Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi'n symud dramor i weithio, dylech ganfod pa hawliau sydd gennych o dan gyfraith cyflogaeth y wlad dan sylw. Rhowch wybod i'ch swyddfa dreth os byddwch chi'n symud dramor, ac os ydych chi'n hawlio budd-daliadau, siaradwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith, â'ch Canolfan Waith neu â'ch swyddfa nawdd cymdeithasol.
Os byddwch chi'n mynd dramor fel gweithiwr i gwmni sydd wedi'i leoli yn y DU, efallai na fydd gennych chi'r un hawliau cyflogaeth â gweithwyr yn y DU. Gall gofynion o ran oriau gweithio, gwyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus amrywio.
Os byddwch chi'n symud dramor i weithio, gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi'ch hun:
Nid yw pob cymhwyster yn cael ei gydnabod drwy'r UE
Nid yw pob cymhwyster yn cael ei gydnabod drwy'r UE ac AEE, ac mae gan rai proffesiynau gyfyngiadau cyflogaeth. Bydd modd i chi weld statws eich cymwysterau ar daflenni gwybodaeth sy'n cael eu darparu gan aelod-wladwriaethau'r UE. Mae taflenni gwybodaeth yn eich galluogi i weld a yw'ch cymhwyster o'r DU yn dderbyniol. Gall sgiliau iaith a pha mor rhugl ydych chi hefyd fod yn fater o bwys wrth chwilio am waith.
Gellir cael gwybodaeth gan y Comisiwn Ewropeaidd am symud i wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd. Gallwch gael help gyda chael cydnabyddiaeth am eich cymwysterau, gyda chwilio am waith yn llwyddiannus, gyda thalu treth a gyda’ch hawliau. Gweler gwefan Your Europe am fanylion. Mae cymorth hefyd ar gael gan EURES, sef rhwydwaith o ymgynghorwyr cyflogaeth drwy'r UE.