Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn berchen ar dŷ ac yn cael budd-daliadau yn seiliedig ar incwm penodol, gallech fod yn gymwys i gael help i dalu’r llog ar daliadau morgais. Mae hyn yn daladwy fel rhan o’ch budd-dal ac fe elwir yn Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI). Yma cewch wybod os ydych yn gymwys i hawlio SMI.
Gallech gael help gyda thaliadau llog ar forgais fel rhan o’ch budd-daliadau os ydych yn berchen ar dŷ ac yn gymwys i gael y canlynol:
Dim ond gyda morgais neu fenthyciad ar gyfer prynu neu wella eich cartref y cewch gymorth gyda thaliadau llog ar forgais. Fel arfer telir SMI yn uniongyrchol i’ch benthyciwr. Nid oes sicrwydd y cewch SMI ar gyfer benthyciad y byddwch yn ei godi.
Ni allwch ddefnyddio’r SMI i’ch helpu i dalu am:
Y gyfradd llog safonol a ddefnyddir i gyfrifo SMI ar hyn o bryd yw 3.63 y cant.
O 1 Hydref 2010 bydd y gyfradd llog safonol yn cael ei osod ar lefel gydradd i gyfradd llog morgais misol cyfartalog a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr. Bydd y gyfradd gychwynnol sy’n berthnasol o 1 Hydref 2010 yn 3.63 y cant (y gyfradd a gyhoeddwyd gan Fanc Lloegr ar 31 Awst 2010).
Efallai y bydd gan rai perchnogion tai cyfraddau llog gwirioneddol sy’n is na'r gyfradd safonol a ddefnyddir i gyfrifo taliadau SMI. Golyga hyn eu bod yn derbyn mwy o SMI nag sy'n ofynnol i gwrdd â'r taliadau i’w benthyciwr. Gallai’r taliadau hyn gael ei gredydu i'w cyfrif morgais yn unig.
Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Gwasanaeth Pensiwn er mwyn:
Gwnaed newidiadau i SMI sy’n berthnasol o 5 Ionawr 2009.
Mae rheolau gwahanol yn berthnasol i SMI hyd at 5 Ionawr 2009. Os cawsoch help i wneud taliadau llog morgais cyn y dyddiad hwn, byddwch yn parhau i gael yr un lefel o gymorth.
Amodau sy’n berthnasol i’r SMI ers 5 Ionawr 2009
O 5 Ionawr 2009 os oeddech yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm, daeth y rhan fwyaf o geisiadau ar gyfer SMI o dan reolau newydd gan gynnwys:
Nid oes terfyn ar ba mor hir y gallwch chi gael SMI os ydych yn cael:
Terfyn amser o ddwy flynedd ar gyfer SMI
Cyflwynwyd terfyn amser o ddwy flynedd ar gyfer SMI i gwsmeriaid newydd sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm o 5 Ionawr 2009.
Bydd hwn yn effeithio ar rai pobl o 5 Ionawr 2011. Os ydych wedi derbyn SMI am ddwy flynedd o 5 Ionawr 2009 neu wedi hynny, ni chewch help gyda’ch llog morgais mwyach. Bydd hyn yn berthnasol os ydych wedi bod yn cael SMI yn barhaus neu drwy geisiadau budd-dal cysylltiedig.
Mae'n bwysig eich bod yn siarad â'ch benthyciwr am y newid hwn. Mae'n ofynnol i fenthycwyr drin pobl yn deg, ac mae'n rhaid iddynt ystyried yr hyn y gallant ei wneud i atal pobl rhag colli eu cartrefi.
Os na allwch dalu eich ad-daliadau morgais, neu os ydych yn poeni y gallech fynd ar ei hôl hi gyda’ch taliadau, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch benthyciwr cyn gynted â phosibl. Gallwch hefyd gael cyngor annibynnol gan sefydliadau eraill. Ceir rhagor o wybodaeth am ôl-ddyledion morgais neu anawsterau talu drwy glicio ar y ddolen ganlynol.
Gallwch hefyd gael cyngor ar dalu morgais gan y Gwasanaeth Cyngor Digartrefedd Cenedlaethol (NHAS).
Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn, a’ch bod angen help tuag at daliadau llog ar eich morgais:
Os oes gennych gwestiynau am SMI, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn.
Symud oddi ar fudd-daliadau eraill i Gredyd Pensiwn
Os ydych eisoes yn cael SMI o dan y rheolau sy'n berthnasol o 5 Ionawr 2009 ymlaen, gallwch barhau i gael help gyda llog ar eich morgais hyd at £200,000 ar eich morgais, os ydych yn symud ymlaen i gael Credyd Pensiwn o fewn 12 wythnos wedi gorffen hawlio un o’r canlynol:
Gallwch barhau i gael yr un faint o gymorth gyda’ch llog morgais, os byddwch yn dal yn gymwys i gael Credyd Pensiwn.
Efallai y byddwch yn cael arian ychwanegol am bedair wythnos tuag at dalu eich costau tai, os yw eich Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm ar incwm, neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm yn mynd i ddod i ben oherwydd eich bod am:
Gelwir hyn yn Cymorth i Dalu Llog Morgais.
Cael gwybod os ydych yn gymwys i gael Cymorth i Dalu Llog Morgais.
Dewch i gael rhagor o wybodaeth am help gyda chostau tai drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.