Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn dewis morgais, bydd angen i chi feddwl am y dull ad-dalu, y cynigion cyfraddau llog a nodweddion arbennig rhai morgeisiau. Bydd yr un gorau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau - ac felly mae'n bwysig deall eich opsiynau a siopa o gwmpas.
Gallwch ad-dalu'ch morgais mewn dwy brif ffordd. Y rhain yw morgais 'llog yn unig' a morgais 'ad-dalu'.
Gyda morgais ad-dalu, rydych yn gwneud ad-daliadau'n fisol am gyfnod cytunedig (y 'cyfnod') hyd nes eich bod wedi talu'r holl fenthyciad a'r llog yn ôl.
Gyda morgais llog yn unig rydych yn gwneud ad-daliadau misol am gyfnod cytunedig ond dim ond y llog ar eich benthyciad y bydd hwn yn ei dalu. Bydd angen i chi hefyd fel arfer dalu i gynllun cynilo neu gynllun buddsoddi arall a fydd, gobeithio, yn talu'r benthyciad ar ddiwedd y cyfnod.
Dilynwch y ddolen isod i wefan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gael rhagor o wybodaeth.
Yn ogystal â phenderfynu ar eich dull ad-dalu, bydd angen i chi edrych ar y cynigion cyfradd llog sydd ar gael, er enghraifft:
Gyda morgais cyfradd amrywiol, mae'ch taliadau yn mynd i fyny ac i lawr gyda chyfradd llog safonol y benthyciwr. Mae hwn yn gyfradd llog sydd wedi’i gosod gan fenthyciwr unigol ac nid yw wedi ei gysylltu’n uniongyrchol â chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Gyda'r dewisiadau hyn, rydych yn cael swm o arian yn ogystal â'r benthyciad pan fyddwch yn cymryd y morgais. Fel arfer, rydych yn clymu'ch hun i'r gyfradd amrywiol am gyfnod penodedig.
Rydych yn talu cyfradd llog is ar y cychwyn ac wedyn yn symud i gyfradd arall (fel arfer cyfradd amrywiol safonol y benthyciwr) ar ôl cyfnod penodedig.
Mae'r cyfraddau tracio'n gysylltiedig â chyfradd Banc Lloegr neu ryw 'gyfradd sylfaenol' arall. Golyga hyn eu bod bob amser yn mynd i fyny neu i lawr yn unol â newidiadau i'r gyfradd sylfaenol.
Rydych yn talu cyfradd llog sefydlog am gyfnod penodedig, ac felly rydych yn gwybod yn union faint y byddwch yn ei dalu bob mis yn ystod y cyfnod hwnnw. Pan ddaw'r cyfnod penodedig i ben, byddwch fel arfer yn symud i gyfradd amrywiol safonol y benthyciwr. Fel arfer, bydd cosbau os tynnwch allan yn gynnar.
Gyda chyfradd wedi'i chapio rydych yn talu cyfradd llog amrywiol, ond gosodir trothwy fel na fydd eich taliadau'n mynd yn uwch na swm penodol am gyfnod penodedig. Mae rhai cynigion yn cynnwys 'coler' hefyd - dyma'r gyfradd isaf y gallwch ei chael. Os bydd cyfraddau llog yn disgyn o dan y goler, byddwch yn colli allan.
Mae hyn yn dibynnu llawer ar eich amgylchiadau personol ac unrhyw gynigion cadw neu gosbau sydd ynghlwm wrth gynigion gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth am fanteision ac anfanteision gwahanol gynigion cyfradd llog, ewch i wefan Gwasanaeth Cyngor am Arian.
Fe welwch hefyd wybodaeth am sut gall yr 'APR' (y gyfradd ganrannol flynyddol), a gaiff ei dangos ochr yn ochr â chyfraddau llog bob amser, eich helpu i gymharu'r cynigion.
Mae morgeisi hyblyg, morgeisi cyfrif cyfredol a morgeisi gwrthbwyso'n rhoi mwy o reolaeth i chi amrywio eich taliadau misol. Gellir eu defnyddio gyda morgeisi ad-dalu neu llog yn unig. Er enghraifft:
Gallwch ddefnyddio cyfrifianellau morgais ar-lein y Gwasanaeth Cynghori Ariannol i gyfrifo taliadau misol yn seiliedig ar wahanol gyfraddau llog. Ond cofiwch nad ydynt yn rhoi cyfrif am gostau ychwanegol, megis polisïau buddsoddi ac yswiriant cysylltiedig.