Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n cael trafferth i dalu am addysg bellach yn eich coleg neu chweched dosbarth, gallai Cronfeydd Cefnogaeth Dewisol fod yn un ffordd o helpu.
Mae Cronfeydd Cefnogaeth Dewisol ar gael mewn colegau ac yn y chweched dosbarth mewn ysgolion i helpu gyda chostau dysgu.
Caiff y cronfeydd eu blaenoriaethu ar gyfer y sawl sy'n wynebu caledi ariannol. Gellir eu defnyddio i helpu gyda'r canlynol:
Bydd colegau a chweched dosbarth ysgolion yn ystyried a oes mathau eraill o gymorth ar gael. Dilynwch y dolenni isod i gael manylion mathau eraill o gymorth gyda chostau llety os ydych chi'n astudio oddi cartref, a gwybodaeth am gymorth gyda chostau cludiant i rai dan 19.
I fod yn gymwys i wneud cais, rhaid i chi fod:
Bydd colegau'n dewis grwpiau blaenoriaeth a'r symiau uchaf y byddant yn eu dyfarnu. Y grwpiau blaenoriaeth cyffredin yw:
Chewch hi ddim hawlio os ydych chi:
Bydd ysgolion a cholegau'n pennu eu meini prawf eu hunain ac yn rheoli eu gweithdrefnau eu hunain. Mae hyn yn golygu y gall y symiau sydd ar gael, a'r ffordd y caiff arian ei ddyrannu, amrywio rhwng sefydliadau.
Mae cyfyngiad ar y symiau sydd ar gael ar gyfer rhai cronfeydd, gan gynnwys cronfeydd gofal plant a chronfeydd preswyl.
Os ydych chi'n gymwys, gallai'r arian fod ar ffurf taliad uniongyrchol i chi, neu daliad i rywun arall ar eich rhan (landlord, er enghraifft). Gallai eich taliad fod yn fenthyciad, lle mae'n rhaid i chi ei dalu'n ôl - neu'n grant, lle nad oes rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Os ydych chi mewn coleg, siaradwch â'ch swyddog cefnogi myfyrwyr neu'ch swyddog lles. Os ydych chi mewn chweched dosbarth, cysylltwch â'ch tiwtor neu'r swyddog dyfarniadau neu'r swyddog cefnogi myfyrwyr. Mae'n bosib y disgwylir i chi ddangos prawf o incwm neu wariant wrth wneud cais.
Cewch hawlio os ydych hefyd yn derbyn grantiau a nawdd arall, gan gynnwys:
Ond cofiwch mai diben y Cronfeydd Cefnogaeth Dewisol yw diwallu anghenion ac amgylchiadau arbennig na ellir ymdrin â hwy'n rhesymol gyda mathau eraill o gymorth.
Bydd pob coleg yn darparu gwybodaeth am eu cynllun, gan gynnwys gwybodaeth am sut mae apelio.
Bydd staff cefnogi myfyrwyr yn gallu dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael arian o ffynonellau eraill.
Yn y gorffennol, galwyd Cronfeydd Cefnogi Dewisol yn 'Gronfeydd Cefnogi Dysgwyr', 'Cronfeydd Mynediad' a 'Chronfeydd Caledi'.