Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd angen i chi astudio oddi cartref gan nad yw'r cwrs yr ydych am ei ddilyn ar gael yn lleol, efallai y gallwch gael cymorth ariannol gyda chost eich llety yn ystod y tymor.
Os oes arnoch eisiau dilyn cwrs arbenigol nad yw ar gael yn eich ardal leol, ceir dwy brif ffynhonnell o gymorth posib a all helpu â'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio oddi cartref:
Mae nifer o 'Ganolfannau Preswyl Arbenigol' ar draws y wlad yn cynnig cymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd am astudio cyrsiau penodol. Dim ond os nad oes darpariaeth debyg ar gael yn lleol y bydd lleoedd ar gael.
Cymorth ar gyfer cyrsiau mewn amaethyddiaeth, celf a dylunio a garddwriaeth y mae'r canolfannau hyn yn ei gynnig yn bennaf.
I chwilio drwy restr o'r 50 o golegau sy'n rhan o'r cynllun hwn ar hyn o bryd, ewch i 'Dod o hyd i fwrsari preswyl'.
I wneud cais am gymorth, bydd angen i chi gysylltu â'r coleg perthnasol yn uniongyrchol.
Os ydych wedi edrych ar y rhestr uchod ac nad oes bwrsari preswyl ar gael ar gyfer y cwrs yr ydych chi'n dymuno ei astudio, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Preswyl, a ariennir gan y Cyngor Dysgu a Sgiliau.
Os ydych yn gymwys, bydd y cynllun yn helpu i dalu am eich llety yn ystod y tymor.
Gallwch hawlio hyd at £3,458 (£4,079 yn ardal Llundain) tuag at eich costau bob blwyddyn, am hyd at uchafswm o dair blynedd. Seilir y grantiau ar incwm y cartref.
Cynllun Cymorth Preswyl faint o arian allech chi ei gael
Incwm Gros y Cartref | Astudio tu allan i Lundain | Astudio yn Llundain |
---|---|---|
Hyd at £21,000 | £3,458 | £4,079 |
Rhwng £21,001 a £25,704 | £2,305 | £2,685 |
Rhwng £25,705 a £30,993 | £1,152 | £1,355 |
£30,994 neu fwy | Dim grant | Dim grant |
Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth preswyl os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn, a'ch bod yn preswylio fel arfer yn Lloegr.
Rhaid bod y cwrs yr ydych yn ystyried ei ddilyn:
Diffinnir 'pellter teithio rhesymol y gallech ei deithio bob dydd' fel siwrnai sy'n llai na 15 milltir, neu siwrnai sy'n para dwy awr yno ac yn ôl. Gallwch gael syniad o amseroedd teithio drwy ddefnyddio cynlluniwr siwrnai Cross & Stitch.
Gall y rheolau preswylio fod yn gymhleth, ac nid yw'r wybodaeth ar y dudalen hon yn ymdrin â phob sefyllfa. Ond, yn gyffredinol, rydych yn 'preswylio fel arfer' yn Lloegr os ystyrir eich bod wedi yngartrefu yn y DU a'ch bod yn byw yn Lloegr ers tair blynedd o leiaf cyn dechrau'ch cwrs.
Mae 'wedi ymgartrefu' yn golygu un o'r canlynol:
Mae gan ddinasyddion Prydeinig a rhai pobl eraill hawl preswylio yn y DU.
Sut i wneud cais
Er mwyn cael pecyn cais Cynllun Cymorth Preswyl:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi pob adran berthnasol ar y ffurflen gais os gwelwch yn dda. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen gais, ffoniwch llinell gymorth Cefnogaeth i Ddysgwyr ar 0800 121 8989.
Os nad ydych yn gwbl fodlon gyda'r ffordd y deliwyd â'ch cais, ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 121 8989. Bydd cynghorwyr Cefnogaeth i Ddysgwyr yn fwy na pharod i'ch helpu i ddatrys eich problem.
Ydych chi'n chwilio am le i astudio? Ewch i 'Dysgu mewn coleg neu chweched dosbarth'.