Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau a'r cwrs rydych yn ei astudio, mae'n bosib y gallwch gael cymorth ariannol drwy grant. Does dim rhaid talu grantiau yn ôl. Mae bwrsarïau'n debyg i grantiau, ond fel arfer maent yn gysylltiedig â gyrfa benodol neu fath o gwrs - fel Grantiau Dawns a Drama neu fwrsarïau preswyl.
Gallech fod yn gymwys i gael Grant Dysgu i Oedolion gwerth hyd at £30 yr wythnos i'ch helpu i dalu am gostau dysgu.
Grant Hyfforddiant Yn y Gwaith i Rai Dros Bumdeg
Os ydych yn dechrau ar swydd newydd ar ôl bod allan o waith a chithau’n 50 oed a throsodd, efallai y gallwch gael grant i’ch helpu gyda chostau hyfforddiant sy'n ymwneud â’ch gwaith.
Bydd rhai elusennau ac ymddiriedolaethau yn rhoi arian i unigolion, ond mae'u rheolau ynghylch pwy sy'n gymwys yn amrywio. Mae'r Gwasanaeth Ymgynghorol Grantiau Addysgol (EGAS) yn darparu gwybodaeth a chyngor am ffynonellau cyllido drwy eu Cyfeiriadur, eu llinell gymorth a'u gwefan.
Mae Ymddiriedolaeth Addysg Ffederasiwn Cyffredinol yr Undebau Llafur yn cynnig grantiau i fyfyrwyr amser llawn a myfyrwyr y Brifysgol Agored mewn pynciau penodol, e.e. theori a hanes economaidd, cyfraith ddiwydiannol, hanes ac egwyddorion cysylltiadau diwydiannol.
Gallech hefyd daro golwg ar:
Dylai’r cyhoeddiadau hyn fod ar gael yn eich llyfrgell leol.
Mae bwrsarïau'n debyg i grantiau - ond fel arfer, bydd y rhain yn gysylltiedig â phroffesiwn neu â chymhwyster penodol.
Ysgoloriaethau a noddir gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau yw'r Grantiau Dawns a Drama i helpu gyda ffioedd ar gyfer cyrsiau cymeradwy a chostau byw.
Os oes angen astudio oddi cartref arnoch gan nad yw'r cwrs rydych am ei wneud ar gael yn lleol, efallai y gallwch gael cymorth gyda chost eich llety yn ystod y tymor.
Bydd y City & Guilds yn cynnig nifer fach o ysgoloriaethau bob blwyddyn i bobl sydd am astudio tuag at gymhwyster City & Guilds. Gellir defnyddio'r bwrsarïau hyn tuag at gostau megis ffioedd cwrs, deunyddiau dysgu, gofal plant neu deithio. Ystyrir y ceisiadau ym mis Mehefin ac ym mis Rhagfyr bob blwyddyn.
Os ydych chi'n astudio cwrs addysg uwch, mae'n bosib y bydd y pecyn o gymorth ariannol sydd ar gael yn cynnwys grantiau a bwrsarïau, yn ogystal â Benthyciadau Myfyrwyr.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael bwrsari ychwanegol os ydych yn dilyn cymhwyster addysg uwch mewn gwaith cymdeithasol, meddygaeth neu feysydd penodol ym maes gofal iechyd - neu gwrs Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon ôl-radd.