Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwahanol ffyrdd o gael benthyg arian

Mae benthyciadau, gorddrafftiau a phrynu ar gredyd i gyd yn ffyrdd o gael benthyg arian. Mae gwahanol ffyrdd o gael benthyg arian yn gweddu i wahanol bobl a gwahanol sefyllfaoedd. Sut bynnag y byddwch yn dewis cael benthyg arian, mae'n bwysig eich bod yn sicrhau y gallwch fforddio'r ad-daliadau.

Allwch chi fforddio i gael benthyg arian?

Cyn i chi benderfynu cael benthyg arian mae'n bwysig eich bod yn hollol siŵr y byddwch yn gallu talu'r arian yn ôl yn y dyfodol. Bydd cyfrifiannell cyllidebu'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn eich cynorthwyo i edrych ar eich incwm ochr yn ochr â'ch treuliau er mwyn i chi gael gweld faint o arian fydd gennych dros ben ar ddiwedd pob mis i ad-dalu'r arian a fenthycwyd. Os canfyddwch eich bod eisoes yn gwario mwy na'ch incwm neu'n agos iawn at wneud hynny, meddyliwch yn ofalus a allwch chi fforddio i gael benthyg mwy o arian.

Cofiwch hefyd y gallai ad-dalu benthyciadau a chardiau credyd fod yn broblem os, er enghraifft, y bydd cyfraddau llog yn codi neu os byddwch yn colli eich swydd. Bydd prawf rhyngweithiol y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn eich helpu i weld a oes gennych broblemau neu a ydych yn debygol o gael problemau gyda chael benthyg arian.

Mathau o fenthyciadau

Benthyciad wedi'i warantu/'tâl pellach ymlaen llaw' (further advance)

Gyda benthyciad wedi ei warantu, mae gan y benthyciwr yr hawl i fynnu bod yr ased a ddefnyddiwyd i sicrhau eich benthyciad yn cael ei werthu os nad ydych yn llwyddo i dalu'r arian yn ôl. Gelwir y math mwyaf cyffredin o fenthyciad wedi ei warantu yn 'dâl pellach ymlaen llaw' a chaiff ei wneud yn erbyn eich cartref drwy gael benthyg arian ychwanegol ar eich morgais. (Mae'r morgais ei hun yn fenthyciad wedi ei warantu.) Gan fod benthyciadau wedi eu gwarantu yn llai o risg i'r benthyciwr byddant fel arfer yn rhatach na benthyciadau heb eu gwarantu.

Mae benthyciadau wedi eu gwarantu yn fwyaf addas ar gyfer cael benthyg symiau mawr o arian dros gyfnod hwy, er enghraifft ar gyfer gwneud gwelliannau yn y cartref.

Benthyciadau heb eu gwarantu

Golyga benthyciad heb ei warantu fod y benthyciwr yn dibynnu ar eich addewid i dalu'r arian yn ôl. Maent yn cymryd mwy o risg na gyda benthyciad wedi'i warantu, felly tuedda cyfraddau llog benthyciadau heb eu gwarantu fod yn uwch. Byddwch fel arfer yn gwneud taliadau sefydlog dros gyfnod penodedig ac efallai y cosbir chi os bydd arnoch eisiau ad-dalu'r benthyciad yn fuan. Mae benthyciadau heb eu gwarantu yn aml yn ddrutach ac yn llai hyblyg na benthyciadau wedi'u gwarantu, ond gallant fod yn addas os mai benthyciad tymor byr y dymunwch ei gael (rhwng un a phum mlynedd).

Benthyciad gan Undeb Credyd

Mudiadau ariannol cydfuddiannol yw Undebau Credyd. Maent yn eiddo i'w haelodau ac yn cael eu rhedeg gan yr aelodau ar gyfer eu haelodau. Unwaith y dangoswch eich bod yn gynilwr dibynadwy, byddant hefyd yn rhoi benthyg arian i chi, ond dim ond swm y gwyddant y gallwch fforddio ei dalu'n ôl.

Mae gan aelodau rhywbeth yn gyffredin - er enghraifft, maent yn byw yn yr un ardal, yn gweithio yn yr un lle, yn aelodau o gymdeithas dai neu rywbeth tebyg.

Rheoleiddir Undebau Credyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, a chaiff arian sy'n cael ei gynilo mewn un ei ddiogelu gan y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol ar yr un sail ag y byddai petai'n cael ei gadw mewn banc neu gymdeithas adeiladu.

I ddod o hyd i Undeb Credyd yn eich ardal chi gallwch ddilyn y ddolen isod neu edrych yn y Yellow Pages dan 'Undebau Credyd'.

Llinellau Arian (Moneylines)

Sefydliadau ariannol sy'n ymwneud â datblygu cymunedol yw Llinellau Arian. Byddant yn rhoi benthyg arian i ardaloedd difreintiedig a marchnadoedd nad ydynt yn cael sylw digonol ac nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyllid prif ffrwd, ac yn buddsoddi ynddynt. Maent yn darparu arian ar gyfer y canlynol:

  • benthyciadau personol
  • gwelliannau i gartrefi
  • benthyciadau dychwelyd i weithio
  • cyfalaf gwaith
  • benthyciadau pontio
  • prynu eiddo a chyfarpar
  • cyfalaf cychwynnol
  • pryniant busnes

Gorddrafftiau

Mae gorddrafftiau'n debyg i 'rwyd ddiogelwch' ar eich cyfrif cyfredol; byddant yn caniatáu i chi gael benthyg arian hyd at swm penodol pan nad oes arian yn eich cyfrif a gallant fod yn ddefnyddiol i ymdrin â phroblemau llif arian tymor byr. Mae gorddrafftiau'n fwy hyblyg na benthyciad oherwydd y gallwch eu had-dalu pan fydd hynny'n gyfleus i chi. Er hyn, nid ydynt yn addas ar gyfer cael benthyg symiau mawr o arian dros gyfnod hir oherwydd y bydd y gyfradd llog fel rheol yn uwch na gyda benthyciad personol. Mae'n rhaid i chi gael cyfrif banc er mwyn cael gorddrafft.

Prynu ar gredyd

Mae prynu ar gredyd yn ddull o gael benthyg arian. Gall gynnwys talu am nwyddau neu wasanaethau gan ddefnyddio cardiau credyd neu dan fath arall o gytundeb credyd. Darllenwch 'Prynu ar gredyd: opsiynau, manteision ac anfanteision' - dan 'Yn yr adran hon' ar waelod y dudalen - er mwyn cael gwybod mwy.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Allweddumynediad llywodraeth y DU