Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall gorddrafftiau a benthyciadau banc fod yn ffyrdd hawdd o gael benthyg arian yn gyflym. Ond mae'n bosib y byddan nhw'n costio mwy na'r disgwyl, yn enwedig os byddwch chi'n mynd i'r coch heb ofyn i'ch banc yn gyntaf. Dylech sicrhau bob amser eich bod yn deall y cyfraddau llog, y ffioedd a'r telerau a bennir pan fyddwch chi'n cael benthyg arian.
Cyn cael benthyg arian, dylech ystyried y canlynol bob amser:
Bydd gorddrafft yn gadael i chi wario mwy o arian nag sydd gennych yn eich cyfrif banc – hyd at derfyn y cytunwch chi arno gyda'ch banc. Dim ond ar yr union orddrafft y byddwch chi'n ei ddefnyddio y bydd yn rhaid i chi dalu llog, ac ni fydd yn rhaid i chi ddweud wrth y banc at beth rydych chi'n bwriadu defnyddio'r arian.
Os byddwch yn mynd dros y terfyn, neu os byddwch yn mynd i'r coch heb drefnu hynny gyda'ch banc yn gyntaf, mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu tâl ychwanegol a chyfradd uchel o log ar ben hynny. Mae'n debyg y bydd eich banc yn codi tâl arnoch am anfon llythyr atgoffa atoch, ac am unrhyw Ddebyd Uniongyrchol neu siec y byddwch chi'n eu rhoi drwy'ch cyfrif.
Mae'n bosib y bydd y banc hefyd yn rhewi eich cyfrif nes y bydd y gorddrafft wedi'i dalu – a fydd yn golygu na allwch gael gafael ar unrhyw arian a delir i'r cyfrif, megis eich cyflog.
Bydd rhai banciau hefyd yn codi ffi fisol a ffi am sefydlu'r gorddrafft, felly, gall fod yn ddrud os byddwch yn benthyg swm mawr o arian ac yn peidio â’i dalu’n ôl yn gyflym.
Oes angen cyfrif banc newydd arnoch chi?
Bydd rhai banciau neu gymdeithasau adeiladu yn mynd â'r holl arian yn eich cyfrif er mwyn clirio'r gorddrafft neu'r benthyciad. Dylech ystyried agor cyfrif banc sylfaenol yn rhywle arall, a thalu’ch cyflog i mewn iddo, rhag ofn.
Mae benthyciad yn drefniant ffurfiol, fel arfer am gyfnod penodol (a byddwch chi'n cytuno i hyn ar y dechrau). Os ydych chi'n ystyried benthyg arian, bydd angen i chi gytuno i’r canlynol â'ch benthyciwr:
Bydd yn rhaid i chi edrych yn ofalus ar yr ad-daliadau misol er mwyn sicrhau y byddwch yn gallu eu fforddio. Mae'n syniad da hefyd i chi chwilio am y fargen orau cyn gwneud penderfyniad. Hefyd, cofiwch wneud yn siŵr nad oes unrhyw ddyled wedi'i sicrhau yn erbyn eich cartref.
Bydd arian sy'n ddyledus gennych i'r banc yn ddyled nad yw'n flaenoriaethol (oni bai fod gennych chi fenthyciad wedi'i sicrhau ar eich tŷ), ond bydd yn dal yn bosib i'ch banc eich dwyn gerbron y llys er mwyn eich gorchymyn i dalu'r hyn sy'n ddyledus gennych – yn aml gyda chostau ychwanegol ar ben hynny.
Os bydd arnoch chi arian i'ch banc:
Mae arian sy'n ddyledus i'ch banc yn ddyled heb flaenoriaeth, sy'n golygu na fyddwch chi o anghenraid yn colli'ch cartref neu'n cael eich carcharu am beidio â thalu'r dyledion hyn, ond mae'n dal i fod yn bosib i'r banc fynd â chi i'r llys a'ch gorchymyn i dalu'r ddyled - a hynny'n aml gyda chostau ychwanegol ar ben y swm sy'n ddyledus.
Os oes arnoch chi arian i'r banc:
Os na allwch chi dalu'ch ad-daliadau, mae'n bwysig cysylltu â'ch benthyciwr cyn gynted ag y bo modd. Bydd y Bwrdd Safonau Benthyca yn ymrwymo eich benthyciwr i edrych ar eich sefyllfa mewn modd sympathetig a chadarnhaol dan y ‘Cod Benthyca’.
Bydd eich benthyciwr yn aml yn barod i drafod opsiynau megis:
talu’r benthyciad yn ôl dros fwy o amser
Os byddwch chi'n methu ad-daliadau'n rheolaidd ac os na fyddwch yn cael sgwrs am eich amgylchiadau gyda'ch benthyciwr, gallai eich banc eich dwyn gerbron y llys am beidio â thalu a chael Dyfarniad Llys Sirol yn eich erbyn. Bydd hyn yn cyfrif yn eich erbyn os byddwch chi'n gwneud cais am gredyd o unrhyw fath yn y chwe blynedd a fydd yn dilyn.
Mae nifer o fenthycwyr, megis banciau a chwmnïau cardiau credyd, wedi cytuno â’r llywodraeth i roi 30 diwrnod o ‘amser i feddwl’ i'r sawl sy’n benthyg arian i ddelio â’i ddyledion. Byddai’n rhaid i chi geisio cyngor gan asiantaeth gynghori sy’n rhad ac am ddim yn gyntaf. Yna, bydd angen i chi ysgrifennu at eich credydwyr yn gofyn iddynt beidio â gweithredu am 30 diwrnod dan yr ymrwymiad i roi amser i feddwl i’r sawl sydd wedi benthyg arian.
Mae hi bob amser yn werth ceisio cael eich banc i gynnig gwell bargen o ran cyfraddau ac amodau.
Pa bryd bynnag y byddwch chi'n negodi benthyciad neu orddrafft, mae'n syniad da dangos eich bod wedi meddwl yn ofalus am y peth. Yn ogystal â siarad â'r banc, fe allech ysgrifennu llythyr yn egluro’r canlynol:
Mae'n bwysig bod yn onest am eich sefyllfa ariannol. Os ydych chi'n poeni am arian, mae'n syniad da cysylltu â'ch banc cyn gynted ag y bo modd.
Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad, gallwch chi gwyno wrth eich banc. Gallai anghydfod godi am y canlynol:
Mae’n bosib y byddwch yn gallu hawlio taliadau banc sydd wedi'u hychwanegu at eich cyfrif yn ôl os aethoch, er enghraifft, dros derfyn eich gorddrafft. Gall yr wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud ynghylch taliadau banc newid – gweler isod.
Rhowch hyd at wyth wythnos i'ch banc geisio datrys eich cwyn. Yna, dylai'r banc anfon llythyr atoch yn nodi ei benderfyniad terfynol ac yn dweud wrthych sut i gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol os ydych chi'n anhapus â'r canlyniad.
Os na chewch chi lythyr terfynol o fewn wyth wythnos, ac os nad ydych chi'n awyddus i roi mwy o amser i'r banc, gallwch gysylltu â Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol i ofyn am ffurflen gwyno.