Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Unwaith y byddwch yn gwybod oddeutu faint yr ydych eisiau'i fenthyg ac wedi penderfynu ar eich benthyciwr, mae camau allweddol i'w dilyn i gael morgais. Mae'r rhain yr un fath pa un a ydych yn benthyg am y tro cyntaf neu'n newid eich benthyciwr.
Os ydych yn deall y broses gwneud cais, gallwch fod yn barod gyda phopeth y bydd y benthyciwr ei angen. Gall hyn gyflymu'r broses o wneud cais am eich morgais.
Efallai y bydd benthyciwr neu ymgynghorydd morgeisi yn cynnig rhoi ‘cymeradwyaeth’ neu ‘benderfyniad mewn egwyddor’ i chi. Dengys hwn faint y bydd y benthyciwr yn debygol o fod yn fodlon rhoi menthyg i chi yn seiliedig ar delerau ac amodau penodol. Gall hyn fod yn defnyddiol pan rydych wedi dewis eich morgais ac rydych yn barod i wneud cynnig ar eiddo.
Peidiwch byth â chael eich temtio i or-ddweud beth yw eich incwm. Gallech gael eich hun gyda morgais na fyddwch yn gallu ei fforddio.
Bydd angen rhywun arnoch i ddelio gydag ochr gyfreithiol y gwaith - chwiliadau lleol, llunio contractau a gwaith papur cyfreithiol arall. Gallech ddefnyddio cyfreithiwr trawsgludo neu drawsgludwr trwyddedig - neu hyd yn oed wneud rhan o'r gwaith eich hun (ond sicrhewch eich bod yn gwybod beth fydd hyn yn ei olygu). Mae gan rai benthycwyr gyfreithwyr y mae'n well ganddynt eu defnyddio, neu efallai y bydd rhywun yn cael ei argymell i chi. Gallwch hefyd chwilio ar-lein neu yn y llyfr ffôn. (Bydd y benthyciwr yn mynnu eich bod yn defnyddio trawsgludwr proffesiynol i wneud y prisio.)
Ar ôl ichi benderfynu prynu eiddo, byddwch yn gwneud cais llawn am forgais drwy lenwi a dychwelyd ffurflen y benthyciwr (gallwch weithiau wneud hyn dros y ffôn). Fel arfer byddant hefyd eisiau gweld tystiolaeth o'ch incwm, pwy ydych chi, eich cyfeiriad cyfredol a (lle bo'n berthnasol) geirda gan fenthyciwr neu landlord blaenorol. Efallai hefyd y byddant yn codi ffi nad oes modd ei hawlio'n ôl ar gyfer eu costau ac i dalu am brisiwr.
Oni allwch brofi bod gennych incwm rheolaidd (efallai oherwydd eich bod yn hunangyflogedig a heb ddigon o gyfrifon) efallai y gallwch gael morgais 'hunandystiolaeth'. Bydd angen blaendal mwy arnoch oherwydd yn aml ni fyddwch yn gallu benthyg mwy na 75 i 85 y cant o werth yr eiddo. Efallai y bydd y benthyciwr am gael rhywfaint o dystiolaeth o hyd o'ch gallu i dalu.
Efallai y gall eich benthyciwr gael geirdaon ysgrifenedig gan eich cyflogwr a'ch banc (neu gyfrifydd os ydych yn hunangyflogedig) a'ch landlord neu'ch benthyciwr presennol. Byddant hefyd yn cynnal archwiliadau credyd i sicrhau eich bod wedi talu'ch dyledion yn y gorffennol.
Bydd eich benthyciwr fel arfer yn prisio'r eiddo i sicrhau ei fod werth y pris yr ydych wedi cytuno i'w dalu. Os nad yw, gallai effeithio ar faint y byddant yn ei fenthyca i chi. Fe'ch cynghorir i gael arolwg eich hun hefyd neu i 'uwchraddio' arolwg prisio'r benthyciwr i un manylach.
Os yw'r benthyciwr yn hapus gyda'r prisio a'r geirdaon, byddwch yn cael cynnig ffurfiol - a anfonir atoch chi a'ch cyfreithiwr fel arfer. Pan fyddwch chi (neu eich cyfreithiwr ar eich rhan) wedi llofnodi a dychwelyd y dogfennau gyda'r cynnig, mae'r benthyciwr wedi ymrwymo i ddarparu'r arian. Mae'r cynnig ar gyfer y morgais fel arfer yn mynnu eich bod yn cymryd yswiriant adeiladau, rhag ofn i rywbeth ddigwydd i'r eiddo cyn ichi orffen talu am y morgais.
Os ydych yn prynu, unwaith i chi dderbyn cynnig ffurfiol ar gyfer cael morgais, gall eich cyfreithiwr gytuno ar ddyddiad ar gyfer 'cyfnewid contractau' gyda chyfreithiwr y gwerthwr. Yr adeg yma rydych fel arfer yn talu canran o'r pris prynu fel blaendal nad oes modd ei ad-dalu ac yn ymrwymo'ch hun i dalu'r gweddill ar y dyddiad cwblhau y cytunir arno (pan ddaw'r eiddo yn eiddo i chi).
Efallai y gallwch wneud cais am eich morgais ar-lein, ac olrhain ei drywydd ar-lein.
Yn yr Alban, gallwch drefnu'ch morgais cyn ichi wneud cynnig ar eiddo.