Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth a dyledion eraill sy'n ddyledus i Gyllid a Thollau EM

Os ydych wedi derbyn bil gan Gyllid a Thollau EM a chithau'n methu ei dalu, mae'n bwysig cysylltu â nhw cyn gynted ag y bo modd er mwyn ceisio dod i ryw drefniant. Os na wnewch chi hynny a bod eich bil yn dal i fod heb ei dalu, bydd Cyllid a Thollau EM yn dechrau camau cyfreithiol i adfer yr arian.

Pa ddewis sydd gennych os na allwch chi dalu'ch bil

Os na allwch chi dalu'ch bil, mynnwch sgwrs â'r swyddfa a gysylltodd â chi ddiwethaf - os byddan nhw'n cytuno eich bod chi mewn gwirionedd yn cael anhawster talu, fe wnân nhw geisio'ch helpu. Mae'n bosib y rhoddan nhw fwy o amser i chi i dalu - fesul rhandaliad o bosib.

Os anwybyddwch chi'ch bil

Os na allwch chi ddod i gytundeb (neu os na fyddwch chi'n talu'r taliadau y cytunoch chi i'w talu) bydd gan Gyllid a Thollau EM sawl dewis.

Atafaelu

Mae hyn yn golygu y gellir cymryd y rhan fwyaf o'ch meddiannau (ond nid y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnoch i fyw ac offer gweithio) a'u gwerthu mewn ocsiwn i dalu eich bil yn ogystal â chostau'r atafaelu.

Bydd rhywun o Gyllid a Thollau EM yn ymweld â'ch cartref neu'ch busnes ac yn gofyn i chi dalu'ch bil. Os na fyddwch chi'n talu, byddan nhw'n rhestru'ch meddiannau ar ffurflen. Os llofnodwch chi'r ffurflen, fel arfer, wnân nhw ddim mynd ag unrhyw eiddo oddi yno'r diwrnod hwnnw - bydd gennych bum niwrnod i dalu. Os na fyddwch chi'n llofnodi, bydd gennych bum niwrnod i dalu o hyd, ond byddan nhw'n mynd â'ch eiddo oddi yno yn y fan a'r lle.

Os caiff eich pethau eu gwerthu am fwy na'r hyn sy'n ddyledus gennych, fe gewch chi unrhyw arian sydd dros ben. Os gwerthir hwy am lai na hynny, bydd rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth.

Achos Llys Ynadon

Gall Cyllid a Thollau EM gychwyn achos mewn llys ynadon os:

  • os oes arnoch chi £2,000 neu lai
  • os yw'r ddyled wedi bodoli ers llai na blwyddyn

Fe gewch wys cyn y gwrandawiad yn dweud wrthych faint sy'n ddyledus ac ymhle a pha bryd y cynhelir y gwrandawiad.

Os talwch chi'r hyn sy'n ddyledus, ni fydd rhaid i chi fynd i'r llys. Os ydych chi'n anghytuno â'r swm, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM - ni all ynadon setlo dadleuon ynghylch maint eich bil.

Gall yr ynadon eich gorchymyn i dalu'ch bil a'r costau ar ben hynny. Os na wnewch chi dalu, fe allan nhw anfon y beilïod i gymryd eich eiddo.

Achosion y Llys Sirol

Os na all Cyllid a Thollau EM gasglu'r ddyled drwy ddefnyddio'r drefn atafaelu neu drwy lys yr ynadon, fe allan nhw ddechrau achos yn y llys sirol. Fe gewch ffurflen gais a phecyn gwybodaeth yn esbonio'ch opsiynau.

Os byddwch chi'n talu'r hyn sy'n ddyledus, atelir y camau cyfreithiol. Oni allwch chi dalu ar unwaith, gallwch wneud cynnig o fewn 14 diwrnod i dalu erbyn dyddiad penodol neu fesul rhandaliad.

Os byddwch chi'n anghytuno â'r swm, gallwch ddweud pam ar y ffurflen gewch chi gan y llys. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi fynd i'r llys i esbonio'r rhesymau.

Os na fyddwch chi'n ateb neu'n talu'r hyn sy'n ddyledus, fe ellid gorchymyn i chi dalu'r bil a ffioedd y llys ar ben hynny. Bydd eich manylion yn cael eu rhoi ar Gofrestr Dyfarniadau'r Llys Sirol, ac yna, mae'n bosib y bydd hi'n anodd i chi agor cyfrif banc neu gael benthyg arian. Ond, os talwch chi o fewn mis i'r dyfarniad, cewch ofyn am gael dileu'r cofnod.

Sylwch fod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon wahanol drefniadau yn eu llysoedd.

Achosion methdalu

os na fyddwch chi'n talu neu os bydd eich dyledion yn fwy na'ch asedau, fe allech fod yn fethdalwr a cholli'ch cartref, eich busnes, eich cynilion a'ch buddsoddiadau:

  • rhoddir gorchymyn statudol i chi dalu a'i gyflwyno'n bersonol i chi yn eich cartref
  • os na fyddwch chi'n talu o fewn 21 diwrnod neu os na chytunwch chi i setlo, bydd 'deiseb methdalu' yn cael ei ffeilio yn yr Uchel Lys
  • bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i chi'n bersonol yn eich cartref
  • bydd angen twrnai arnoch - maen bosib y byddan nhw'n gallu gohirio'r gwrandawiad er mwyn cael amser i gytuno ar delerau setliad
  • os na allwch chi dalu, gall y llys wneud gorchymyn methdaliad
  • gellir penodi ymddiriedolwr i ddefnyddio'ch asedau i dalu costau methdaliad a chyfrannu tuag at eich dyledion

Cyngor am ddim os na allwch chi dalu eich bil treth

Mae cyngor am ddim ar gael gan Taxaid, elusen sy'n helpu pobl ar incwm isel sy'n mynd i drafferthion gyda Chyllid a Thollau EM. Fe allwch chi ffonio'u llinell wybodaeth ar 020 7803 4959 (rhwng 10.00 am a 12.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Mae cyngor ar gael dros y ffôn hefyd neu wyneb yn wyneb gan eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol (CAB). Mae eu rhif yn y llyfr ffôn, neu gallwch chwilio ar-lein.

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi'ch trin yn annheg.

Mae gennych yr hawl i gael eich trin yn deg gan Gyllid a Thollau EM hyd yn oed os na allwch chi dalu'ch treth. Os ydych chi'n anhapus â'r ffordd y cawsoch eich trin, gallwch gwyno.

Allweddumynediad llywodraeth y DU