Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i siopa o gwmpas am gynnyrch ariannol

Os ydych yn ystyried cynilo neu fuddsoddi, cael morgais neu brynu yswiriant, mae digon o lefydd lle gallwch gymharu'r bargeinion diweddaraf - a dogfennau safonol i'ch helpu i siopa o gwmpas. Gallwch brynu wedyn yn seiliedig ar wybodaeth yn unig, neu gael cyngor. Mae prynu ar ôl derbyn cyngor fel arfer yn cynnig mwy o warchodaeth i chi.

Ble i ddechrau siopa o gwmpas

Lle da i gymharu cynnyrch ariannol yw gwefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol sy'n rheoli gwerthiant y rhan fwyaf o gynnyrch ariannol ac mae'n cyhoeddi gwybodaeth yn ogystal â'r tablau cymharu diweddaraf ar gyfer rhai o'r cynhyrchion, er enghraifft cyfrifon cynilo (gan gynnwys ISAs), morgeisi, pensiynau a blwydd-daliadau pensiwn.

Gallech hefyd:

  • edrych yn adrannau cyllid personol papurau newydd (fel arfer ar ddydd Mercher neu ar benwythnosau)
  • edrych mewn cylchgronau arbenigol ar gyfer defnyddwyr

  • edrych ar deledu testun - mae Ceefax, Teletext neu wasanaethau digidol yn aml yn rhoi'r cyfraddau llog diweddaraf a gwerthoedd cyfranddaliadau

  • edrych ar y rhyngrwyd i ddod o hyd i gynnyrch penodol neu i gael cyngor cyffredinol a chymariaethau

  • defnyddio elusennau a mudiadau dielw - e.e. mae'r Gwasanaeth Cyngor am Bensiynau'n darparu gwybodaeth gyffredinol yn rhad ac am ddim am bensiynau personol a phensiynau cwmni

  • siarad â darparwyr cynnyrch gwahanol am eu cynnyrch eu hunain

Beth i chwilio amdano wrth siopa am gynnyrch ariannol

Mae llawer yn dibynnu ar y math o gynnyrch rydych yn chwilio amdano, ond mae'n bwysig ystyried y canlynol:

  • a fydd yn rhaid ichi dalu ffioedd gweinyddu
  • unrhyw amodau - e.e. am faint o amser yr ydych yn ymrwymo'ch hun neu unrhyw gosbau am ganslo
  • a oes cyfnod ar ôl i chi dderbyn cynnyrch lle gallwch newid eich meddwl
  • yr elw ariannol a gewch a phryd
  • a yw'r cynnyrch yn wirioneddol addas i'ch anghenion penodol
  • risg y buddsoddiad - e.e. beth sy'n digwydd os bydd y farchnad stoc yn cwympo neu os na allwch barhau i wneud eich taliadau
  • a fydd yn rhaid ichi dalu Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf ar eich elw

Safonau'r Llywodraeth i'ch helpu chi i gymharu

Cynnyrch 'cyfranddeiliaid' - cynilion a phensiynau

Mae cynilion a chynnyrch buddsoddi sy'n galw eu hunain yn gynnyrch 'cyfranddeiliaid' yn bodloni safonau'r llywodraeth o ran ffioedd rhesymol, hyblygrwydd a'r wybodaeth a roddir i chi. Unwaith eto, nid argymhellion gan y llywodraeth mohonyn nhw, ond maen nhw'n cynnig meincnod defnyddiol ar gyfer cymharu. Gall cynnyrch cyfranddeiliaid gynnwys:

  • cyfrifon cadw
  • cronfeydd ymddiriedolaeth plant
  • pensiynau
  • cynnyrch buddsoddi tymor canolig (e.e. ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau)

Dogfennau i'ch helpu i siopa o gwmpas

Nodweddion allweddol

Dan reolau'r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, ar gyfer y rhan fwyaf o gynnyrch lle byddwch yn buddsoddi, dylech dderbyn dogfen 'Nodweddion allweddol' safonol cyn i chi brynu neu os ydych chi'n gofyn am ddyfynbris. Bydd y ddogfen hon yn esbonio nodweddion, costau a pheryglon y cynnyrch ac, os yw'n berthnasol, yn dweud wrthych chi a yw'n gynnyrch cyfranddeiliaid ai peidio.

'Ffeithiau Allweddol'

Gyda morgeisi, fe gewch ddogfen ffeithiau allweddol 'Am y morgais hwn' (a elwir weithiau yn 'ddatganiad ffeithiau allweddol' neu 'KFI'). Mae hyn yn crynhoi nodweddion a chostau'r morgais y mae gennych ddiddordeb ynddo.

Prynu gyda neu heb gyngor

Gallwch brynu cynnyrch ariannol yn seiliedig ar wybodaeth yn unig neu ar ôl cael cyngor ac argymhelliad.

Os byddwch yn prynu heb gael cyngor a bod y cynnyrch yn anaddas wedyn neu eich bod yn derbyn gwasanaeth gwael, mae gennych lai o warchodaeth nag y byddai gennych pe baech wedi prynu gyda chyngor.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Cyfrif Cynilo Unigol i Bobl Iau

Mae cyfrifon cynilo di-dreth i blant ar gael bellach

Allweddumynediad llywodraeth y DU