Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut mae benthycwyr yn penderfynu faint gewch chi ei fenthyg

Pan fyddwch yn cael morgais, bydd benthycwyr yn edrych ar nifer o bethau i gyfrifo faint y gallwch ei fenthyg. Mae'r rhain yn cynnwys eich enillion a'ch gwariant, gwerth yr eiddo a'ch hanes credyd. Faint bynnag y byddwch yn ei fenthyg, bydd rhaid ichi sicrhau y gallwch fforddio'r ad-daliadau.

Eich enillion

Yn y gorffennol mae benthycwyr wedi cynnig benthyca symiau yn seiliedig ar enillion. Yn ddiweddar mae wedi dod yn fwy cyffredin i fenthycwyr wneud asesiad fforddiadwyedd wrth gyfrifo faint o arian y byddant yn ei fenthyca i chi.

Beth allwch chi ei fforddio?

Mae'n bwysig rhoi gymaint ag y bo modd o fanylion i'ch benthyciwr am eich enillion a'ch gwariant er mwyn i chi gael cynnig morgais y gallwch ei fforddio. Hefyd, bydd angen i chi gofio cyllidebu ar gyfer costau untro prynu eiddo - megis ffioedd gweinyddu a chyfreithwyr a Threth Stamp.

Mae gan wefan Gwasanaeth Cynghori Ariannol ystod o gyfrifianellau hawdd eu defnyddio i'ch helpu i gyfrifo beth y gallwch ei fforddio a chost fisol debygol morgais.

Eich eiddo

Gwerth yr eiddo

Bydd eich benthyciwr yn trefnu i brisio'r eiddo i weld beth yw ei werth.

Mathau arbennig o eiddo

Mae rhai benthycwyr yn cyfyngu ar y swm y byddant yn ei fenthyca ar rai mathau o eiddo, er enghraifft tai gyda fframwaith coed. Mae'n werth holi o gwmpas i weld beth sydd ar gael gan wahanol gwmnïau.

Eich hanes credyd

Bydd eich benthyciwr yn archwilio'ch hanes credyd ac yn gofyn i fenthycwyr blaenorol neu landlordiaid am eirdaon. Os dengys eich record eich bod wedi cael anhawster gyda benthyciadau neu daliadau rhent yn y gorffennol, efallai y bydd yn effeithio ar faint y gallwch ei fenthyg.

Peidiwch â digalonni os bydd benthyciwr yn gwrthod rhoi morgais i chi neu'n cynnig bargen ddrud - mae'n werth siopa o gwmpas o hyd.

Morgeisi hunandystiolaeth

Oni allwch brofi eich incwm (efallai oherwydd eich bod yn hunangyflogedig a heb ddigon o gyfrifon) efallai y gallwch gael morgais 'hunandystiolaeth'. Er mae’n bosib na fydd yn rhaid i chi gynnig prawf o’ch incwm i’r benthyciwr, bydd y benthyciwr dal am sicrhau eich bod chi’n gallu fforddio’r ad-daliadau, felly efallai byddant yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch gwariant arall.

Allweddumynediad llywodraeth y DU