Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Grantiau Effeithlonrwydd Ynni

Efallai y gallwch gael grantiau a chynigion effeithlonrwydd ynni i'ch helpu i wella'ch cartref er mwyn arbed ynni. Mae'r grantiau a'r cynigion hyn ar gael gan y llywodraeth, gan eich cyngor lleol neu gan y cwmni sy'n cyflenwi ynni i chi.

Pwy sy'n gymwys

Os ydych yn cael budd-dal anabledd neu fudd-dal sy’n gysylltiedig ag incwm, mae'n bosibl y gallwch gael Grant Effeithlonrwydd Ynni Cartref gan y llywodraeth. Mae hyn i’ch helpu dalu am welliannau gwres ac inswleiddio i'ch cartref.

Grantiau cynghorau lleol

Mae'n bosibl y gallwch gael grantiau a gostyngiadau ynni gan eich cyngor lleol. I fod yn gymwys am y rhain, mae'n bosibl y bydd rhaid i chi fod yn bensiynwr a/neu'n hawlio budd-daliadau penodol. I gael gwybod a oes gennych chi'r hawl i un o'r rhain, cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Cynigion gan gyflenwyr ynni

Bydd llawer o gyflenwyr ynni'n cynnig cynigion a gostyngiadau arbennig sy'n lleihau'n sylweddol gostau gwella'ch cartref er mwyn arbed ynni.

I gael gwybod a ydych chi'n gymwys ar gyfer unrhyw un o'r grantiau neu'r cynigion arbennig sydd ar gael yn genedlaethol neu'n lleol, defnyddiwch y gwasanaeth chwilio-am-grantiau ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau ar-lein drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Peidiwch â chael eich cnoi...

Ydych chi wedi cael eich cysylltu gan siarc benthyg? Gallwch riportio benthycwyr didrwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU