Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych ar incwm isel a bod angen help arnoch gyda chostau pwysig penodol, gallech gael Benthyciad Cyllidebu di-log gan y Gronfa Gymdeithasol, ond bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu.
Gallech gael Benthyciad Cyllidebu os ydych chi neu'ch partner wedi bod yn hawlio neu'n cael un o'r budd-daliadau canlynol am 26 wythnos o leiaf:
a bod angen cymorth arnoch i dalu am unrhyw un o'r canlynol:
Y swm lleiaf y gellir ei fenthyg ar gyfer Benthyciad Cyllidebu unigol yw £100. Bydd mwyafswm y gall y Ganolfan Byd Gwaith eich talu ar unrhyw adeg yn dibynnu ar b’un ai ydych yn:
a ph’un a oes gennych
Ni all cyfanswm y ddyled Gronfa Gymdeithasol y gellir ei fenthyg drwy Fenthyciad Argyfwng neu Fenthyciad Cyllidebu fod yn fwy nag £1,500.
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith fel arfer yn talu eich benthyciad i mewn i gyfrif.
Gall eich benthyciad gael ei dalu i mewn i'r mathau canlynol o gyfrif:
Bydd eich ad-daliadau, sy'n cael eu cyfrifo pan gytunir ar eich benthyciad, fel arfer yn cael eu tynnu o'ch budd-dal yn awtomatig. Os nad ydych yn cael budd-daliadau, cytunir ar ddull arall.
Fel arfer, rhaid i chi ad-dalu Benthyciad Cyllidebu o fewn 104 wythnos.
Mae'r ad-daliadau'n ddi-log ac mae hynny'n golygu mai union swm y benthyciad y byddwch yn ei dalu'n ôl a dim mwy.
Nid yw Benthyciad Cyllidebu yn cyfri fel incwm ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch.
Gallwch gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith neu'ch canolfan bensiynau leol a gofyn iddynt anfon ffurflen gais SF500W atoch.
Neu gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais, isod, oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w chwblhau ac i ddweud wrthych i ble y dylech ei hanfon.
Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad ynghylch Benthyciad Cyllidebu, bydd gennych yr hawl i ofyn am adolygiad. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu i’r Ganolfan Byd Gwaith o fewn 28 diwrnod i'r penderfyniad yn esbonio pam fod y penderfyniad yn anghywir yn eich barn chi gan ofyn iddynt ailystyried.
Ar ôl yr adolygiad hwnnw, os ydych yn dal i feddwl bod y penderfyniad yn anghywir, cewch ofyn am adolygiad pellach gan un o Arolygwyr y Gronfa Gymdeithasol. Nid yw'r Arolygwyr yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau. Maent yn annibynnol. Mae'r broses adolygu'n gyflym ac yn syml, ac ni ddylai gymryd mwy na 12 diwrnod.
Gallwch lawrlwytho'r daflen a'r ffurflen gais, 'Sut i ofyn am adolygiad annibynnol' oddi ar wefan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.