Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cynllunio i brynu cartref

Mae'n debyg mai prynu eiddo fydd eich buddsoddiad unigol mwyaf. Felly mae'n bwysig cyfrifo cyfanswm y gost - nid y morgais yn unig - a faint y gallwch ei fforddio mewn gwirionedd. Bydd yn rhaid i chi hefyd gynllunio ar gyfer unrhyw gynnydd yn eich gwariant yn y dyfodol, megis cynnydd mewn cyfraddau llog.

Costau prynu 'untro'

Blaendal

Mae benthycwyr yn disgwyl fwyfwy i chi gael swm mawr i roi fel blaendal. Bydd angen i chi gynilo ar gyfer hyn a chostau morgais eraill.

Ffioedd syrfëwr

Fel arfer bydd angen i chi dalu am arolwg prisio sylfaenol y benthyciwr - mae'r gost yn amrywio yn ôl y benthyciwr a gwerth yr eiddo ond mae fel arfer yn ychydig o gannoedd o bunnoedd. Er mwyn cael adroddiad am gyflwr yr eiddo bydd angen arolwg manylach arnoch chi a bydd yn rhaid i chi gymharu dyfynbrisiau ar gyfer hynny.

Treth Stamp

Os yw pris yr eiddo dros £125,000 byddwch yn talu Treth Stamp ar Dir o rhwng un a phedwar y cant o werth yr eiddo. Fodd bynnag, os ydych chi’n brynwr am y tro cyntaf neu y mae’r eiddo mewn ardal 'ddifreintiedig' ddynodedig, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Stamp ar Dir. Gyda rhai adeiladau newydd, bydd y datblygwr yn talu'r Dreth Stamp ar Dir i chi.

Ffioedd cyfreithiwr neu drawsgludwr

Mae'r rhain yn cynnwys chwiliadau a gwaith papur cyfreithiol. Mae'r costau'n amrywio yn ôl ardal a/neu werth yr eiddo (neu swm y benthyciad os yw'n ailforgais) ac maent yn cynnwys:

  • ffioedd cyfreithiol
  • ffi'r gofrestrfa dir (defnyddiwch y cyfrifiannell isod)
  • chwiliadau awdurdod lleol
  • chwiliadau amgylcheddol a draeniau
  • costau gweinyddol

Bydd eich twrnai yn cadarnhau costau'r ffioedd uchod.

Cyfrifiannell Ffi'r Gofrestrfa Dir

Gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell ar-lein Ffioedd y Gofrestrfa Dir isod:

  • i weld beth yw ffioedd morgais, sgroliwch i lawr a dewiswch yr opsiwn 'Trosglwyddo'r cyfan am ei werth', yna nodi pris prynu'r eiddo
  • ar gyfer ailforgais, sgroliwch i lawr a dewis 'Ffi - cofrestru (tir cofrestredig)', yna nodwch swm y benthyciad

Ffioedd trefnu'r benthyciwr

Mae'r rhain yn amrywio yn ôl benthyciwr, ond gallan nhw gynnwys:

  • ffi archebu (morgeisi cynnig cyfyngedig yn unig)
  • ffi trefnu neu gwblhau (yn aml gellir ei ychwanegu at y benthyciad)

Premiwm yswiriant y benthyciwr

Os oes gennych fenthyciad canran uchel, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi untro a elwir yn 'dâl benthyca uwch'. Mae hwn yn diogelu'r benthyciwr oni allwch ad-dalu'ch morgais. Mae’n dibynnu ar faint yr ydych yn ei fenthyca a faint o flaendal yr ydych yn ei roi. Gall y premiwm fod yn uchel; holwch eich ymgynghorydd morgeisi. Fel arfer gallwch ei ychwanegu at y morgais ond i hynny beidio â mynd â chi dros uchafswm benthyciad y benthyciwr ar gyfer gwerth yr eiddo, ond bydd hyn yn cynyddu'ch taliadau llog.

Costau symud o eiddo neu symud i eiddo

Mae'r rhain yn amrywio yn ôl:

  • lle rydych chi'n byw
  • maint eich eiddo
  • faint o ddodrefn sydd gennych
  • pa mor bell yr ydych yn symud
  • faint o bacio y byddwch yn ei wneud eich hun

Mae'n well cael sawl pris a sicrhewch fod y sawl sy'n gwneud y gwaith gyda'r yswiriant priodol.

Costau misol cyson

Ad-daliadau morgais

Bydd yn rhaid i chi gyllidebu ar gyfer eich ad-daliadau morgais misol - a phwyso a mesur pa effaith fyddai newid yn y cyfraddau llog yn ei gael ar y rhain.

Os mai morgais 'llog yn unig' sydd gennych, bydd yn rhaid i chi fel arfer gyllidebu ar gyfer talu'n fisol i fuddsoddiad er mwyn talu'n derfynol am y benthyciad ar ddiwedd y cyfnod.

Yswiriant bywyd/yswiriant diogelu'r morgais

Efallai y bydd yn rhaid i chi gymryd polisi yswiriant bywyd, megis 'yswiriant cyfnod' neu 'bolisi diogelu morgais'. Gall y taliadau misol fod yn gymharol isel a bydd yr yswiriant yn talu'r arian sydd arnoch chi os byddwch yn marw cyn i chi ad-dalu'r benthyciad. Holwch eich ymgynghorydd morgeisi am ragor o fanylion. (Os oes gennych bolisi gwaddol morgais, mae hyn yn cynnwys yswiriant bywyd.)

Gallwch hefyd gymryd yswiriant sy'n talu'ch ad-daliadau misol os byddwch yn sâl neu'n colli'ch gwaith - ond gall hwn fod yn ddrud.

Yswiriant adeiladau a chynnwys

Unwaith y byddwch wedi cyfnewid y contractau ar gyfer eich eiddo, chi sy'n gyfrifol am ei yswirio. Gall eich benthyciwr fynnu bod gennych yswiriant adeiladau - ond allan nhw ddim eich gorfodi i brynu eu hyswiriant hwy. Ond mewn rhai achosion, bydd benthycwyr yn mynnu eich bod yn cymryd eu hyswiriant hwy ar ôl cwblhau.

Treth gyngor, biliau'r prif wasanaethau a biliau rheolaidd eraill

Cofiwch y gallai'ch biliau misol godi pan fyddwch yn symud.

A fydd gennych ddigon i dalu am eich costau misol newydd?

Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell cyllidebu'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gyfrifo a fydd gennych ddigon i dalu'ch biliau misol. Maen nhw hefyd yn cynnig awgrymiadau defnyddiol pellach ar brynu tŷ. Cewch ddefnyddio'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol am ddim a sefydlwyd gan y llywodraeth. Mae’n annibynnol ac nid yw’n gwerthu dim ar ei ran ei hun neu ar ran rhywun arall.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Cyfrif Cynilo Unigol i Bobl Iau

Mae cyfrifon cynilo di-dreth i blant ar gael bellach

Allweddumynediad llywodraeth y DU