Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Apeliadau yn erbyn penderfyniadau treth Cyllid a Thollau EM

Os credwch fod Cyllid a Thollau EM (CThEM) wedi gwneud penderfyniad anghywir ynghylch eich ffurflen dreth Hunanasesu, taliad, neu gosb, gall fod gennych yr hawl i apelio. Gallwch hefyd awdurdodi cynghorydd proffesiynol i apelio ar eich rhan.

Eich hawl i apelio

Bydd CThEM yn ysgrifennu atoch gyda'i benderfyniad ynghylch eich ffurflen dreth Hunanasesu neu daliad. Bydd bob amser yn nodi'n glir os bydd gennych yr hawl i apelio.

Er enghraifft, mae gennych yr hawl i apelio yn erbyn cosb am y canlynol:

  • anfon eich ffurflen dreth yn hwyr
  • talu treth yn hwyr
  • peidio â thalu digon o dreth
  • methu â chadw cofnodion digonol

Ymhlith yr enghreifftiau eraill o benderfyniadau Hunanasesu y gallwch apelio yn eu herbyn mae:

  • asesiadau treth a wnaed gan CThEM os nad ydych wedi talu digon o dreth
  • newidiadau a wnaed gan CThEM, ar ôl edrych ar eich ffurflen dreth

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad Hunanasesu

Bydd CThEM bob amser yn anfon gwybodaeth atoch am sut a phryd i apelio pan fydd yn rhoi gwybod i chi am ei benderfyniad.

Mae angen i chi gyflwyno eich apêl i CThEM yn ysgrifenedig. Os ydych wedi cael hysbysiad cosb dylech ddefnyddio'r ffurflen apelio, os cafodd un ei hatodi. Fel arall, gallwch anfon llythyr. Rhaid i chi apelio o fewn 30 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad cosb neu benderfyniad CThEM.

Bydd angen i chi egluro pam eich bod yn apelio. Er enghraifft, efallai y credwch:

  • eich bod wedi anfon eich ffurflen dreth ar amser
  • bod gennych esgus rhesymol dros fethu dyddiad cau
  • eich bod wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am 'esgusodion rhesymol' isod.

Pwy ddylai gyflwyno'r apêl?

Fel rheol, yr unigolyn y rhoddwyd y gosb iddo, neu ei gynghorydd treth awdurdodedig, ddylai gyflwyno'r apêl.

O ran partneriaethau busnes, efallai bod pob partner wedi cael cosb, er enghraifft os anfonwyd Ffurflen Dreth y Bartneriaeth yn hwyr. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i'r partner a enwebwyd gyflwyno'r apêl ar ran y bartneriaeth a'r partneriaid eraill.

Cyflwyno apêl os oes gennych 'esgus rhesymol'

Weithiau, efallai y credwch fod gennych esgus rhesymol dros anfon ffurflen dreth neu daliad yn hwyr. Er enghraifft, efallai y cafwyd digwyddiad annisgwyl neu anarferol y tu hwnt i'ch rheolaeth a'ch rhwystrodd rhag bodloni'r dyddiad cau. Yn yr achos hwn, rhaid i chi anfon eich ffurflen neu daliad cyn gynted â phosibl. Fel arfer, mae CThEM yn disgwyl derbyn y ffurflen neu'r taliad o fewn 14 diwrnod ar ôl i'r broblem gael ei datrys.

Enghreifftiau o esgusodion rhesymol

Nid oes rheolau pendant, ond dyma rai enghreifftiau lle y gall CThEM gytuno bod gennych esgus rhesymol, os oedd un o’r rhain wedi eich rhwystro rhag anfon eich ffurflen dreth ar amser:

  • salwch sy'n peryglu bywyd, er enghraifft trawiad ar y galon sy'n eich atal rhag delio â'ch materion treth
  • marwolaeth partner yn fuan cyn y dyddiad cau ar gyfer derbyn taliad neu ffurflen dreth
  • oedi annisgwyl neu oedi na ellir ei ragweld o ran y gwasanaeth post
  • dogfennau pwysig yn cael eu colli, drwy ladrad, tân neu lifogydd, ac ni ellir cyflwyno dogfennau eraill yn eu lle mewn pryd
  • rydych yn derbyn eich Cod Actifadu ar-lein, Enw Defnyddiwr neu gyfrinair yn hwyr er i chi ofyn amdanynt cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen dreth

Enghreifftiau o esgusodion annerbyniol

Fel arfer, ni fydd CThEM yn derbyn bod gennych esgus rhesymol o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • nid oes gennych ddigon o arian i dalu'r dreth sy'n ddyledus
  • gwnaethoch ddibynnu ar unigolyn arall i anfon y ffurflen ar eich rhan ac ni wnaeth hynny
  • ni wnaethoch dderbyn nodyn i'ch atgoffa am eich ffurflen dreth neu'ch taliad
  • ni chawsoch eich Cod Actifadu ar-lein, Enw Defnyddiwr neu gyfrinair mewn pryd, ond ni wnaethoch ofyn amdanynt tan ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen dreth

Sut i roi gwybod i CThEM am eich esgus rhesymol

Os byddwch yn methu dyddiad cau a'ch bod o'r farn bod gennych esgus rhesymol, dylech ysgrifennu i CThEM i roi gwybod iddo cyn gynted â phosibl. Peidiwch ag aros tan bod CThEM yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych am y gosb, yr asesiad treth neu benderfyniadau arall. Bydd CThEM yn edrych yn ofalus ar y wybodaeth a roddwyd gennych ac unrhyw dystiolaeth arall sydd ar gael.

Gallwch roi gwybod i CThEM am eich esgus rhesymol drwy gwblhau a dychwelyd ffurflen gais, ffurflen apelio (gweler y dolenni isod) neu drwy anfon llythyr i'ch swyddfa CThEM. Mae'r cyfeiriad ar eich datganiadau Hunanasesu. Os byddwch yn anfon llythyr, dylech ddarparu'r canlynol:

  • eich enw a'ch llofnod
  • eich rhif Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw deg digid - mae'r rhif hwn ar eich ffurflen dreth neu ddatganiad
  • y rheswm pam y credwch fod gennych esgus rhesymol
  • y dyddiad y gwnaethoch anfon eich ffurflen neu daliad, os oedd yn hwyr

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi apelio?

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch yn gallu dod i gytundeb gyda CThEM a setlo eich apêl. Ond os na allwch wneud hynny, gallwch wneud y canlynol:

  • gofyn i'ch achos gael ei adolygu eto, gan rywun arall yn CThEM
  • anfon eich apêl i dribiwnlys annibynnol

Awdurdodi cyfrifydd neu gynghorydd treth

Os byddwch yn penderfynu awdurdodi cynghorydd neu gyfrifydd, byddant yn delio â'ch materion treth ar eich rhan. Byddant yn anfon eich ffurflen dreth ac yn delio ag apeliadau ar eich rhan.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU