Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor ar forgeisi - pwy i’w gweld a beth fydd angen i chi fynd gyda chi

Os ydych chi’n bryderus ynghylch gwneud eich ad-daliadau morgais neu ynghylch colli eich cartref, gall cynghorydd annibynnol eich helpu. Yma, cewch wybod sut i gysylltu â chynghorydd, beth allant ei wneud a beth fydd angen i chi fynd gyda chi.

Sut y gall cynghorydd eich helpu

Gall cynghorydd mewn asiantaeth gynghori annibynnol, rhad ac am ddim, eich helpu i wneud y canlynol:

  • llunio cynllun i reoli eich dyled
  • creu cyllideb
  • paratoi i siarad â’ch benthyciwr ynglŷn â dod i gytundeb newydd ar gyfer ad-dalu
  • deall unrhyw lythyrau a gewch gan eich benthyciwr
  • dod o hyd i gyngor neu gynrychiolaeth gyfreithiol, os oes gennych ddyddiad y mae’n rhaid i chi fod yn y llys

Cymorth ariannol y mae’n bosib eich bod yn gymwys i'w gael

Bydd y cynghorydd hefyd yn eich helpu i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i chi allu cadw eich cartref, gan gynnwys:

  • cymorth ariannol gan y llywodraeth, megis Cymorth Morgais Perchnogion Tai neu’r cynllun Achub Morgeisi
  • budd-daliadau neu gymorth ariannol y mae’n bosib eich bod yn gymwys i’w cael, megis Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais

Cymorth Morgais Perchnogion Tai

Os yw’ch cyflog wedi gostwng dros dro, mae’n bosib y gallwch gael help gan Gymorth Morgais Perchnogion Tai (HMS). Mae HMS yn helpu drwy ohirio rhai o’r taliadau llog misol ar eich morgais am hyd at ddwy flynedd.

Gofynnwch i’ch cynghorydd os ydych yn gymwys neu gweler ‘Cymorth Morgais Perchnogion Tai' i gael mwy o wybodaeth.

Cynllun Achub Morgeisi

Gofynnwch i’ch cynghorydd os ydych yn gymwys ar gyfer y Cynllun Achub Morgeisi. Gallai eich helpu os ydych chi wedi rhoi cynnig ar bopeth arall ond yn dal i fethu talu eich morgais a bod eich benthyciwr yn cymryd camau i adfeddiannu eich cartref.

Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais

Os ydych chi’n ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 awr yr wythnos, holwch ynghylch Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI). Gall SMI eich helpu i wneud y taliadau llog ar eich morgais am hyd at ddwy flynedd.

Cymorth ariannol a budd-daliadau eraill

Bydd eich cynghorydd hefyd yn edrych a ydych chi’n gymwys ar gyfer mathau eraill o gefnogaeth, megis Budd-dal Treth Cyngor neu gredydau treth. I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod.

Rhestr o gynghorwyr ariannol cymeradwy

Mae’r asiantaethau annibynnol sydd wedi cael eu rhestru isod wedi cael eu cymeradwyo gan y llywodraeth i roi cyngor ynghylch HMS a phroblemau'n ymwneud â dyledion a morgeisi.

Canolfannau Cyngor Ar Bopeth

Gall Canolfannau Cyngor Ar Bopeth (CAB) gynnig cyngor wyneb yn wyneb yn un o’u swyddfeydd lleol.

Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr

Mae gan y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr (CCCS) linell gymorth sy’n darparu cyngor diduedd yn rhad ac am ddim. Ffoniwch 0800 138 1111 neu ewch i ymweld â’u gwefan i gael mwy o wybodaeth.

Y Llinell Ddyled Genedlaethol

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gallwch geisio cymorth dros y ffôn gan y Llinell Ddyled Genedlaethol drwy ffonio 0808 808 4000.

Payplan

Gall Payplan gynnig cyngor dros y ffôn i bobl y DU. Ffoniwch 0800 716 239 neu ewch i ymweld â’u gwefan.

Shelter

Yn Lloegr, ffoniwch 0300 3300 515 i gael cyngor ynghylch Cymorth Morgais Perchnogion Tai, neu 0808 800 4444 os oes arnoch eisiau cyngor cyffredinol. Yng Nghymru, ffoniwch 0845 075 5005.

Eich cyngor lleol

Gall eich cyngor lleol eich helpu os ydych chi’n wynebu adfeddiannu neu ddigartrefedd. Gallant roi cyngor ariannol i chi yn ogystal â’ch helpu i ddod o hyd i lety arall, os oes angen.

Cyngor cyfreithiol

Cysylltwch â Chyngor Cyfreithiol Cymunedol i gael cyngor cyfreithiol annibynnol a chyfrinachol ac i gael help i ddod o hyd i dwrnai. Ffoniwch eu llinell gymorth ar 0845 345 4 345 neu ewch i ymweld â’u gwefan.

Rhestr wirio – beth i fynd gyda chi pan fyddwch yn ymweld â chynghorydd

Mae’r canlynol yn rhestr o'r math o ddogfennau y dylech chi fynd gyda chi wrth ymweld â chynghorydd:

  1. unrhyw bapurau llys
  2. slipiau talu/cyflog
  3. llyfryn neu lythyr dyfarnu pensiwn/budd-dal
  4. manylion llawn eich morgais, gan gynnwys rhif a math y cyfrif ac enw a chyfeiriad eich benthyciwr
  5. llyfryn/cerdyn rhent, gan gynnwys manylion rhent tir a thaliadau gwasanaeth os ydych chi’n eu talu
  6. biliau, megis Treth Cyngor, dŵr, tanwydd (e.e. nwy a thrydan), ffôn (llinell dir a symudol), teledu lloeren ac ar gyfer unrhyw bethau rydych chi’n eu rhentu, megis offer
  7. datganiadau banc, gan gynnwys manylion unrhyw fenthyciadau neu orddrafftiau
  8. manylion eich cerdyn credyd ac unrhyw lythyrau gan eich cwmni cerdyn credyd
  9. manylion unrhyw fenthyciadau hur bwrcas yn ogystal â gohebiaeth
  10. biliau Cyllid a Thollau EM (HMRC) ac Yswiriant Gwladol
  11. manylion treuliau a chostau eraill sy’n gysylltiedig â chadw tŷ, megis costau teithio a phrydau ysgol

Os ydych chi’n siarad â chynghorydd dros y ffôn, dylech fod â’r dogfennau wrth law. Os nad oes gennych chi rai o’r dogfennau, neu os nad ydynt yn berthnasol i chi, holwch beth arall allwch chi fynd gyda chi cyn yr apwyntiad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU