Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw morgais?

Benthyciad yw morgais yr ydych yn ei gymryd i brynu eiddo. Mae'r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu'n cynnig morgeisi, yn ogystal â chwmnïau benthyca morgeisi arbenigol. Os byddwch yn newid eich benthyciwr, ond ddim yn symud cartref, cyfeirir ato fel 'ailforgais' (remortgage). Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yn rheoleiddio’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o forgeisi yn cael eu gwerthu, ond nid morgeisi ail-dâl na’r rhan fwyaf o forgeisi prynu-i-osod. Golyga hyn y bydd yn rhaid i gwmnïau ddilyn rheolau a safonau penodol wrth ddelio â chi.

Dewis morgais - ble i ddechrau

Gallwch gael morgais yn uniongyrchol oddi wrth y benthyciwr (banciau, cymdeithasau adeiladu a benthycwyr morgeisi arbenigol), neu gallwch ddefnyddio brocer morgeisi. Gallwch brynu ar sail 'gwybodaeth' yn unig neu gael cyngor ac argymhelliad ynghylch morgais sy'n addas i'ch anghenion penodol chi.

Dulliau ad-dalu

Mae dwy brif ffordd o dalu'ch morgais yn ôl - morgais 'ad-dalu' a morgais 'llog yn unig'. Gyda morgais ad-dalu, rydych yn gwneud ad-daliadau'n fisol am gyfnod cytunedig (y 'cyfnod') hyd nes eich bod wedi talu'r holl fenthyciad a'r llog yn ôl.

Gyda morgais llog yn unig rydych yn gwneud ad-daliadau misol am gyfnod cytunedig ond dim ond y llog ar eich benthyciad y bydd hwn yn ei dalu (mae morgeisi gwaddol yn gweithio fel hyn). Bydd angen ichi hefyd fel arfer dalu i gynllun cynilo neu gynllun buddsoddi arall a fydd, gobeithio, yn talu'r benthyciad ar ddiwedd y cyfnod.

Nodweddion hyblyg

Mae rhai morgeisi'n cynnig opsiynau i amrywio eich taliadau misol, neu i gyfuno eich cyfrif morgais gyda chynilion ac incwm arall - morgeisi hyblyg, morgeisi cyfrif cyfredol a morgeisi 'gwrthbwyso' yw'r enw ar y rhain.

Cyfraddau llog

Fe welwch hefyd fod ystod o gyfraddau llog i ddewis ohonynt. Er enghraifft, mae cyfraddau 'amrywiol' a 'thracio' yn newid gyda chyfraddau Banc Lloegr, gosodir cyfraddau 'sefydlog' am nifer penodedig o flynyddoedd, ac mae gan gyfraddau 'wedi'u capio' gyfradd llog amrywiol gyda throthwy fel na fydd eich taliadau'n mynd yn uwch na swm penodol.

Yswiriant

Efallai y bydd benthyciwr yn mynnu eich bod yn prynu yswiriant bywyd a fydd yn ad-dalu'ch morgais petaech yn marw, a elwir yn yswiriant Bywyd Gwarchod Morgais (Mortgage Protection Life cover). Gallwch hefyd gael yswiriant i ddiogelu eich incwm neu dim ond eich taliadau morgais petaech yn dod yn wael neu'n anabl, neu'n colli eich swydd, a elwir yn Yswiriant Gwarchod Taliadau Morgais (MPPI).

Allweddumynediad llywodraeth y DU