Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Unwaith y byddwch yn 16 oed, bydd angen i chi wneud penderfyniadau am eich dyfodol. Ydych chi am aros mewn addysg amser llawn? Neu a fyddai'n well gennych ddechrau gweithio a chael hyfforddiant wrth ennill?
Ar ôl Blwyddyn 11, mae gennych lawer mwy o ddewis ynghylch beth yr ydych yn dymuno’i wneud.
Pa bynnag lwybr a ddewiswch, mae'n werth dal ati i ddysgu. Mae mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am bobl sydd â lefelau sgiliau a chymwysterau uwch y dyddiau hyn.
Er na all cymwysterau warantu eich bod yn cael swydd, mae gan bobl sydd â'r sgiliau a'r cymwysterau cywir well siawns o ddod o hyd i swydd ag iddi ragolygon da a mwy o arian. Efallai y bydd ganddynt fwy o sicrwydd swydd hefyd.
Cael eich calendr personol ar gyfer Blwyddyn 11 gan Connexions i gael canllaw i beth y mae angen i chi ei wneud a phryd.
Os oes gennych yrfa arbennig mewn golwg, mae hefyd yn werth canfod a fydd angen cymwysterau, sgiliau neu brofiad penodol arnoch. Ewch i ‘Dod o hyd i yrfa sy’n iawn i chi’ i gael gwybod mwy am gynllunio gyrfa.
Mae nifer o wahanol ffyrdd o ennill profiad gwaith, sgiliau neu gymwysterau pellach – ac mae’r ystod o opsiynau yn cynyddu.
Gallech wneud y canlynol:
Os ydych yn 16 neu’n 17 oed ac yn tynnu tua diwedd cwrs mewn ysgol neu goleg, golyga ‘Gwarant Medi’ y gallwch yn bendant barhau i ddysgu.
Gwarentir cynnig o le ar gwrs priodol i bawb yn y grŵp oed hwn a fydd yn gadael addysg – a bydd gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar gael i'w helpu i bwyso a mesur eu dewisiadau.
I gael gwybod beth sydd ar gael yn eich ardal chi, edrychwch ar eich prosbectws ardal lleol ar gyfer pobl ifanc 14-19 oed, sydd ar gael ar-lein.
Aros mewn addysg amser llawn
Fe welwch fod ystod llawer ehangach o bynciau a chymwysterau ar gael, a mwy o ddewis nag a gawsoch hyd yma.
Yn ogystal â chymwysterau Safon Uwch, gallwch ddewis o fwy a mwy o gymwysterau sy'n gysylltiedig â gwaith. Mae rhai ysgolion a cholegau hefyd yn cynnig y cymhwyster Diploma newydd ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed.
Gallech benderfynu aros yn yr ysgol, neu fynd i goleg chweched dosbarth, coleg arbenigol neu goleg addysg bellach, yn dibynnu ar beth yr ydych am ei astudio.
Dysgu yn y gwaith
Os ydych chi'n dymuno dechrau gweithio, mae'n bwysig eich bod yn dewis swydd sy'n cynnig hyfforddiant wedi’i gynllunio, a fydd yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae llawer o ffyrdd o loywi'ch sgiliau a chael cymwysterau, o Brentisiaethau i gynlluniau 'Mynediad at Waith'. Neu, gallai fod gennych hawl i gael 'Amser o'r gwaith i Astudio neu Hyfforddi'. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am y rhain ac am ddewisiadau eraill pan fyddwch yn 16 oed.
Cael profiad gwaith
Ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau, gallech ystyried cymryd hoe cyn mynd ymlaen i addysg uwch. Gall gwaith gwirfoddol, teithio a gweithio dramor fod yn ffyrdd o ennill profiadau gwerthfawr.
Llwybrau i'r brifysgol ac addysg uwch
Drwy aros mewn addysg amser llawn neu gychwyn Prentisiaeth, gallwch gymryd camau pwysig at gymhwyso ar gyfer cwrs addysg uwch.
Chi biau'r dewis
Ceir llawer o wybodaeth a chyngor i'ch helpu i benderfynu beth sy'n iawn ar eich cyfer ar wefan ‘It’s your choice’.
Gallwch hefyd lwytho cylchgrawn ‘It’s your choice’ oddi ar y safle.
Connexions
Mae Connexions yn wasanaeth sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc. Mae llawer o ffyrdd y gall Connexions helpu:
Gallwch hefyd gysylltu â chynghorydd Connexions Direct i gael cyngor cyfrinachol am ddim - dros y ffôn, dros yr e-bost, drwy sgwrs ar y we neu drwy neges destun.
Y bobl sy'n eich adnabod orau
Ar ôl i chi gael cyngor arbenigol, gall fod yn ddefnyddiol trafod eich dewisiadau gyda’r bobl sy’n eich adnabod orau – eich teulu a’ch ffrindiau.
Yn y diwedd, bydd gennych y syniad gorau posib o'r hyn sy'n iawn i chi. Os ydych yn bwriadu gweithio tuag at gwrs addysg uwch neu yrfa benodol, daliwch ati, hyd yn oed os yw hynny'n golygu dilyn llwybr gwahanol i ffrindiau ac aelodau o'ch teulu.