Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ceir rhai dyddiadau allweddol bob blwyddyn ar gyfer anfon ffurflenni treth a gwneud taliadau. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r dyddiadau hyn. Os byddwch chi’n eu methu, mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu llog a chosbau ariannol. Mae’r arweiniad hwn yn sôn am y cosbau a gyflwynwyd gan Gyllid a Thollau EM ar 6 Ebrill 2011.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn cysylltu â chi, fel arfer ym mis Ebrill, os yw’n credu bod angen i chi lenwi ffurflen dreth.
Cewch lythyr yn esbonio pryd fydd angen i chi anfon eich ffurflen yn ôl. Os ydych chi wedi anfon ffurflen bapur yn y gorffennol, cewch ffurflen dreth bapur.
Os nad yw Cyllid a Thollau EM wedi cysylltu â chi, ond rydych chi’n meddwl efallai fod angen i chi lenwi ffurflen dreth, dilynwch y ddolen isod i weld.
Os bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi lenwi ffurflen dreth, ond nad ydych chi’n credu bod angen i chi wneud hynny, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud hyn mor fuan â phosib. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu cosb ariannol.
Os byddwch chi’n anfon ffurflen dreth bapur, mae’n rhaid iddi gyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn hanner nos ar 31 Hydref.
Dim ond os cawsoch y llythyr yn dweud wrthych am anfon ffurflen dreth ar ôl 31 Gorffennaf y cewch ragor o amser. Yn yr achos hwn, bydd gennych chi dri mis o’r dyddiad y cawsoch y llythyr hwnnw.
Rhaid i’ch ffurflen dreth ar-lein gyrraedd Cyllid a Thollau EM erbyn hanner nos ar 31 Ionawr.
Dim ond os cawsoch y llythyr yn dweud wrthych am ddychwelyd ffurflen dreth ar ôl 31 Hydref y cewch ragor o amser. Yn yr achos hwn, bydd gennych chi dri mis o’r dyddiad y cawsoch y llythyr hwnnw.
Mae dyddiad cau cynharach, sef 30 Rhagfyr, os ydych chi am i Gyllid a Thollau EM gasglu unrhyw dreth sy’n ddyledus gennych chi drwy eich cod treth. Cewch nawr ofyn am hyn os oes llai na £3,000 yn ddyledus gennych. Dangoswch hwn yn glir ar eich ffurflen dreth. Bydd Cyllid a Thollau EM yn ceisio casglu’r dreth sy’n ddyledus drwy eich cod, ni ellir gwneud hyn bob tro.
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, po fwyaf y byddwch yn oedi, y mwyaf y bydd rhaid i chi ei dalu. Felly, mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ffurflen dreth at Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosib. Mae’r tabl isod yn dangos y cosbau y bydd yn rhaid i chi eu talu os bydd eich ffurflen dreth yn hwyr. Os bydd ffurflen dreth Partneriaeth yn hwyr, bydd yn rhaid i bob partner dalu’r cosbau a ddangosir isod.
Cosbau am beidio ag anfon eich ffurflen dreth mewn pryd
Hyd yr oedi |
Y gosb ariannol y bydd angen i chi ei thalu |
---|---|
1 diwrnod yn hwyr |
Cosb o £100. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu neu os ydych chi wedi talu’r dreth a oedd yn ddyledus. |
3 mis yn hwyr |
£10 ar gyfer pob diwrnod dilynol – am uchafswm o 90 diwrnod (£900 i gyd). Mae hyn ar ben y gosb sefydlog uchod. |
6 mis yn hwyr |
£300 neu 5% o’r dreth sy’n ddyledus, pa un bynnag sydd fwyaf. Mae hyn ar ben y cosbau ariannol uchod. |
12 mis yn hwyr |
£300 neu 5% o’r dreth sy’n ddyledus, pa un bynnag sydd fwyaf. Mewn achosion difrifol, efallai y gofynnir i chi dalu hyd at 100% o'r dreth sy'n ddyledus yn hytrach na hynny. Mae’r rhain ar ben y cosbau ariannol uchod. |
Enghraifft
Mae ffurflen dreth Mrs A i fod i gael ei chyflwyno ar 31 Ionawr 2013, ond nid yw’n cyrraedd Cyllid a Thollau EM tan 5 Awst 2013.
Mae dros chwe mis yn hwyr, felly bydd yn rhaid iddi dalu’r canlynol i gyd:
Efallai eich bod yn meddwl bod gennych esgus rhesymol dros anfon eich ffurflen dreth yn hwyr. Gallwch gael gwybod mwy ynghylch esgusodion rhesymol yn yr erthygl ‘Sut mae apelio’ (gweler isod). Nid oes angen i chi aros hyd nes y byddwch yn cael cosb. Dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM mor fuan â phosib.
Os na fyddwch yn anfon eich ffurflen erbyn y dyddiad cau, mae’n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus gennych. Bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth hon a’r llog ar unrhyw dreth yr ydych yn ei thalu’n hwyr. Dim ond drwy ddychwelyd eich ffurflen dreth y gallwch newid yr amcangyfrif hwn. Bydd yn rhaid i chi hefyd dalu unrhyw gosbau ariannol sy’n ddyledus am beidio ag anfon eich ffurflen dreth erbyn y dyddiad cau.
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth. Er enghraifft, ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12 (a ddaw i ben ar 5 Ebrill 2012) rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus erbyn 31 Ionawr 2013. Yr un dyddiad cau ar gyfer talu sydd i ffurflenni papur ac i ffurflenni ar-lein.
Bydd angen i chi dalu un o’r canlynol neu’r ddau ohonynt:
Mae taliadau ar gyfrif yn daliadau rhannol tuag at eich bil treth nesaf. Nid oes rhaid i chi dalu’r rhain bob amser, bydd yn dibynnu ar swm y dreth a’r math o incwm y byddwch yn ei gael.
Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon 'Datganiad Hunanasesu' atoch sy'n dangos y swm sy'n ddyledus gennych. Os na chewch y Datganiad, bydd angen i chi gyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus eich hun. Gallwch ddefnyddio eich cyfrifiad treth a datganiadau blaenorol, neu gallwch fewngofnodi i Wasanaethau Ar-lein Cyllid a Thollau EM a defnyddio’r opsiwn ‘Gweld Cyfrif’ (View Account).
31 Gorffennaf
Dyma’r dyddiad cau ar gyfer gwneud unrhyw daliadau pellach ar gyfrif.
Er enghraifft, ar 31 Gorffennaf 2012, byddech yn gwneud eich ail daliad ar gyfrif ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12.
Os na fyddwch chi’n talu’r dreth sy’n ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol ar amser, po fwyaf y byddwch yn oedi, y mwyaf y bydd yn rhaid i chi ei dalu. Felly mae’n bwysig eich bod yn talu’r dreth cyn gynted ag y bo modd.
Cosbau ariannol am dalu’n hwyr
Hyd yr oedi |
Y gosb ariannol y bydd angen i chi ei thalu |
---|---|
30 diwrnod yn hwyr |
5% o’r dreth sy’n ddyledus gennych ar y dyddiad hwnnw. |
6 mis yn hwyr |
5% o’r dreth sy’n ddyledus gennych ar y dyddiad hwnnw. Mae hyn ar ben y 5% uchod. |
12 mis yn hwyr |
5% o’r dreth sydd heb ei thalu ar y dyddiad hwnnw. Mae hyn ar ben y ddwy gosb 5% uchod. |
Nid yw’r cosbau ariannol uchod yn berthnasol i unrhyw daliadau ar gyfrif y byddwch yn hwyr yn eu talu.
Llog a godir os byddwch yn hwyr yn talu
Bydd yn rhaid i chi dalu llog ar unrhyw swm sy’n ddyledus gennych ac nad ydych wedi’i dalu, gan gynnwys unrhyw gosbau ariannol heb eu talu, nes bydd Cyllid a Thollau EM yn derbyn eich taliad.
Enghraifft
Mae treth Mr T ar gyfer blwyddyn dreth 2011-12 yn ddyledus ar 31 Ionawr 2013. Ni chyrhaeddodd Cyllid a Thollau EM tan 5 Awst 2013.
Mae dros chwe mis yn hwyr, felly bydd yn rhaid iddo dalu’r canlynol i gyd:
Efallai eich bod yn meddwl bod gennych esgus rhesymol dros anfon eich ffurflen dreth yn hwyr. Gallwch gael gwybod mwy ynghylch esgusodion rhesymol yn yr erthygl ‘Sut mae apelio’ (gweler isod). Nid oes angen i chi aros hyd nes y byddwch yn cael cosb. Dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM mor fuan â phosib.
Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu cosb dan yr ‘hen reolau’ a oedd yn berthnasol cyn 6 Ebrill 2011. Er enghraifft, os gofynnodd Cyllid a Thollau EM i chi lenwi ffurflen dreth 2009-10, ac rydych chi’n dal heb ei dychwelyd.
Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs