Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall cymryd blwyddyn o beidio ag astudio er mwyn gwneud rhywbeth arall wneud byd o les i'ch sgiliau, eich hyder ac i'ch CV. Bydd llawer o bobl yn cymryd blwyddyn fwlch cyn dechrau yn y coleg neu'r brifysgol, ond fe allwch ddewis cael un unrhyw bryd.
Yn eich blwyddyn fwlch, gallech wneud unrhyw beth:
Mae cymryd blwyddyn fwlch yn ffordd dda o gael mwy o brofiad gwaith mewn amgylcheddau newydd cyn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgol neu fyw oddi cartref.
Efallai mai dyma fydd y tro cyntaf i chi fod o'r ysgol neu'r coleg heb athrawon nac aseiniadau i chi boeni yn eu cylch. Os byddwch yn dewis gweithio, efallai mai dyma fydd y tro cyntaf i chi weithio am gyfnodau amser llawn. Beth bynnag ddewiswch chi, fe allai blwyddyn fwlch fod yn ffordd dda o fagu hyder, a'ch gwneud yn fwy annibynnol cyn mynd i'r brifysgol.
Hyd yn oed os yw cael swydd yn ymddangos yn bell i ffwrdd, gall cymryd blwyddyn fwlch hefyd edrych yn dda ar eich CV. Bydd cyflogwyr posib yn gweld eich bod wedi treulio amser yn ehangu eich gorwelion ac yn dysgu sgiliau newydd.
Os byddwch yn treulio blwyddyn yn gwirfoddoli mewn diwydiant neu sefydliad yr hoffech fynd i mewn iddo yn y dyfodol, bydd cyflogwyr yn gweld eich bod wedi ymrwymo i ymestyn eich gyrfa.
Os byddwch chi'n dymuno dychwelyd i goleg neu brifysgol, bydd blwyddyn fwlch yn dangos eich bod yn ymroddedig i'ch addysg, ac mae'n bosib y gwelwch chi eich bod yn mynd ati i ddysgu mewn ffordd wahanol ar ôl cael blwyddyn allan.
Gweithio a theithio dramor
Efallai y byddwch yn dymuno teithio a phrofi bywyd mewn gwledydd eraill yn ystod eich blwyddyn fwlch. Mae llawer o gwmnïau teithio'n trefnu teithiau blwyddyn fwlch sy'n ymweld â chymaint o lefydd ag sy'n bosib mewn blwyddyn.
Os nad ydych wedi cynilo digon o arian cyn i chi fynd, gallech weithio'ch ffordd o amgylch y byd, neu hyd yn oed ddysgu Saesneg fel iaith dramor. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi gael math arbennig o fisa mewn rhai gwledydd, felly cofiwch holi cyn mynd.
Gweithio yn y DU
Efallai y byddwch yn dymuno treulio'r flwyddyn yn gweithio yn y DU ac yn arbed arian ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol. Gallech gael swydd amser llawn reolaidd, neu rywfaint o waith dros dro neu ran-amser sy'n dal i roi rhywfaint o amser rhydd i chi fwynhau eich blwyddyn fwlch.
Efallai y byddwch hefyd yn dymuno rhannu'ch blwyddyn fwlch a threulio'r chwe mis cyntaf yn gweithio i arbed arian ar gyfer teithio yn ail hanner y flwyddyn.
Holwch gynghorydd gyrfa neu gynghorydd Connexions am gynlluniau sy'n rhoi cyfle i chi dreulio eich blwyddyn fwlch mewn diwydiant sy'n berthnasol i'ch astudiaethau neu'ch cynlluniau gyrfa ar gyfer y dyfodol.
Gallech hefyd edrych ar gyflawni 'Blwyddyn mewn Diwydiant', lle gallwch weld sut mae'r byd gwaith yn gweithio. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi weithio â phobl newydd ac i ddysgu rhywfaint o sgiliau perthnasol. Mae rhai pobl sy'n manteisio ar y cyfle hwn yn cael ysgoloriaeth i'w helpu drwy eu haddysg uwch.
Gwirfoddoli
Bydd llawer o fudiadau'n rhoi cyfle i bobl ifanc wirfoddoli mewn gwahanol wledydd o amgylch y byd.
Mae'r cyfleoedd yn amrywio o helpu mewn ysgolion neu ar wersylloedd haf i blant i gynorthwyo mewn clinig AIDS neu glinig i wahangleifion. Mae gwirfoddoli'n gofyn am ymroddiad a gwaith caled, ond mae'n gyfle unigryw i brofi diwylliannau eraill.
Os ydych chi'n awyddus i aros yn nes at eich cartref, mae angen gwirfoddolwyr ar lawer o brosiectau yn y DU.
Os ydych yn dewis mynd dramor ar gyfer blwyddyn fwlch, mae’n bwysig gwneud llawer o ymchwil cyn i chi fynd. Bydd gwybod am ddiwylliant ac arferion y wlad dan sylw yn golygu eich bod wedi'ch paratoi'n well i ddelio ag unrhyw sefyllfaoedd dieithr tra'ch bod yno. Gall hefyd eich helpu i osgoi torri unrhyw gyfreithiau lleol mewn camgymeriad ac eich cadw’n ddiogel.