Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cytundebau hur-bwrcas a dyledion

Fel arfer, byddwch yn codi cytundeb hur bwrcas (HP) neu gytundeb 'gwerthu amodol' pan fyddwch chi'n prynu ceir neu ddodrefn. Dyled yw cytundeb HP, ac fel arfer, fyddwch chi ddim wir yn berchen ar eich nwyddau eich hun nes bod y ddyled wedi'i thalu. Tan hynny, y person brynoch chi'r nwyddau ganddyn nhw (y credydwr) biau nhw.

Sut mae HP yn wahanol i gredyd arferol

Mae cytundebau HP yn wahanol i gytundebau credyd arferol. Ceir rheolau penodol gyda chytundeb HP, gan gynnwys:

  • allwch chi ddim gwerthu'r nwyddau nes bod yr arian i gyd wedi'i dalu
  • gall credydwyr ofyn i chi ddychwelyd y nwyddau os na fyddwch chi'n gwneud taliadau rheolaidd

Gyda chytundeb credyd arferol

  • chi biau'r nwyddau (ac fe allwch eu gwerthu)
  • dim ond gofyn i chi dalu'r arian yn ôl y gall y credydwyr - allan nhw ddim gofyn i chi ddychwelyd y nwyddau

Bydd gwaith papur eich cytundeb yn dweud wrthych pa fath o gytundeb sydd gennych.

Mynd ar ei hôl hi gyda thaliadau HP

Os byddwch chi'n mynd ar ei hôl hi gyda'ch taliadau HP, gall credydwr ofyn i chi ddychwelyd eich nwyddau. Fodd bynnag, os ydych wedi talu mwy na thraean cyfanswm y ddyled, rhaid iddyn nhw fynd drwy'r Llysoedd Sirol gyntaf (neu Lysoedd y Siryf yn yr Alban).

Os ydych chi wedi talu llai na thraean eich dyled, dim ond gorchymyn llys fydd ei angen ar gredydwr i symud nwyddau o'ch eiddo. Ond nid oes rhaid iddyn nhw wneud hyn os ydyn nhw mewn man cyhoeddus. Er enghraifft, os oes gennych gytundeb Hur Bwrcas ar eich car, gall credydwr ei symud oddi ar y stryd heb orchymyn llys.

Os bydd eich credydwr yn mynd â chi i'r llys

Mae'r llysoedd yno i'ch helpu chi a'r credydwr. Os gallwch ad-dalu'r ddyled mewn rhandaliadau rhesymol, mae'n bosib y bydd y llys yn gadael i chi gadw'ch nwyddau.

Os ydych wedi talu mwy na thraean eich dyled

Yn y cyswllt hwn, fe all credydwr geisio cael 'Gorchymyn Dychwelyd' gan y llys sy'n eich gorfodi i ddychwelyd eich nwyddau. Fodd bynnag, rhaid cynnal gwrandawiad llys gyntaf (yn eich Llys Sirol lleol, mae'n debyg).

Cyn y gwrandawiad, mae'r llys yn anfon 'Ffurflen Hawlio' atoch, sy'n rhoi'r cyfle i chi ddychwelyd y nwyddau eich hun. Byddan nhw hefyd yn anfon 'ffurflen addef' atoch sy'n rhoi cyfle i chi:

  • esbonio eich sefyllfa ariannol
  • gwneud cynnig newydd i dalu'r credydwr yn fisol

Rhaid i chi anfon y ffurflen addef yn ôl i'r llys o fewn 14 diwrnod. Yna, bydd y llys yn sgwrsio gyda'r credydwr i weld a fydd yn barod i dderbyn eich telerau. Os bydd, caiff y gwrandawiad ei ganslo; os na fydd, neu os na fyddwch chi'n anfon y ffurflen yn ôl, bydd y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen.

Yna, bydd y llys yn penderfynu a ddylid gorfodi'r gorchymyn Dychwelyd ynteu ei 'ohirio' (gan olygu y caiff ei orfodi os methwch chi daliad arall yn ddiweddarach). Os caniateir i chi gadw'r nwyddau, bydd y llys yn pennu eich taliadau misol newydd.

Os na fyddwch chi'n bresennol yn y gwrandawiad, fel arfer bydd y barnwr yn caniatáu'r Gorchymyn Dychwelyd

Os ydych wedi talu llai na thraean eich dyled

Yn yr achos hwn, dyma'r dewis fydd gennych:

  • gofyn i'r credydwr gytuno i delerau newydd (os gallwch chi fforddio'r rhandaliad misol a rhywbeth tuag at yr ôlddyledion, mae credydwyr yn aml yn barod i helpu)
  • gofyn i'r llys am 'Orchymyn Amser' (a allai newid y swm y byddwch chi'n ei dalu, hyd y benthyciad, neu'r gyfradd llog)

Terfynu'r cytundeb HP eich hun

Dan rai amodau, mae'n fwy realistig terfynu'r cytundeb - yn enwedig os na allwch chi wneud taliadau rhesymol.

Pryd y cewch chi derfynu cytundeb HP?

Cewch derfynu cytundeb HP defnyddiwr (h.y. nid cytundeb rhwng busnesau) unrhyw bryd cyn gwneud y taliad terfynol. (Bydd pob taliad ar wahân i'r olaf un ar gyfer rhent; ac fe rennir y taliad terfynol rhwng y rhent a swm penodol i brynu'r nwyddau.)

Sut mae terfynu cytundeb HP

Fel arfer, cewch wneud hyn drwy roi'r nwyddau yn ôl. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd credydwyr yn gofyn am hyd at hanner cyfanswm y cytundeb gwreiddiol (wedi tynnu'r swm rydych chi eisoes wedi'i dalu) - waeth pryd y byddwch chi'n terfynu'r cytundeb. Hefyd, bydd rhaid i chi dalu'r ôlddyledion ac am unrhyw ddifrod (megis traul anghyffredin ar y dodrefn).

Bydd gwaith papur eich cytundeb yn nodi unrhyw amodau arbennig sydd gan y credydwr ar gyfer terfynu cytundeb.

Unwaith i'r nwyddau gael eu dychwelyd

Os oes dal arnoch chi arian i'r credydwr ar ôl dychwelyd y nwyddau, dylech drin hyn fel dyled gyffredin. Os anghytunwch chi â'r swm, rhaid i chi ysgrifennu at y credydwr ar unwaith.

Os bydd y credydwr yn mynd â'r ddyled i'r llys, fe gewch Ffurflen Hawlio a chyfle i gyflwyno'ch dadl (fel sy'n wir gydag unrhyw ddyled arall).

Cwynion

Ers Ebrill 2007 gallwch gwyno i’r Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ynghylch sut y mae benthyciwr neu asiantaeth casglu dyled wedi bihafio wrth ddelio â’ch cyfrif. Bydd rhaid i chi ddilyn trefn gwyno’r benthyciwr yn gyntaf.

Gallwch gwyno am ddigwyddiadau sydd wedi digwydd ers Ebrill 2007 ymlaen yn unig.

Allweddumynediad llywodraeth y DU