Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych unrhyw blant neu wyrion a wyresau, efallai y byddwch yn awyddus i agor cyfrif cynilo iddynt er mwyn eu hannog i gynilo o oedran ifanc. Yn gyffredinol, mae cyfrifon cynilo plant yn gweithio yn yr un ffordd â chyfrifon oedolion, ond mae rhai cynlluniau ar gyfer plant yn benodol.
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu'n cynnig cyfrifon cynilo sy'n arbennig ar gyfer plant. Fel arfer, tynnir 20 y cant o dreth oddi ar log y rhan fwyaf o gyfrifon oedolion cyn ei dalu – mae hyn yn wir am y rhan fwyaf o gyfrifon cynilo.
Fodd bynnag, mae gan blant, fel oedolion dan 65 oed, Lwfans Personol, sy'n £8,105 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13. Dyma incwm y gallan nhw ei dderbyn yn ddi-dreth. Cyhyd â bod eu hincwm blynyddol (gan gynnwys llog) yn is na'r swm hwn, byddant yn gallu:
All plentyn ddim hawlio i dderbyn llog cynilion yn ddi-dreth os yw eu hincwm yn uwch na'r lwfans personol. Ond byddan nhw'n gallu adhawlio rhywfaint o dreth oherwydd nad ydynt wedi defnyddio terfyn y gyfradd ddechreuol (10 y cant) ar gyfer cynilion yn unig (hyd at £2,710 yn uwch na'r lwfans personol).
Gallwch roi faint fynnoch o arian i blentyn neu fuddsoddi cymaint ag y mynnwch ar eu rhan. Ond os ydych yn rhiant neu'n llys riant, a bod yr arian yr ydych yn ei roi i'ch plentyn yn ennill mwy na £100 o log y flwyddyn, bydd y llog hwn yn cael ei drethu fel petai'n incwm i chi.
Dim ond i rieni a llys rieni y mae'r terfyn o £100 yn berthnasol. Nid oes rhaid i neiniau a theidiau ac oedolion eraill sy'n rhoi arian i blant dalu treth os yw'r llog yn fwy na £100 y flwyddyn.
Os byddwch yn rhoi arian i'ch plant neu'ch wyrion (neu i blant yr ydych yn gofalu amdanynt) gall eithriadau i'r Dreth Etifeddu olygu nad oes rhaid talu treth arno. Os byddwch yn marw o fewn saith mlynedd i roi'r arian, efallai y bydd rhywfaint o Dreth Etifeddu i'w thalu.
Mae sawl cynnyrch cynilo di-dreth ar gael yn arbennig i blant
Y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif cynilo di-dreth a hirdymor ar gyfer plant a aned rhwng 1 Medi 2002 ac 2 Ionawr 2011. Gall eich plentyn fod yn gymwys am gyfrif:
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon taleb atoch i agor cyfrif. Gall y daleb fod gwerth £50 neu £250 gan ddibynnu ar bryd ganed eich babi. Gallwch gael taliad ychwanegol hefyd os er enghraifft eich bod ar incwm isel.
Gall unrhyw un rhoi arian mewn i gyfrif plentyn. O 1 Tachwedd 2011, y cyfyngiad ar gyfer yr holl gyfraniadau yw £3,600 y flwyddyn. Ni fydd yna dreth ar unrhyw log neu enillion. Bydd eich plentyn yn gallu defnyddio’r arian yn y cyfrif pan fyddant yn cyrraedd 18.
Cyfrifon Cynilo Unigol i Bobl Iau (ISAs)
Cyfrifon cynilo di-dreth hirdymor i blant o dan 18 oed sydd ddim yn gymwys i gael cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF) yw ISAs i Bobl Iau. Maent ar gael o 1 Tachwedd 2011.
Yn wahanol i gyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant ni cheir taliadau gan y llywodraeth ISAs i Bobl Iau.
Mae Bondiau Bonws Plant NS&I yn darparu llog di-dreth i blant dan 16, gyda bonws ychwanegol os bydd yr arian yn aros heb ei gyffwrdd am bum mlynedd.
Mae bondiau NS&I ar gael mewn 'cyhoeddiadau' ac mae pob cyhoeddiad yn talu'n wahanol. Gallwch fuddsoddi rhwng £25 a £3,000 ym mhob cyhoeddiad, ar gyfer pob plentyn.
Gan fod Bondiau Bonws Plant NS&I yn cael eu cynnig gan NS&I, maent yn cael cefnogaeth y llywodraeth sy'n golygu y bydd eich cyfalaf yn gwbl ddiogel. Mae'r ffurflenni cais ar gael ar-lein neu yn Swyddfa’r Post.
Gall rhieni a neiniau a theidiau ddefnyddio cynnyrch cynilo di-dreth eraill sydd ar gael i oedolion ar ran plant. Gan nad yw'r rhain wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant mewn rhai achosion bydd yn rhaid i chi reoli'r cyfrif nes bydd y plentyn gyrraedd oed penodol.
Gallwch fuddsoddi rhwng £100 a £15,000 am dair i bum mlynedd mewn Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol. Mae gwerth y buddsoddiad yn sicr o aros ar y blaen i chwyddiant pan gaiff ei ddal am flwyddyn o leiaf.
Ni chodir Treth Incwm y DU na Threth Enillion Cyfalaf ar yr arian a geir. Gellir cyfnewid y tystysgrifau am arian yn gynnar, ond ni thelir llog na llog mynegrifol os cânt eu cyfnewid yn y flwyddyn gyntaf.
Rhaid i rywun arall brynu Tystysgrifau ar ran plant dan saith oed.
Gall unigolyn, gan gynnwys plentyn, fod yn berchen ar rhwng £100 a £30,000 o Fondiau Premiwm. Ni thelir llog ar Fondiau Premiwm, ond bydd y gwobrau sy'n cael eu tynnu bob mis yn ddi-dreth.
Gall rhieni, neiniau a theidiau a hen-neiniau a hendeidiau brynu Bondiau Premiwm i blentyn, ond rhaid i riant neu warcheidwad ddal y Bond ar ran y plentyn tan ei ben-blwydd yn 16.
Pan fydd plentyn yn cyrraedd 16 oed gall agor ISA arian di-dreth, cyn belled â'u bod yn byw yn y DU. Rhaid i chi fod yn 18 oed i gael ISA stociau a chyfranddaliadau.
Pan fydd plentyn yn cyrraedd 16: