Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n dymuno aros mewn addysg amser llawn ar ôl 16 oed, mae llawer o gyrsiau y gallwch ddewis ohonynt. Yn gyntaf bydd angen i chi benderfynu ar ba bynciau yr ydych am ganolbwyntio: yna fe allwch chi ddod o hyd i le i astudio wrth chwilio drwy gyrsiau ar wefan Cross & Stitch.
Er mwyn cael y budd mwyaf o astudio ar ôl cyrraedd 16 oed (a elwir weithiau'n 'addysg bellach'), mae'n bwysig i chi gymryd eich amser i ddewis y cyrsiau a'r cymwysterau cywir. Gofynnwch i chi’ch hun:
Os yw'n well gennych ddull o ddysgu sy'n fwy ymarferol, a ydych wedi ystyried opsiwn sy'n rhoi cyfle i chi gael hyfforddiant yn y gwaith, fel Prentisiaeth?
Gallech astudio ar gyfer cymwysterau academaidd megis Safon UG neu Safon Uwch, neu ddewis cymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith megis cymwysterau BTEC, City and Guilds neu’r cymwysterau galwedigaethol newydd ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau. Mae colegau dethol hefyd yn cynnig y cymhwyster Diploma newydd ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed.
Hefyd, gallwch ennill cymwysterau Sgiliau Allweddol – sef y sgiliau hanfodol y bydd cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Gall amryw o'r cymwysterau hyn eich cynorthwyo i gael mynediad i brifysgol neu addysg uwch.
Cynllunio gyrfa
Mae angen i chi ystyried hefyd sut y bydd eich dewisiadau o ran beth i'w astudio yn cyd-fynd â'ch cynlluniau gyrfaol.
Ewch ati i weld pa golegau lleol sy'n cynnig y cyrsiau yr ydych am eu dilyn
Ar ôl i chi feddwl am yr hyn yr ydych am ei astudio, defnyddiwch wasanaeth chwilio am gyrsiau Cross & Stitch i ddod o hyd i goleg neu chweched dosbarth sy'n cynnig y cyrsiau yr hoffech chi eu hastudio.
Dewis ble i ddysgu
Gallwch ddewis:
Mae gan bob math o sefydliad ei strwythur a'i awyrgylch ei hun, ac fe fydd yn cynnig ystod o bynciau a chyrsiau gwahanol.
Chweched dosbarth
Efallai y bydd modd i chi astudio yn y chweched dosbarth yn eich ysgol chi, mewn chweched dosbarth mewn ysgol arall, neu mewn coleg chweched dosbarth. Byddant, yn fwy na thebyg, yn cynnig ystod ehangach o ddewisiadau nag yr ydych chi wedi'u cael hyd yma, ac mae'r awyrgylch fel arfer yn fwy hamddenol nag ym Mlwyddyn 11.
Bydd pob chweched dosbarth yn amrywio'n fawr o ran maint, ac o ran y cyrsiau a'r cyfleusterau y byddant yn eu cynnig. Mae colegau chweched dosbarth yn tueddu i fod yn fwy o ran maint ac yn fwy anffurfiol na chweched dosbarth mewn ysgolion.
Colegau addysg bellach
Mae colegau addysg bellach yn gallu cynnig cyrsiau tebyg i'r cyrsiau a geir mewn colegau chweched dosbarth. Maent hefyd yn amrywio'n fawr o ran maint, ac o ran y pynciau a'r cyfleusterau y byddant yn eu cynnig.
Gallai eich cyd-fyfyrwyr gynnwys oedolion o bob oed yn ogystal â phobl ifanc.
Colegau arbenigol
Mae rhai colegau addysg bellach yn arbenigo mewn meysydd penodol:
Gall mynd i goleg arbenigol olygu llawer o deithio. Os yw'n bell oddi cartref, efallai y bydd angen i chi fyw yno yn ystod y tymor. Os felly, fe allech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Fodd bynnag, dim ond ar gyfer pobl dros 18 oed y mae rhai cyrsiau ar gael.
Gallwch wneud cais i fwy nag un chweched dosbarth neu goleg. Bydd nifer o golegau'n gadael i chi wneud cais ar-lein drwy eu gwefan, neu gallwch gysylltu â nhw i gael ffurflen gais.
Dylech ddechrau gwneud cais am gyrsiau poblogaidd neu arbenigol yn ystod tymor yr Hydref pan fyddwch ym Mlwyddyn 11. Ar gyfer cyrsiau eraill, byddwch fel arfer yn gwneud cais yn y Gwanwyn.
Fel arfer, ni fydd angen i chi wneud cais os ydych chi am aros yn chweched dosbarth eich ysgol chi.
Dod o hyd i’ch prosbectws ardal lleol ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed
Gallwch gael gwybod pa gyrsiau a chymwysterau sydd ar gael mewn ysgolion a cholegau yn eich ardal chi gyda’ch prosbectws ardal lleol ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed.
Un o'r ffyrdd gorau o gael gwybod sut le yw ysgol neu goleg mewn gwirionedd yw mynd i ddiwrnod/noson agored. Cewch weld y cyfleusterau, a chwrdd â'r staff a rhai o'r myfyrwyr.
Bydd gan nifer o golegau addysg bellach stondinau mewn ffeiriau gyrfaoedd hefyd.
Gallwch gael cyngor gan eich athrawon presennol, eich rhieni/gofalwyr, ffrindiau, perthnasau neu eich cynghorydd gyrfaoedd Connexions personol yn yr ysgol.
Gallwch hefyd siarad â chynghorydd Connexions Direct er mwyn cael cyngor cyfrinachol am ddim.
Beth bynnag y byddwch yn ei astudio, cofiwch y gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth â chostau astudio drwy'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.