Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Delio â benthycwyr arian didrwydded

Y cyngor gorau mewn perthynas â delio â benthycwyr arian didrwydded yw 'peidiwch'. Maent yn codi cyfraddau llog uchel iawn ac weithiau'n defnyddio bygythiadau a thrais i ddychryn pobl nad ydynt yn gallu ad-dalu eu benthyciadau. Mynnwch wybod sut i adnabod benthycwyr arian didrwydded a sut y gallwch roi gwybod amdanynt.

Beth yw benthyciwr arian didrwydded?

Rhoi gwybod am fenthyciwr arian didrwydded yn Lloegr

Os ydych am roi gwybod am fenthyciwr arian didrwydded yn gyfrinachol:

  • ffoniwch 0300 555 2222
  • tecstiwch LOAN SHARK a'ch manylion i 60003
  • anfonwch e-bost at y tîm Atal Benthycwyr Arian Didrwydded

Caiff benthycwyr arian trwyddedig eu rheoleiddio gan y Swyddfa Masnachu Teg a rhaid iddynt ddilyn codau ymarfer y Swyddfa Masnachu Teg.

Mae benthycwyr arian didrwydded yn gweithredu y tu allan i'r gyfraith. Os byddwch yn benthyca ganddynt, mae'r canlynol yn debygol o ddigwydd:

  • byddwch yn cael benthyciad ar delerau gwael iawn
  • byddwch yn talu cyfradd llog eithriadol o uchel (mae cyfraddau mor uchel â 131,000 y cant APR wedi'u cofnodi)
  • byddwch yn wynebu aflonyddu os na fyddwch yn talu eich ad-daliadau yn brydlon
  • bydd pwysau'n cael ei roi arnoch i fenthyca mwy ganddynt er mwyn ad-dalu un ddyled gydag un arall

Os ydych wedi benthyca gan fenthyciwr arian anghyfreithlon, nid ydych wedi cyflawni trosedd - mae'r benthyciwr wedi, a gallai wynebu dedfryd o garchar.

Sut i adnabod benthyciwr arian didrwydded

Bydd benthycwyr arian didrwydded yn aml yn gwneud y canlynol:

  • bod yn gyfeillgar ar y dechrau - dim ond pan na chaiff ad-daliadau eu talu yn brydlon y bydd eu hymddygiad yn newid
  • cynnig ychydig o waith papur neu ddim o gwbl
  • cynyddu'r ddyled neu ychwanegu symiau
  • gwrthod rhoi gwybodaeth hanfodol i'r sawl sy'n cael benthyciad, megis y gyfradd llog neu faint sy'n ddyledus ganddo o hyd
  • cymryd eitemau fel gwarant - er enghraifft, pasbortau, cardiau banc neu drwyddedau gyrru
  • dychryn, bygwth neu ddefnyddio trais

Sut i ganfod a oes gan fenthyciwr drwydded

Mae Cofrestr Gyhoeddus Credyd Defnyddwyr yn rhestru pawb sydd â thrwydded y Swyddfa Masnachu Teg. Mae hefyd yn rhestru pawb sydd wedi gwneud cais am un neu y mae eu trwydded wedi'i thynnu'n ôl neu ei hatal.

Gallwch gael gwybodaeth sylfaenol o'r gofrestr am ddim, gan gynnwys enwau masnachu a'r gweithgarwch y mae'r busnes wedi'i drwyddedu ar ei gyfer.

Er mwyn chwilio'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch 020 7211 8608 rhwng 9.30 am a 4.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu chwiliwch ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Os nad yw benthyciwr wedi'i restru fel bod ganddo drwydded gyfredol, peidiwch â benthyca arian ganddo.

Beth i'w wneud os ydych wedi benthyca gan fenthyciwr arian didrwydded

Cyfryngau cymdeithasol ac Atal Benthycwyr Arian Didrwydded

Edrychwch i weld beth y mae'r tîm Atal Benthycwyr Arian Didrwydded yn ei wneud ar Twitter a Facebook

Weithiau bydd benthycwyr arian didrwydded yn dychryn pobl drwy ddweud y byddant yn cael eu herlyn a hyd yn oed eu hanfon i'r carchar os na fyddant yn talu. Ni all hyn ddigwydd - nid oes gan fenthyciwr didrwydded hawl gyfreithiol i adennill y ddyled. Os ydych wedi benthyca arian gan fenthyciwr arian didrwydded, nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol i chi ei ad-dalu.

Gallwch roi gwybod i'r Tîm Benthyca Arian Anghyfreithlon am fenthyciwr arian didrwydded yn gyfrinachol.

Os ydych yn byw yng Nghymru

  • ffoniwch 0300 123 3311
  • anfonwch neges e-bost i imlu@cardiff.gov.uk

Os ydych yn byw yn Lloegr

  • ffoniwch 0300 555 2222
  • tecstiwch LOAN SHARK a'r manylion rydych am eu cyflwyno i 60003
  • anfonwch neges e-bost i reportaloanshark@stoploansharks.gov.uk

Os ydych yn byw yn yr Alban

  • ffoniwch 0141 2876 655
  • anfonwch neges e-bost i loansharks@glasgow.gov.uk

Beth i'w wneud os ydych yn wynebu aflonyddu

Mae unrhyw fenthyciwr - trwyddedig neu ddidrwydded - sy'n aflonyddu arnoch yn torri'r gyfraith. Dylech roi gwybod i'r tîm Benthyca Arian Anghyfreithlon priodol am unrhyw fenthyciwr arian didrwydded a chysylltu â'r heddlu os ydych mewn perygl uniongyrchol.

Ffyrdd eraill o fenthyca arian

Os oes angen benthyciad arnoch, ewch at fenthyciwr trwyddedig bob amser. Benthycwyr gonest yw'r rhai a fydd yn ystyried benthyca i chi hyd yn oed os yw eich incwm yn isel, os yw eich statws credyd yn wael neu os mai dim ond swm bach am gyfnod byr sydd ei angen arnoch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cyfradd llog uchel o hyd ond bydd y Ddeddf Credyd Defnyddwyr yn diogelu eich cytundeb benthyca.

Chwiliwch am y fargen orau o ran credyd bob amser - nid yw'r ffaith bod benthyciwr wedi'i drwyddedu'n golygu o reidrwydd eich bod yn cael bargen dda.

Os ydych ar incwm isel a bod angen benthyca swm bach am gyfnod byr arnoch, ystyriwch fenthyca gan undeb credyd. Mae undebau credyd yn eich annog i gynilo'r hyn a allwch a dim ond benthyca'r hyn y gallwch fforddio ei ad-dalu. Byddwch yn talu rhwng un a dau y cant o log bob mis.

Ble i gael help a chyngor

Stop Loan Sharks ar YouTube

Gwylio astudiaethau achos ynghylch pobl sy’n delio â benthycwyr arian didrwydded

Mae llawer o sefydliadau'n cynnig help a chanllawiau am ddim mewn perthynas â materion yn ymwneud ag arian. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael help annibynnol am ddim cyn talu gwasanaeth masnachol.

Cyngor ar Bopeth

Mae eich Canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn fan dechrau da am gyngor am ddim. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor am ddim mewn perthynas â phroblemau cyfreithiol ac ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn y llyfr ffôn neu ar wefan Cyngor ar Bopeth.

Y Llinell Ddyled Genedlaethol

Mae'r Llinell Ddyled Genedlaethol yn cynnig help annibynnol a chyfrinachol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Gallwch ffonio'r llinell gymorth ar 0808 8084 000 rhwng 9.00 am a 9.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.30 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn (peiriant ateb 24 awr). Gallwch ysgrifennu atynt hefyd.

Mae gan wefan y Llinell Ddyled Genedlaethol rai cyhoeddiadau defnyddiol y gallwch eu lawrlwytho hefyd.

Gwasanaeth Cwnsela ar Gredyd Defnyddwyr (CCCS)

Mae gan y CCCS linell gymorth sy'n rhoi cyngor diduedd am ddim i bobl â phroblemau gyda dyledion. Gallwch ffonio ei linell gymorth ar 0800 1381 111 rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gallwch ysgrifennu atynt hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU