rhif Adnabod Defnyddiwr unigryw
  • byddwch yn cael cydnabyddiaeth cyn gynted ag y bydd CThEM yn cael eich ffurflen dreth
  • cyfrifir eich treth yn awtomatig fel eich bod yn gwybod faint sy'n ddyledus gennych neu sy'n ddyledus i chi ar unwaith
  • gall CThEM ad-dalu unrhyw arian sy'n ddyledus i chi'n gyflymach na phe baech yn anfon ffurflen bapur
  • mae'r dyddiad cau ar gyfer ffurflenni ar-lein ar ôl y dyddiad ar gyfer ffurflenni papur
  • gallwch gwblhau eich ffurflen dreth ar eich cyflymdra eich hun, gan arbed y ffurflen wrth i chi fynd ymlaen
  • gallwch deilwra eich ffurflen, gan gwblhau'r tudalennau cywir ar gyfer eich amgylchiadau chi
  • gallwch storio eich ffurflen wedi'i chwblhau ar-lein ac argraffu copi ar gyfer eich cofnodion
  • gallwch weld eich taliadau Hunanasesu ac unrhyw symiau sy'n ddyledus ar-lein
  • os ydych yn hunangyflogedig, gallwch weld rhwymedigaethau a thaliadau ar gyfer eich ardrethi busnes hefyd
  • gallwch ddiwygio eich manylion cyswllt neu ddefnyddio sianel e-bost ddiogel i ofyn cwestiwn i CThEM
  • gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol - mae'n ddiogel ac rydych yn llai tebygol o fethu dyddiad cau ar gyfer taliad

Penderfynu sut i anfon eich ffurflen ar-lein

Gallwch ddefnyddio gwasanaeth Hunanasesu am ddim CThEM neu feddalwedd fasnachol i anfon y rhan fwyaf o ffurflenni treth ar-lein.

Ni chaiff rhai mathau o ffurflenni treth eu cwmpasu gan wasanaeth Hunanasesu am ddim CThEM, ond gallwch brynu meddalwedd fasnachol i'w hanfon ar-lein. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • SA900 - Ffurflen Dreth Ymddiriedolaeth ac Ystad
  • SA800 - Ffurflen Dreth Partneriaeth
  • Eich ffurflen dreth bersonol os yw'n cynnwys rhai tudalennau ychwanegol, er enghraifft os nad ydych yn breswylydd

Bydd angen i chi gofrestru i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM cyn y gallwch anfon eich ffurflen dreth ar-lein am y tro cyntaf. Rhaid i chi wneud hyn p'un a fyddwch yn defnyddio gwasanaeth am ddim CThEM neu feddalwedd fasnachol.

Gweler yr adran isod i gael mwy o wybodaeth am ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM am y tro cyntaf.

Ffurflenni treth na allwch eu hanfon ar-lein

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw wasanaeth Hunanasesu am ddim gan CThEM na meddalwedd fasnachol ar gyfer anfon y ffurflenni canlynol, felly bydd angen i chi eu hanfon ar bapur:

  • SA700 - Ffurflen Dreth ar gyfer cwmni dibreswyl sy'n agored i dalu Treth Incwm
  • SA970 - Ffurflen Dreth ar gyfer Ymddiriedolwyr Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig

Defnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM am y tro cyntaf

Os ydych newydd fynd yn hunangyflogedig, bydd CThEM yn gosod eich cyfrif Hunanasesu Ar-lein yn awtomatig pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ardrethi busnes.

Os ydych yn sefydlu partneriaeth, caiff cyfrif Hunanasesu Ar-lein ei osod yn awtomatig ar gyfer y Bartneriaeth.

Ym mhob achos arall, bydd angen i chi gofrestru i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM eich hun.

Gwybodaeth sydd ei hangen cyn i chi ddechrau

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch:

  • eich rhif Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw (UTR)
  • naill ai eich cod post neu'ch rhif Yswiriant Gwladol (oni bai eich bod yn byw dramor)

Bydd eich rhif UTR ar ohebiaeth gan CThEM. Os na allwch ddod o hyd iddo, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Hunanasesu a gofyn am iddo gael ei anfon i'ch cyfeiriad cartref. Ni all CThEM ddweud wrthych beth yw eich UTR dros y ffôn.

Os nad ydych wedi cwblhau ffurflen dreth o'r blaen (neu mae peth amser wedi mynd heibio ers i chi wneud hynny), efallai na fydd gennych UTR. Bydd angen i chi ddweud wrth CThEM pam bod angen ffurflen dreth arnoch, drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad, fel y gallwch gael rhif UTR.

Cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein

Os oes gennych gofnod treth Hunanasesu a rhif Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw eisoes, mae cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein CThEM yn broses tri cham lle byddwch yn:

  • cofrestru i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein CThEM ac yn dewis y gwasanaeth(au) perthnasol e.e. Hunanasesu
  • aros i'ch Cod Actifadu gyrraedd - caiff ei anfon i'ch cyfeiriad cartref a bydd fel arfer yn cymryd tua saith diwrnod gwaith
  • actifadu eich cyfrif, rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod

Os byddwch yn cofrestru eich busnes newydd ar-lein ar gyfer ardrethi CThEM, ar neu ar ôl 11 Ebrill 2012, bydd eich cyfrif Hunanasesu Ar-lein wedi'i osod i chi yn awtomatig. Bydd angen i chi aros i'ch Cod Actifadu gyrraedd ac yna actifadu eich cyfrif.

Pam bod angen i chi aros am God Actifadu?

Mae'n fesur diogelwch ychwanegol er mwyn sicrhau mai dim ond chi all ddefnyddio eich cyfrif.

Os ydych wedi defnyddio Hunanasesiad Ar-lein o'r blaen

Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein CThEM ac wedi actifadu eich cyfrifon Hunanasesu Ar-lein, defnyddiwch y ddolen isod i fewngofnodi a defnyddio'r Hunanasesiad Ar-lein.

Os ydych wedi colli eich Rhif Adnabod Defnyddiwr neu'ch cyfrinair

Os na allwch ddod o hyd i'ch Rhif Adnabod neu'ch cyfrinair, gallwch gael un newydd. Ewch i'r dudalen mewngofnodi i wasanaethau ar-lein (gweler y ddolen isod), yna dilynwch y ddolen 'wedi colli Rhif Adnabod Defnyddiwr' ('lost User ID') neu'r ddolen 'wedi colli cyfrinair' ('lost password').

At ddibenion diogelwch bydd angen i chi ateb nifer o gwestiynau cyn cael Rhif Adnabod Defnyddiwr neu gyfrinair newydd. Bydd eich Rhif Adnabod neu'ch cyfrinair yn cael ei anfon atoch drwy e-bost, os ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost presennol, neu drwy bost dosbarth cyntaf.

Os byddwch wedi colli eich Rhif Adnabod Defnyddiwr a'ch cyfrinair, ffoniwch y Ddesg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein.

Problemau â'r gwasanaeth Hunanasesiad Ar-lein

I gael gwybodaeth am argaeledd y gwasanaeth ac unrhyw broblemau technegol gyda Hunanasesiad Ar-lein, dilynwch y dolenni isod. Bydd y manylion diweddaraf am argaeledd y gwasanaeth Hunanasesiad yno ynghyd â gwybodaeth am unrhyw broblemau â'r gwasanaeth a sut mae CThEM yn delio â hwy.

Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein

Os cewch unrhyw broblemau wrth gofrestru ar gyfer Hunanasesiad Ar-lein, gallwch gysylltu â Desg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein benodedig CThEM.

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU