Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwirfoddoli os ydych chi rhwng 14 a 19 oed

Mae prosiectau gwirfoddoli ledled y DU yn chwilio am fwy o bobl i'w helpu drwy'r amser. Does dim gwahaniaeth pa sgiliau sydd gennych, mae gan bawb rywbeth i'w gynnig. Hefyd mae bod yn wirfoddolwr yn edrych yn wych ar eich CV.

Pam gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli'n rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill ac i'ch cymuned.

Mae llawer o wirfoddolwyr hefyd yn gweld bod eu gwaith yn rhoi mwy o hyder iddynt, yn dysgu sgiliau newydd iddynt a'i fod yn rhoi hwb i'w rhagolygon ym myd addysg a chyflogaeth. Os oes gennych syniad clir pa fath o yrfa yr ydych yn dymuno ei dilyn, yna mae gwirfoddoli'n ffordd wych o gael profiad ychwanegol - profiad a allai wneud i chi sefyll allan mewn cyfweliad am swydd neu gyfweliad i fynd i goleg neu brifysgol.

Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, a gallai'r rhain fod yn berthnasol i'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol o safbwynt eich gyrfa. Efallai yr hoffech wneud un o'r rhain:

  • helpu yn eich canolfan hamdden leol yn ystod gwyliau'r haf fel goruchwyliwr cynllun chwarae
  • bod yn wirfoddolwr cadwraeth mewn parc lleol neu ar un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • gwirfoddoli mewn digwyddiadau chwaraeon, arddangosiadau neu ŵyl leol
  • bod yn fentor i bobl ifanc eraill

v - yr elusen gwirfoddoli

Sefydlwyd v er mwyn hyrwyddo gwirfoddoli ymhlith pobl ifanc yn Lloegr. Maent yn gobeithio annog un miliwn ychwanegol o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i wirfoddoli yn eu hamser hamdden ar brosiectau yn eu hardal leol.

Gan eu bod yn gweithio gyda phobl ifanc bob amser, mae'r cyfleoedd gwirfoddoli y gall v eu cynnig o ddiddordeb arbennig i bobl ifanc. Gallech fod yn gweithio mewn gorsaf radio gymunedol leol, yn rhedeg tîm chwaraeon neu'n goruchwylio plant ifanc mewn gweithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol.

Gwirfoddoli amser llawn oddi cartref

Os ydych chi'n barod i fyw oddi cartref, efallai y byddech chi'n ystyried gwneud gwaith gwirfoddol amser llawn drwy gyfrwng mudiad fel Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol (CSV).

Rhaid i chi fod ar gael am gyfnod rhwng pedwar a 12 mis, a bod yn barod i fynd i ble bynnag y cewch chi'ch anfon yn y DU.

Does dim rhaid i chi fod â phrofiad, sgiliau arbenigol na chymwysterau, dim ond brwdfrydedd. Fe gewch eich lleoli yn y man lle mae'r angen mwyaf ac fe gewch help, cyngor a hyfforddiant pan gyrhaeddwch y lleoliad.

Dylech ddisgwyl gweithio hyd at 40 awr yr wythnos, ac fe allai hyn gynnwys penwythnosau. Os byddwch yn gwirfoddoli gyda'r CSV, byddwch yn derbyn lwfans a llety, a bydd y bwyd am ddim.

Cynllun Gwobrau Dug Caeredin

Rhaglen o weithgareddau gwirfoddol i chi ei dilyn yn eich amser rhydd yw cynllun gwobrau Dug Caeredin. Mae gwahanol adrannau o weithgareddau y gallwch ddewis rhyngddynt:

  • gwirfoddoli
  • ennill sgiliau newydd
  • gweithgareddau corfforol
  • cymryd rhan mewn alldaith
  • gweithio oddi cartref mewn tîm

Gall pawb dros 14 oed gymryd rhan yn y cynllun, ac fe'i rhennir yn dair gwobr wahanol: Gwobr Aur, Arian ac Efydd. Bydd y math o gynllun y cewch ei ddilyn yn dibynnu ar eich oed.

Os nad ydych chi eisoes wedi cael y wobr Efydd a'r wobr Arian, fe allwch ddechrau gyda'r wobr Aur, cyn belled â'ch bod yn cwblhau chwe mis ychwanegol yn y maes sgiliau neu hamdden a'ch bod dros 16 oed.

Gall Gwobr Dug Caeredin fod o gymorth i roi hwb i'ch CV ac fe allai eich helpu yn yr yrfa a ddewiswch. Oherwydd bod y cynllun yn gofyn am lefel uchel o ymrwymiad a gwaith caled, mae ganddo enw da ymhlith cyflogwyr. Mae hefyd yn ffordd ardderchog o gwrdd â phobl newydd sydd â diddordeb yn yr un pethau â chi.

Holwch athro neu weithiwr ieuenctid am gynllun Dug Caeredin. Efallai fod rhai eraill yn eich ysgol neu'ch clwb ieuenctid yn cymryd rhan yn y cynllun. Os nad oes, cymerwch olwg ar y wefan er mwyn gweld â phwy y dylech gysylltu yn eich ardal chi.

Additional links

Cyngor a chymorth am ddim

A ydych chi rhwng 13 ac 19? Pa bynnag ddewis mae angen i chi wneud, gall Connexions Direct eich helpu

Allweddumynediad llywodraeth y DU