Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwaith gwirfoddol dramor

Awydd teithio a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar yr un pryd? Drwy wirfoddoli dramor, fe allwch chi wneud y naill a'r llall o'r pethau hyn. Waeth sut sgiliau, profiad a diddordebau sydd gennych, mae'n debygol y bydd prosiect ar gael sy'n addas i chi.

Gallwch elwa ar wirfoddoli

Gall gwirfoddoli fod unrhyw beth o brosiectau gydag anifeiliaid ac ym maes yr amgylchedd i helpu ailadeiladu cymunedau sydd wedi'u dinistrio gan ddaeargryn. Gall rhoi dim ond ychydig wythnosau o'ch amser gynorthwyo ardal a'r bobl sy'n byw ynddi. Drwy wirfoddoli mewn gwlad arall fe allwch chi hefyd ehangu'ch gorwelion, dysgu am ddiwylliant gwahanol a gwneud ffrindiau newydd.

Gall gwirfoddolwyr ddod o bob math o gefndiroedd gwahanol, gan gynnwys gweithwyr cartref, myfyrwyr ar flwyddyn fwlch, athrawon, peirianyddion, gweithwyr iechyd, gwyddonwyr a swyddogion y llywodraeth.

Bydd profiad rhyngwladol, yn y gweithle neu fel gwirfoddolwr, yn ychwanegu elfen ddiddorol arall at eich CV. Gall yr ychwanegiad hwn i’ch CV dynnu sylw at eich cais am swydd neu am ddyrchafiad.

Cyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli

treuliwch amser yn dod o hyd i brosiect sy'n addas ar eich cyfer chi

Gall mudiadau fel y Cyngor Prydeinig, Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor (VSO) ac elusennau gydag unedau rhyngwladol eich helpu gyda phenderfyniad ynghylch gwirfoddoli. Mae gan y Grŵp Blwyddyn Allan hefyd wybodaeth am amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli. Mae rhai mudiadau, megis Gap Activity Projects, yn cynnig bwrsarïau i ymgeiswyr na fyddant fel arall yn gallu fforddio cymryd blwyddyn allan.

Mae cynllun Connect Youth y Cyngor Prydeinig yn cynnig rhaglenni sy'n amrywio o raglenni cyfnewid i grwpiau i wasanaeth gwirfoddol unigol, i gyd wedi'u cynllunio i roi profiad rhyngwladol i bobl ifanc.

Elusen ddatblygu ryngwladol yw VSO, sy'n ceisio cyfuno sgiliau pobl a'u cefndir proffesiynol gyda'r angen am wirfoddolwyr drwy'r byd. Mae oedrannau'r gwirfoddolwyr yn amrywio o 17 i 75.

Os hoffech chi gynnig help i elusen neu fudiad gwirfoddol penodol, cysylltwch â hwy i weld a oes angen unrhyw wirfoddolwyr arnynt i weithio dramor.

Efallai na fydd y prosiect gwirfoddoli cyntaf y dewch chi o hyd iddo yn ddelfrydol ar eich cyfer chi, ond mae hi'n bwysig parhau i chwilio hyd nes y dewch chi o hyd i rywbeth y byddwch yn teimlo'n gyfforddus yn ei wneud.

Siaradwch â threfnwyr y rhaglen wirfoddoli am unrhyw bryderon sydd gennych. Dylech gael gwybod pa gamau diogelwch sydd yn eu lle, a beth fyddai'n digwydd pe bai'n rhaid i chi ddychwelyd i'r DU yn gynt nag yr oeddech chi wedi'i ddisgwyl. Efallai byddwch chi'n gweld nad yw'r prosiect yn addas ar eich cyfer chi – ond daliwch ati i chwilio.

Cael seibiant gyrfa o'ch swydd

Os ydych chi'n cael cyflog, ceisiwch ganfod sut y byddai cael seibiant gyrfa neu fynd ar secondiad i wirfoddoli dramor yn eich effeithio yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys eich cytundeb gwaith, ar eich cynllun iechyd ac ar eich cyfraniadau pensiwn ac Yswiriant Gwladol, a holwch am y trefniadau ar gyfer dychwelyd i'ch swydd.

Bydd gan rai cyflogwyr bolisi i annog eu staff i wirfoddoli neu i fynd i weld prosiectau cymunedol maen nhw'n eu noddi dramor. Efallai y bydd eraill yn ystyried eich cyfnod gwirfoddoli fel gwyliau estynedig heb dâl neu yn ei weld fel secondiad. Gallai hyn fod o gymorth os byddwch chi'n ystyried gwirfoddoli dramor am gyfnod hir.

Os ydych chi'n disgwyl dychwelyd i'ch swydd ar ddiwedd y cyfnod gwirfoddoli rhowch eich manylion cysylltu i’ch cyflogwr. Hefyd gallwch roi enw'r mudiad rydych chi'n gwirfoddoli drosto rhag ofn y bydd angen iddynt gysylltu â chi ar frys.

Cyn i chi fynd

Sicrhewch eich bod yn cael y brechiadau cywir ar gyfer y wlad dan sylw a chael gwybod am unrhyw gyngor diogelwch gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Bydd angen pasport dilys arnoch ar gyfer yr holl gyfnod y byddwch chi dramor. Mae gwerth hefyd mewn canfod manylion cyswllt a lleoliad yr Is-Genhadaeth Brydeinig yn y wlad lle byddwch chi'n gweithio.

Efallai y bydd gan y mudiad y byddwch chi'n gweithio iddo yswiriant teithio ac iechyd ar eich cyfer pan fyddwch chi dramor. Dylech ganfod beth yn union yw'r polisïau ac a oes angen i chi gael polisïau ychwanegol ai peidio.

Tra byddwch chi i ffwrdd, ceisiwch gadw mewn cysylltiad rheolaidd gyda'r elusen neu'r mudiad rydych chi'n gwirfoddoli drosto gan wneud yn sicr eu bod yn gwybod ble i ddod o hyd i chi mewn argyfwng. Bydd hyn yn gymorth i chi allu clywed am unrhyw newidiadau yn y wlad a allai effeithio ar eich diogelwch neu eich iechyd. Os ydych chi'n pryderu ynghylch y sefyllfa yn y wlad, cadwch mewn cysylltiad â'r Is-Genhadaeth Brydeinig yn yr ardal.

Blebynnag y byddwch chi'n gwirfoddoli, mwynhewch y profiad gan y gall hwnnw fod yn hwyl yn ogystal â rhoi boddhad.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU