Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwahanol ffyrdd o ffeilio eich ffurflen dreth ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Hunanasesu di-dâl y mae Cyllid a Thollau EM yn ei gynnig i anfon eich ffurflen dreth ar-lein neu gallwch brynu meddalwedd fasnachol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd fasnachol, gan nad yw gwasanaeth di-dâl Cyllid a Thollau EM yn ymdrin â'r holl ffurflenni sydd ar gael ar-lein.

Beth sy'n rhan o wasanaeth ar-lein di-dâl Cyllid a Thollau EM

Gallwch anfon eich prif Ffurflen Dreth Hunanasesu (SA100) ar-lein yn ddi-dâl drwy ddefnyddio gwasanaeth Hunanasesu Cyllid a Thollau EM. Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i anfon gwybodaeth ynghylch yr incwm a’r enillion canlynol, i gefnogi eich prif ffurflen dreth:

  • cyflogaeth
  • hunangyflogaeth
  • partneriaeth – i roi gwybod am yr incwm a gewch fel partner
  • eiddo yn y DU
  • enillion cyfalaf
  • tramor

Dim ond yr incwm ac enillion a restrir uchod y mae gwasanaeth Hunanasesu di-dâl Cyllid a Thollau EM yn delio â nhw.

Gallwch ddefnyddio meddalwedd fasnachol i anfon ffurflenni treth eraill a gwybodaeth ategol ar-lein. Er enghraifft, os ydych yn anfon Ffurflen Dreth ar gyfer Ymddiriedolaethau ac Ystadau neu’r Ffurflen Dreth ar gyfer Partneriaeth, bydd angen i chi ddefnyddio meddalwedd fasnachol.

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM cyn y gallwch chi anfon eich ffurflen dreth ar-lein.

Beth sy'n rhan o feddalwedd fasnachol

Gallwch anfon y ffurflenni treth canlynol ar-lein drwy ddefnyddio meddalwedd y gallwch brynu gan gyflenwyr masnachol:

  • SA100 – Ffurflen Dreth (ar gyfer unigolion – gan gynnwys y rheini sy’n hunangyflogedig)
  • SA800 – Ffurflen Dreth ar gyfer Partneriaeth
  • SA900 – Ffurflen Dreth ar gyfer Ymddiriedolaethau ac Ystadau

Mae cynhyrchion y meddalwedd fasnachol hefyd yn gadael i chi anfon rhai, neu’r cyfan, o’r tudalennau canlynol ar-lein – mae’r rhain yn cefnogi eich ffurflen dreth bersonol (SA100):

  • cyflogaeth
  • hunangyflogaeth
  • partneriaeth - i roi gwybod am yr incwm a gewch fel partner
  • eiddo yn y DU
  • gwybodaeth ychwanegol
  • incwm tramor
  • incwm o ymddiriedolaethau
  • enillion cyfalaf
  • di-breswyl
  • Gweinidog yr efengyl
  • tanysgrifwyr Lloyd's

Dilynwch y ddolen isod i gael rhestr o feddalwedd fasnachol. Mae pob cyflenwr meddalwedd wedi llwyddo i ddangos y gallu i gyflwyno ffurflen dreth 2011-12 a'r tudalennau atodol i Gyllid a Thollau EM.

Nid yw Cyllid a Thollau EM yn argymell un cynnyrch neu wasanaeth arbennig dros un arall, felly bydd yn rhaid i chi ddewis eich hun. Wrth gymharu cyflenwyr, gallech edrych ar bethau megis y nodweddion ychwanegol a gynigant, pa mor hawdd yw'r rhaglen i'w defnyddio a safon y cymorth a roddir.

Mae angen i chi fod wedi cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM cyn y gallwch chi ddefnyddio meddalwedd fasnachol i anfon eich ffurflen dreth ar-lein.

Ffurflenni treth na allwch eu hanfon ar-lein

Ar hyn o bryd, nid oes gwasanaeth na meddalwedd ar gael i anfon y ffurflenni canlynol ar-lein:

  • SA700 – Ffurflen Dreth i Gwmnïau Dibreswyl
  • SA970 – Ymddiriedolwyr Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig

Hefyd ceir rhai achosion eithriadol ble na allwch anfon eich ffurflen dreth bersonol ar-lein. Mae hyn oherwydd nid yw’r tudalennau ychwanegol y bydd angen i chi eu llenwi ar gael ar-lein. Gweler yr adrannau uchod i gael gwybod pa dudalennau sydd ar gael.

Mae’n rhaid i chi anfon y rhain fel ffurflenni papur. Gan nad oes modd i chi eu hanfon ar-lein, mae'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflenni papur hyn yr un fath â'r dyddiad cau ar gyfer ffurflenni ar-lein, sef 31 Ionawr.

Dechrau arni gyda Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM

Cofrestru ar gyfer Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM

Bydd rhaid i chi gofrestru i ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM cyn y gallwch anfon eich ffurflen dreth ar-lein am y tro cyntaf. Bydd angen i chi wneud hyn p'un ai gwasanaeth Hunanasesu di-dâl Cyllid a Thollau EM ynteu feddalwedd fasnachol yr ydych yn ei defnyddio.

Prif nodweddion Gwasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM

Gallwch ddefnyddio Gwasanaeth Ar-lein Cyllid a Thollau EM i wneud y canlynol:

  • anfon eich ffurflen dreth ar-lein
  • gweld a newid eich manylion cyswllt
  • anfon e-bost diogel i ofyn cwestiwn i Gyllid a Thollau EM
  • gweld eich taliadau Hunanasesiad ac unrhyw symiau sy’n ddyledus i chi gan Gyllid a Thollau EM

Llenwi eich ffurflen dreth ar adeg sy'n hwylus i chi

Mae’r gwasanaeth Hunanasesu di-dâl Cyllid a Thollau EM yn arbed eich ffurflen yn ddiogel wrth i chi weithio arni. Nid oes yn rhaid i chi lenwi eich ffurflen dreth ar-lein i gyd gyda'i gilydd. Gallwch lenwi rhan ohoni, ei chadw a dychwelyd ati'n ddiweddarach.

Gallwch ei hargraffu hefyd os dymunwch. Ni fydd neb arall yn gallu edrych ar eich ffurflen, nid hyd yn oed Cyllid a Thollau EM, nes byddwch wedi'i chyflwyno. Gallwch hefyd ei hargraffu os ydych am wneud hynny.
Os ydych yn defnyddio meddalwedd fasnachol, efallai y bydd modd i chi arbed eich gwaith ar eich cyfrifiadur eich hun. Os yw'r nodwedd hon yn bwysig i chi, sicrhewch ei bod ar gael cyn dewis eich meddalwedd.

Cymorth ar gyfer Gwasanaeth Ar-lein Cyllid a Thollau EM

Gallwch gael cymorth i ddefnyddio gwasanaeth Hunanasesu di-dâl Cyllid a Thollau EM gan y Ddesg Gymorth Gwasanaethau Ar-lein. Ni fyddant yn gallu i helpu gyda meddalwedd gan gyflenwyr masnachol.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer ffurflenni treth?

Yma cewch wybod am gosbau, beth i’w wneud os nad oedd angen ffurflen dreth arnoch eleni neu os oedd gennych esgus rhesymol am fod yn hwyr

Allweddumynediad llywodraeth y DU