Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth i'w wneud os na allwch dalu eich bil treth

Os na allwch dalu eich bil treth, y peth pwysicaf yw peidio â'i anwybyddu. Os bydd y swm yn anghywir oherwydd camgymeriad ar eich ffurflen dreth Hunanasesu, gallwch gadarnhau hynny a chywiro'r camgymeriad. Os na allwch dalu'r bil ar unwaith, efallai y byddwch yn gallu trefnu ei dalu'n ddiweddarach.

Cadarnhewch eich archeb dreth neu'ch Datganiad Hunanasesu

Os nad ydych yn siŵr pa un a yw eich bil yn gywir ai peidio, mae'n syniad da cadarnhau'r ffigurau ar eich ffurflen dreth. Os ydych wedi ychwanegu sero yn ddamweiniol at eich incwm, byddwch yn cael bil sy'n llawer uwch nag y dylai fod.

Gallech hefyd gadarnhau nad ydych wedi defnyddio ffigurau dros dro ar eich ffurflen - os ydych wedi gwneud hynny, bydd eich bil yn seiliedig ar y ffigurau hynny. Bydd angen i chi anfon y ffigurau cywir er mwyn diwygio'r bil.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi anfon eich ffurflen dreth

Os nad ydych wedi anfon eich ffurflen dreth i Gyllid a Thollau EM (CThEM), dylech ei hanfon cyn gynted â phosibl. Bydd CThEM wedi amcangyfrif eich bil treth ac efallai y bydd yn rhy uchel. Bydd yn rhaid i chi dalu cosbau o hyd am ddychwelyd eich ffurflen dreth yn hwyr, ond po fwyaf y byddwch yn oedi, y mwyaf y bydd yn rhaid i chi ei dalu.

Edrychwch ar y gwahanol ffyrdd y gallwch dalu

Gallwch bellach ddefnyddio eich cerdyn credyd i dalu CThEM, yn ogystal â ffyrdd eraill fel siec, cerdyn debyd neu daliad Debyd Uniongyrchol.

Os yw eich bil yn gywir ond na allwch ei dalu o hyd

Os yw eich bil yn gywir ond na allwch ei dalu, rhaid i chi gysylltu â CThEM cyn gynted â phosibl. Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd eich bil yn cynyddu oherwydd caiff cosbau a llog eu hychwanegu.

Os byddwch yn cysylltu ar unwaith, mae'n bosibl y byddwch yn gallu osgoi talu cosbau a dod i drefniant i ledaenu eich taliadau dros gyfnod o amser. Bydd angen i chi drafod eich sefyllfa ariannol yn agored gyda CThEM a diweddaru unrhyw faterion treth.

Dilynwch y ddolen isod i ddarllen canllawiau manwl am:

  • archwilio'r opsiynau i godi arian i dalu'r bil
  • cysylltu â CThEM
  • beth sy'n digwydd os byddwch yn anwybyddu llythyrau neu archebion
  • trafod eich sefyllfa ariannol gyda CThEM
  • gofyn am fwy o amser i dalu
  • eich hawliau os na chewch fwy o amser i dalu

Sefydliadau sy'n cynnig cyngor am ddim ar ddyledion

Mae nifer o sefydliadau sy'n darparu cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar sut i ddelio â phroblemau dyled. Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Cysylltiadau defnyddiol

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU