Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Budd-dal Tai

Os ydych ar incwm isel, p'un ag ydych yn gweithio ai peidio, a bod angen help ariannol arnoch i dalu eich rhent i gyd neu ran ohono, gallech wneud cais am Fudd-dal Tai. Dewch i gael gwybod mwy, gan gynnwys pwy sy’n gymwys a sut i wneud cais.

Pwy sy'n gymwys

Gallech gael Budd-dal Tai os ydych yn talu rhent a bod eich incwm a'ch cyfalaf (cynilion a'ch buddsoddiadau) o dan lefel benodol. Gallech fod yn gymwys os ydych yn ddi-waith, neu'n gweithio ac yn ennill cyflog.

Defnyddiwch y cynghorydd budd-daliadau ar-lein i gael amcangyfrif o’r budd-daliadau, yn cynnwys Budd-dal Tai, y gallech eu cael.

Pwy nad ydynt yn gymwys

Fel arfer, ni chewch Fudd-dal Tai:

  • os oes gennych gynilion gwerth dros £16,000, oni bai eich bod yn cael y ‘credyd gwarantedig’ o Gredyd Pensiwn
  • os ydych yn byw yng nghartref perthynas agos
  • os ydych yn fyfyriwr llawn amser (oni bai eich bod yn anabl neu fod gennych blant)
  • os ydych yn geisiwr lloches neu'n derbyn nawdd i fod yn y DU

Cyfyngiadau eraill

Os ydych chi'n byw gyda phartner neu bartner sifil, dim ond un ohonoch sy’n gallu cael Budd-dal Tai.

O 1 Ionawr 2012, os ydych yn sengl a dan 35 oed, dim ond ar gyfer llety ystafell byw-a-chysgu neu un ystafell mewn llety a rennir y cewch Fudd-dal Tai.

Gofynnwch i'ch awdurdod lleol am fanylion am sut y bydd y newidiadau yn effeithio arnoch ac am y eithriadau y gall fod yn berthnasol mewn sefyllfaoedd penodol.

Sut mae gweld a ydych yn gymwys

Os credwch eich bod yn gymwys i gael Budd-dal Tai, bydd y ddolen ganlynol yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble cewch fwy o wybodaeth.

O fis Ebrill 2013, os ydych yn byw mewn llety cyngor neu dai cymdeithasol eraill ac yn cael eich asesu fel bod gennych o leiaf un ystafell wely ychwanegol yn eich tŷ, gellir gostwng eich Budd-dal Tai o

  • 14% os oes gennych ystafell wely ychwanegol
  • 25% os oes gennych dwy ystafell wely neu fwy ychwanegol

Gofynnwch i'ch cyngor lleol am fanylion sut y bydd y newidiadau yn effeithio arnoch.

Newidiadau pwysig i bobl sy'n cael Budd-dal Plant

Ni chyfrifir Budd-dal Plant bellach fel incwm wrth gyfrifo faint o Fudd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Cyngor y gallwch ei gael.

Mae hyn yn golygu bod rhai pobl sydd bellach yn cael taliadau Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor yn cael mwy o fudd-dal i'w defnyddio i dalu eu rhent neu dreth cyngor.

Yn ogystal, efallai y bydd rhai teuluoedd incwm isel bellach yn cael Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor o ganlyniad i'r newid hwn. Os credwch y gallech bellach fod yn gymwys, cysylltwch â’ch cyngor lleol.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Os ydych yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat, bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei gyfrifo gyda'r rheolau Lwfans Tai Lleol.

Os ydych yn byw mewn llety cyngor neu dai cymdeithasol eraill, y Budd-dal Tai mwyaf y gallwch ei gael yw’r un fath â'ch rhent 'cymwys'.

Beth yw ystyr rhent 'cymwys'?

Mae rhent 'cymwys' yn cynnwys:

  • rhent ar gyfer y llety
  • taliadau am rai gwasanaethau, fel lifftiau, cyfleusterau golchi dillad neu ardaloedd chwarae ar y cyd

Hyd yn oed os yw hynny wedi'i gynnwys yn eich rhent, ni chewch Fudd-dal Tai ar gyfer:

  • costau dŵr
  • costau gwres, dŵr poeth, golau, neu goginio
  • taliadau am fwyd neu danwydd mewn llety sy'n darparu bwyd neu hostel

Hefyd, bydd swm y Budd-dal Tai a gewch y dibynnu ar:

Eich amgylchiadau personol ac ariannol

Bydd eich cyngor lleol yn edrych ar:

  • yr arian sy'n dod i mewn gennych chi a'ch partner neu'ch partner sifil, gan gynnwys enillion, rhai budd-daliadau a chredydau treth a phensiynau galwedigaethol
  • eich cynilion (a chynilion eich partner neu'ch partner sifil)
  • eich amgylchiadau: er enghraifft eich oedran, maint eich teulu a'u hoedrannau, a ydych chi neu unrhyw un yn eich teulu'n anabl, ac a oes rhywun sy'n byw gyda chi a allai helpu gyda'r rhent

Manylion eich cartref a'r rhent rydych chi'n ei dalu

Bydd eich cyngor hefyd yn ystyried:

  • a yw'r rhent yn rhesymol i'ch cartref
  • a yw'r cartref o faint rhesymol i chi a'ch teulu
  • a yw'r rhent yn rhesymol ar gyfer yr ardal lle rydych yn byw

Mae'n bosibl y bydd eich rhent 'cymwys' yn cael ei gyfyngu i swm sy'n rhesymol ar gyfer eiddo o faint addas yn eich ardal.

Sut mae'n cael ei dalu

Os ydych yn denant i gyngor, bydd eich cyngor yn talu unrhyw Fudd-dal Tai a gewch yn syth i'ch cyfrif rhent.

Os nad ydych yn denant i'r cyngor, caiff eich Budd-dal Tai ei dalu:

  • i chi drwy siec
  • yn syth i'ch cyfrif banc neu i'ch cyfrif cymdeithas adeiladu drwy Daliad Uniongyrchol

Cysylltwch â'ch cyngor os ydych yn poeni am sut y telir eich Budd-dal Tai.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Ni chaiff Budd-dal Tai effaith ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch.

Sut i hawlio

Os ydych yn chwilio am waith

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor (gan gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn) gyda'ch cais am y budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith

Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith ar 0800 012 1888.

Os ydych yn siarad Saesneg, ffoniwch 0800 055 6688, neu os na allwch siarad neu glywed yn glir, ffoniwch y ffôn testun 0800 023 4888.

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm (mae’r llinellau fel arfer yn llai prysur cyn 9.00 am).

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn anfon manylion eich cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor i'ch cyngor lleol.

Os ydych yn hawlio Credyd Pensiwn

Gallwch wneud cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor (gan gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn) gyda'ch cais am Gredyd Pensiwn.

Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 012 1888 Os na allwch siarad neu glywed yn glir, ffoniwch y ffôn testun ar 0800 023 4888. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm, a dydd Sadwrn rhwng 9.00 am ac 1.00 pm.

Os ydych yn siarad Saesneg, ffoniwch 0800 991 234 (ffôn testun 0800 169 0133). Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm.

Bydd ymgynghorydd yn eich helpu i wneud cais am y budd-daliadau a rhoi gwybod i chi beth sy'n digwydd nesaf.

Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon manylion eich cais am Fudd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor i'ch cyngor lleol.

Os nad ydych yn hawlio budd-daliadau eraill

Os nad ydych yn hawlio Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Lwfans Ceisio Gwaith, gallwch gael ffurflen gan eich cyngor lleol i hawlio Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor (gan gynnwys yr Ad-daliad Ail Oedolyn).

Gwneud cais ymlaen llaw

Os ydych yn gwybod eich bod am symud i gyfeiriad newydd cyn bo hir, gallwch hawlio Budd-dal Tai hyd at 13 wythnos (17 wythnos os ydych yn 60 oed neu'n hŷn) cyn i chi symud.

Fel arfer, ni chewch arian cyn i chi symud i mewn.

Hawlio am gyfnod sydd wedi mynd heibio

Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio am gyfnod sydd wedi mynd heibio. Gall eich awdurdod lleol eich cynghori am hyn.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Rhaid i chi roi gwybod i'ch cyngor lleol:

  • os bydd unrhyw rai o'ch plant yn gadael yr ysgol neu'n gadael y cartref
  • os bydd unrhyw un yn symud i'ch cartref neu allan ohono
  • os bydd eich incwm, neu incwm unrhyw un sy'n byw gyda chi, yn newid
  • os bydd eich cyfalaf neu'ch cynilion yn newid
  • os bydd eich rhent yn newid
  • os byddwch yn symud
  • os ydych chi neu'ch partner neu bartner sifil yn bwriadu bod oddi cartref am fwy na mis

Nid yw'r rhestr hon yn un gyflawn. Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod rhagor. Mae gennych gyfrifoldeb i roi gwybod am newidiadau mewn amgylchiadau. Gallai methu â gwneud hyn arwain at erlyniad twyll neu golli eich budd-dal.

Cael Budd-dal Tai mewn gwaith

Gallwch gael Budd-dal Tai pan fyddwch yn cael swydd ac yn ennill cyflog. Efallai y byddwch hefyd yn cael budd-daliadau a chefnogaeth i'ch helpu i aros mewn gwaith.

Gweler 'Budd-daliadau a chymorth wrth ddychwelyd i waith' i gael gwybod mwy.

Sut i apelio

Os gwrthodir rhoi'r Budd-dal Tai i chi neu os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad eich cyngor, gallwch ofyn iddyn ei ailystyried. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl Unedig annibynnol.

Dilynwch y dolenni isod i wefan eich awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Taflen wybodaeth gan y Ganolfan Byd

Dewch i gael rhagor o wybodaeth am help gyda chostau tai drwy ddefnyddio’r ddolen ganlynol.

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau ar-lein drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Peidiwch â chael eich cnoi...

Ydych chi wedi cael eich cysylltu gan siarc benthyg? Gallwch riportio benthycwyr didrwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU