Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Weithiau, bydd Cyllid a Thollau EM yn mynd ati i wneud yn siŵr eich bod yn talu’r swm treth priodol ar yr adeg briodol. Nid yw hyn yn golygu eich bod wedi gwneud dim byd o’i le. Os bydd Cyllid a Thollau EM yn penderfynu gwirio eich ffurflen dreth, mae’n bosib y byddant yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth i egluro eich ffigurau.
Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth, mae’n bwysig iawn eich bod yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM ar unwaith. Hyd yn oed os ydynt eisoes wedi dechrau ar y broses wirio, dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw gamgymeriadau yn ddi-oed. Os na fyddwch chi’n gwneud hyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych:
Fel arfer, bydd gan Gyllid a Thollau EM 12 mis o'r dyddiad y byddant yn cael eich ffurflen dreth i ddweud wrthych eu bod yn bwriadu gwirio eich ffurflen dreth. Mae’n bosib y cânt fwy o amser os ydych chi wedi newid rhywbeth yn eich ffurflen dreth, wedi ei chyflwyno’n hwyr neu os oeddech wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol yn fwriadol.
Os oes gennych chi eisoes gyfrifydd neu gynghorydd proffesiynol arall, bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu ato i roi gwybod eu bod yn gwirio eich treth. Byddant yn ysgrifennu atoch chi ar yr un pryd i roi gwybod i chi am hyn.
Gallwch gael help cynghorydd proffesiynol unrhyw bryd yn ystod y broses wirio. Bydd angen i chi awdurdodi’ch cynghorydd i weithredu ar eich rhan. Gallwch ddefnyddio ffurflen 64-8 i awdurdodi eich cynghorydd i siarad â Chyllid a Thollau EM am eich materion treth.
Hyd yn oed os oes gennych gynghorydd proffesiynol, cofiwch mai chi sy'n bersonol gyfrifol am eich materion treth eich hun. Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth a roddir i Gyllid a Thollau EM yn gywir.
Bydd pa wybodaeth y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi ei darparu yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei wirio. Fel rheol, byddwch chi'n cael llythyr neu alwad ffôn i ddweud wrthych pa wybodaeth yn union y mae angen i chi ei darparu.
Dylech chi (neu’ch cyfrifydd neu’ch cynghorydd) bob amser allu darparu’r wybodaeth roedd eich ffurflen dreth yn seiliedig arni yn gyflym ac yn rhwydd. Gweler y ddolen isod ynghylch cadw cofnodion i wneud yn siŵr eich bod yn cadw’r wybodaeth gywir.
Fel rheol, bydd Cyllid a Thollau EM yn cysylltu â chi drwy’r post neu dros y ffôn i ofyn am yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt. Os oes llawer o bethau i’w trafod, mae'n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn am gael cwrdd â chi wyneb yn wyneb yn Swyddfa Dreth yn lle.
Os ydych yn hunangyflogedig, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn ymweld â chi yn adeilad eich busnes hefyd.
Does dim rhaid i chi gwrdd wyneb yn wyneb, ond byddai'n help pe byddech chi’n gwneud hynny. Byddwch yn gallu egluro unrhyw bwyntiau rydych chi’n credu bod Cyllid a Thollau EM wedi eu camddeall. Gallwch ofyn i ffrind, perthynas neu’ch cynrychiolydd proffesiynol fod yn bresennol os ydych chi'n dymuno.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi cyfnod rhesymol i chi ddarparu'r wybodaeth y mae ei hangen arnynt. Gallwch chi helpu i wneud yn siŵr bod y broses wirio yn mynd rhagddi’n gyflymach drwy ddarparu’r wybodaeth y mae Cyllid a Thollau EM wedi gofyn amdano yn gyflym. Rhowch wybod iddynt cyn gynted â phosib os nad ydych chi’n gallu gwneud hynny a pham.
Os na fyddwch chi’n rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i Gyllid a Thollau EM, efallai y byddant yn gwneud cais ffurfiol. Os cewch chi gais ffurfiol, bydd yn rhaid i chi ateb neu mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol. Felly, mae’n syniad da i chi helpu cymaint ag y gallwch o’r dechrau.
Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM ohirio neu oedi cyn dechrau ar y broses wirio unrhyw bryd, er enghraifft:
Os ydych chi’n credu y dylai Cyllid a Thollau EM ddod â’r broses wirio i ben yn gyfan gwbl, ysgrifennwch atynt gan egluro'r rheswm dros hynny. Efallai y byddant yn cytuno i ddod â’r broses i ben. Os na fyddant yn cytuno i wneud hynny, efallai y bydd modd i chi herio’r penderfyniad hwn (gweler yr adran ‘Beth ddylech ei wneud os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad’ isod).
Os yw popeth yn iawn
Fe gewch chi lythyr yn dweud wrthych eu bod wedi cwblhau’r broses wirio. Yn yr achos hwn, ni fydd unrhyw newidiadau i'ch hawliad na'ch ffurflen dreth.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn newid eich ffurflen dreth er mwyn dangos y ffigurau cywir, ac fe gewch chi ad-daliad. Mewn rhai achosion, byddwch hefyd yn cael llog ar y swm rydych wedi'i ordalu.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrthych faint y mae’n rhaid i chi ei dalu, sut maent wedi cyfrifo hyn a phryd mae’n rhaid i chi dalu.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu llog hefyd (os dylai'r dreth fod wedi cael ei thalu'n gynharach) neu gosb ariannol.
Pan fydd Cyllid a Thollau EM yn ystyried a oes rhaid i chi dalu cosb ariannol, maent yn edrych ar bethau fel y canlynol:
Mae’n bosib y gofynnir i chi dalu’r swm llawn yn uniongyrchol i Gyllid a Thollau EM. Os felly, gofynnir i chi dalu o fewn 30 niwrnod fel arfer. Ond os na allwch chi dalu’r swm llawn, efallai y gallwch gytuno gyda Chyllid a Thollau EM i dalu'r dreth yn ôl mewn rhandaliadau.
Os mai dim ond swm bach sy'n ddyledus gennych, efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn ei gynnwys yn eich datganiad Hunanasesu nesaf yn hytrach na gofyn i chi dalu’r swm llawn yn syth.
Weithiau, efallai y byddwch chi’n anghytuno â phenderfyniad Cyllid a Thollau EM – er enghraifft, efallai y byddwch chi’n anghytuno â’r gosb ariannol y mae’n rhaid i chi ei thalu.
Os ydych chi am herio’r penderfyniad, gallwch gyflwyno eich apêl i Gyllid a Thollau EM yn ysgrifenedig.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs