Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall astudio dramor fod yn brofiad sy'n rhoi llawer o foddhad, ond mae llawer o bethau i feddwl amdanynt cyn gwneud cais am fynd i brifysgol dramor. Bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith ymchwil manwl, ystyried sut y byddwch yn ariannu'ch astudiaethau a meddwl am y materion ymarferol sy'n gysylltiedig ag astudio mewn prifysgol dramor.
Gallai astudio dramor wneud i chi edrych ar eich pwnc – ac ar fywyd yn gyffredinol – mewn ffordd gwbl wahanol.
Os cewch lwyddiant gallai hyn roi mantais i chi yn y farchnad swyddi. Bydd dangos eich bod yn gallu addasu ac yn gallu ymdopi â her yn profi hyn hefyd. Mae cyflogwyr yn chwilio mwy a mwy am bobl sydd wedi cael profiadau rhyngwladol ac sy'n meddu ar sgiliau ieithyddol.
Gall y syniad o adael ffrindiau a theulu fod yn frawychus. Fodd bynnag, gallai blwyddyn dramor fod yn brofiad gwerthfawr i fyfyrwyr sydd am weithio mewn gwlad arall pan fyddant yn hŷn.
Mae hefyd yn gyfle gwych i ddod i adnabod pobl o bob cwr o'r byd. Gallwch weld sut brofiad fyddai byw mewn gwlad wahanol mewn gwirionedd heb orfod symud i fyw'n barhaol.
Mae llawer o brifysgolion yn y DU yn cymryd rhan mewn cynlluniau sy'n caniatáu i fyfyrwyr astudio neu weithio dramor am ran o'u cwrs, fel cynllun Erasmus.
Gallai un o'r cynlluniau hyn fod yn ddewis da os ydych yn dymuno gwneud rhan o'ch cwrs dramor, yn hytrach na'r cwrs i gyd. Am fwy o wybodaeth ar gyfleoedd fel hyn, ewch i ‘Treulio rhan o'ch cwrs gradd dramor'.
Os ydych chi'n dymuno dilyn cwrs gradd gyda phrifysgol dramor, dylech ddechrau trefnu ymhell ymlaen llaw. Dylai hyn fod rhwng 12 a 18 mis yn y rhan fwyaf o achosion. Bydd angen i chi wneud y canlynol:
Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch a ddylech wneud cais ai peidio, dilynwch y dolenni isod i gael syniad am y materion y mae angen i chi eu hystyried.