Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Astudio mewn prifysgol dramor: gwneud eich gwaith ymchwil

Os byddwch yn penderfynu gwneud eich gradd gyda phrifysgol dramor, bydd angen i chi wneud digon o waith ymchwil cyn gwneud cais. Dylech ystyried a yw'r wlad a'r cwrs yn addas i chi - a meddwl am faterion ymarferol megis gofynion mynediad a fisas.

Dewis ble i astudio

Cofiwch nad oes gan y rhan fwyaf o wledydd system fynediad ganolog fel UCAS yn y DU - mae'n debygol y bydd yn rhaid i chi wneud cais i bob prifysgol yn unigol.

Gallwch ddysgu am addysg uwch mewn gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd ar wefan Your Europe. Mae gan Your Europe wybodaeth am strwythur cyrsiau, ffioedd nodweddiadol, a chymorth ariannol.

Mae gan wefan Cyngor y DU dros Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA) ddolenni at wybodaeth am addysg uwch mewn gwledydd unigol - yn yr UE ac y tu allan iddi.

Mae ffynonellau gwybodaeth eraill yn cynnwys llysgenadaethau tramor yn y DU, ac ar gyfer gwledydd y Gymanwlad, Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad.

Syniadau ar gyfer cyrsiau

Mae canllaw 'Astudio Dramor' Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yn cynnwys cronfa ddata o oddeutu 2,900 o gyrsiau ac ysgoloriaethau sydd ar gael ledled y byd. Yn ogystal â gwybodaeth sylfaenol am gyrsiau, cewch syniad pa gymorth ariannol a all fod ar gael.

Gwneud yn siŵr bod sefydliadau a chymwysterau'n cael eu cydnabod

Gweld sefydliadau

Mae dilyn cwrs gradd yn golygu buddsoddiad sylweddol o amser ac arian, felly mae'n werth edrych yn iawn ar unrhyw sefydliad yr ydych yn ystyried gwneud cais iddo.

Gallwch ddefnyddio gwefan enic-naric.net i weld a yw prifysgol y mae gennych ddiddordeb ynddi yn cael ei chydnabod yn ei gwlad ei hun. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor Ewrop ac UNESCO/CEPES, a cheir dolenni gwych at wybodaeth arni. Bydd y dolenni hyn yn rhoi gwybodaeth am y systemau addysg mewn dros 50 o wledydd. Mae 'Pecyn Cymorth i fyfyrwyr' UNESCO yn cynnwys awgrymiadau ynghylch sicrhau bod cwrs yr ydych yn ei ystyried yn fuddiol.

Gwirio cymwysterau

Hyd yn oed os yw sefydliad yn cael ei gydnabod yn ei wlad ei hun, bydd yn syniad i chi edrych pa statws sydd gan y cymhwyster a gewch yn y DU.

Gall dinasyddion y DU sy'n meddwl am fynd dramor i astudio gael cyngor gan UK Naric ynghylch achrediad a chydnabyddiaeth y cymwysterau y bwriadant eu hastudio. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am y sefydliad yr ydych yn awyddus i fynd iddo dramor.

UK NARIC yw'r asiantaeth genedlaethol yn y DU sy'n gyfrifol am ddarparu gwybodaeth a barn arbenigol am gymwysterau a enillir dramor. Tra mae'n gallu rhoi barn am statws gradd o wlad dramor yn y DU, er gwybodaeth yn unig y mae hyn ac nid oes sail gyfreithiol i'r wybodaeth. Mae gan gyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn y DU hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain (neu ddim) ynghylch a ydynt am gydnabod cymwysterau dramor ai peidio.

Mae'n bwysig bod eich cymwysterau'n cael eu cydnabod, yn enwedig ar gyfer gyrfaoedd pan fydd angen y cymwysterau hynny arnoch i ymarfer - ym maes meddygaeth neu'r gyfraith, er enghraifft. Dylech holi'r corff proffesiynol perthnasol yn y wlad y bwriadwch weithio ynddi.

Gofynion mynediad

Yn ogystal â gwneud yn siŵr bod y cwrs a'r brifysgol yn iawn i chi, bydd angen i chi feddwl am bethau ymarferol.

Bydd nifer o brifysgolion mewn gwledydd tramor yn cynnig cyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg, ond efallai y bydd rhai yn gofyn i chi sefyll prawf iaith cyn y byddant yn eich derbyn. Yn ogystal â hyn bydd angen i chi drefnu fisa myfyriwr, trwydded breswylio neu waith papur arall y mae'n rhaid ei gael.

Mae gan Your Europe wybodaeth am ofynion mynediad yn Ewrop. Mae 'Proffiliau Gwledydd' enic-naric.net yn cynnwys dolenni at wybodaeth am systemau addysg ledled y byd - mae llawer o'r rhain yn cynnwys manylion gofynion mynediad.

I gael gwybodaeth am ariannu eich cwrs gradd dramor, dilynwch y ddolen isod:

Allweddumynediad llywodraeth y DU