Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ôl-ddyledion morgais neu anawsterau talu

Os na allwch chi dalu'r arian sy'n ddyledus ar eich morgais, neu os ydych chi'n poeni am fynd ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, dylech gysylltu â'ch benthyciwr cyn gynted ag y bo modd. Drwy gysylltu’n fuan, mae’n bosib y bydd mwy o opsiynau ar gael i chi.

Cysylltu â'ch benthyciwr a chytuno ar gynllun

Os ydych chi’n ei chael yn anodd talu eich morgais, cysylltwch â’ch benthyciwr. Peidiwch â phoeni, mae gan fenthycwyr adrannau arbennig i helpu gyda phroblemau talu, ac mae’n bosib y gallant gynnig ffyrdd o’ch helpu i ddatrys eich problemau talu.

Os ydych chi’n ei chael yn anodd talu, neu eisoes ar ei hôl hi gyda'ch taliadau

A dibynnu ar eich hanes talu, eich amgylchiadau, ac a yw eich anawsterau'n debygol o fod yn rhai sy'n para am gyfnod hir ynteu dros dro, fe allai'r benthyciwr gytuno i'r canlynol:

  • lleihau eich taliadau am gyfnod penodol
  • codi llog am gyfnod yn unig os oes gennych forgais ad-daliadau (fel arfer, byddwch chi’n talu cyfalaf a llog)
  • caniatáu i chi dalu’r ôl-ddyledion yn raddol, gyda’ch taliadau arferol
  • rhoi ‘gwyliau talu’ i chi
  • ymestyn cyfnod eich morgais i leihau eich taliadau
  • ychwanegu eich ôl-ddyledion at eich morgais er mwyn i chi allu eu talu’n ôl dros gyfnod
  • gadael i chi aros yn eich cartref tra byddwch yn ceisio gwerthu’r eiddo a dod o hyd i rywle arall i fyw
  • awgrymu mathau eraill o gymorth, megis un o gynlluniau’r llywodraeth i helpu gydag anawsterau talu morgais

Os oes gennych ddyledion eraill ar ben eich problem talu morgais, dylech siarad â chynghorydd ariannol. Efallai y byddwch yn gweld mai’r opsiwn gorau yw cytuno ar drefniant i leihau eich taliadau ar gyfer unrhyw ddyledion heb eu gwarantu sydd gennych, megis cardiau credyd neu fenthyciadau personol. Bydd hyn wedyn yn rhyddhau rhywfaint o’ch arian er mwyn i chi gael mwy o arian i dalu eich morgais.

Talu beth bynnag y gallwch chi bob tro

Dylech dalu cymaint ag y gallwch chi'i fforddio bob mis. Os byddwch yn llwyddo i dalu eich morgais yn rheolaidd, bydd hyn yn dangos eich bod wedi ymrwymo i’w dalu ac yn gwneud eich gorau. Mae eich benthyciwr yn fwy tebygol o'ch trin gyda chydymdeimlad, a bydd y taliadau am fod ar ei hôl hi'n llai hefyd.

Help gyda’ch morgais

Ceir cynlluniau a allai eich helpu os ydych chi'n cael trafferthion gyda’ch taliadau morgais.

Cynllun Achub Morgeisi

Gallai’r Cynllun Achub Morgeisi helpu os ydych chi’n cael anawsterau difrifol wrth dalu eich morgais ac mewn perygl o golli’ch cartref os caiff ei adfeddiannu.

Cael help gyda thaliadau llog morgais

Efallai y bydd modd i berchnogion tai sy'n cael budd-daliadau penodol gael help tuag at y taliadau llog ar eu morgais, drwy gyfrwng y cynllun Cymhorthdal ar gyfer Llog Morgais.

Help gan y Cymhorthdal ar gyfer Llog Morgais

O fis Ionawr 2009 ymlaen, os ydych chi’n cael budd-daliadau (gan gynnwys Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm), mae’n bosib y byddwch yn gymwys i gael help gyda’r llog ar eich morgais.

Gallwch gael help gyda morgais gwerth hyd at £200,000 ar ôl cyfnod aros o 13 wythnos. Os ydych chi’n cael credyd pensiwn, mae’n bosib y bydd modd i chi gael help ar unwaith, ond dim ond ar gyfer morgais gwerth hyd at £100,000.

Nid oes dim help ar gael ar gyfer taliadau cyfalaf morgeisi.

Budd-daliadau a allai gynyddu'ch incwm

Mae’n werth holi a oes gennych chi hawl i fudd-daliadau megis Credyd Treth Gwaith, Credyd Treth Plant neu Fudd-dal Treth Cyngor. Gallant wneud gwahaniaeth go iawn i’ch incwm a helpu gyda’ch taliadau morgais.

Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd mae eich benthyciwr morgais wedi eich trin

Mae’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) yn rheoleiddio'r rhan fwyaf o forgeisi cyntaf a gymerwyd ar 31 Hydref 2004 neu ar ôl hynny.

Dan reolau'r Awdurdod, rhaid i fenthycwyr eich trin yn deg ac anfon datganiadau rheolaidd atoch i roi gwybod i chi am eich sefyllfa gyda golwg ar eich dyledion. Ceir rheolau hefyd ynghylch beth y mae'n rhaid i'r benthyciwr ei wneud os yw'n bwriadu adfeddiannu'ch cartref.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg gan fenthyciwr, gallwch gwyno i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol.

Beth os na allwch chi dalu'r ad-daliadau?

Mae'n bwysig iawn i chi beidio ag anwybyddu unrhyw broblemau talu.

Mae morgeisi'n 'ddyledion â blaenoriaeth' ac felly fe ddylech chi dalu'r rhain yn gyntaf gan y gallai eich benthyciwr fynd i’r llys i geisio adfeddiannu eich cartref a'i werthu i gael ei arian.

Os oes gennych unrhyw ddyledion eraill, dylech geisio cyngor er mwyn cael gwybod pa rai yw’r pwysicaf, a sut i drafod â gwahanol fathau o fenthycwyr.

Penderfynu faint y gallwch chi ei fforddio

Gall eich benthyciwr, neu gynghorydd ariannol, eich helpu i weld faint allwch chi ei fforddio, ond mae'n bosib y bydd yn well gennych wneud hyn eich hun. Man cychwyn da yw nodi eich incwm a'ch gwariant i gyd (ar wahân i'r morgais) a gweld faint sydd gennych dros ben.

Cyrff sy'n gallu rhoi cyngor am ddim i chi

Gallwch gael cyngor annibynnol am ddim gan nifer o gyrff os cewch chi anhawster i dalu eich morgais. Bydd y rhain yn eich helpu i weld faint allwch chi ei fforddio mewn gwirionedd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU