Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae gan ddinasyddion y DU hawl i weithio mewn unrhyw wlad sy’n rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Gallwch chwilio am waith drwy ddefnyddio’r peiriant chwilio ar gyfer swyddi a sgiliau. Os bydd eich cyflogwr yn eich anfon dramor i weithio, mae mwy o wybodaeth ar gael yma ynghylch beth mae hynny'n ei olygu.
Fel un o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) neu Norwy, Gwlad yr Ia neu Liechtenstein (gwledydd yr AEE), mae gennych hawl i weithio mewn unrhyw aelod-wladwriaeth arall. Does dim angen trwydded waith arnoch chi. Bydd gennych chi hefyd yr un hawliau â dinasyddion y wlad dan sylw o ran amodau gwaith, cyflog a nawdd cymdeithasol.
Os ydych chi’n awyddus i ddod o hyd i waith mewn aelod-wladwriaeth arall yn yr UE, gallwch chwilio am swydd drwy ddefnyddio peiriant chwilio swyddi'r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae gwybodaeth am weithio yn Ewrop ar gael gan y rhwydwaith swyddi Ewropeaidd, EURES (Gwasanaethau Cyflogi Ewrop). Gallwch hefyd ddefnyddio gwefan EURES i gofrestru'ch CV neu i chwilio am swyddi.
Os bydd eich cyflogwr yn eich trosglwyddo o un o aelod-wladwriaethau’r UE y mae gennych hawl i weithio ynddi i un o aelod-wladwriaethau eraill yr UE dros dro, mae hyn yn berthnasol i chi. Bydd telerau ac amodau eich cyflogaeth yn cael eu diogelu.
Efallai fod eich cyflogwr yn eich anfon i aelod-wladwriaeth arall yn yr Undeb Ewropeaidd am un o'r rhesymau canlynol:
Rhaid i'ch cyflogwr gydymffurfio â'r telerau ac amodau cyflogaeth sylfaenol yn y wlad rydych wedi cael eich anfon iddi. Er enghraifft, os oes gan y wlad rydych yn cael eich anfon iddi isafswm cyflog uwch, bydd gennych hawl i gael isafswm cyflog y wlad honno.
Does dim yn rhwystro'ch cyflogwr rhag cynnig telerau ac amodau cyflogaeth mwy ffafriol i chi na'r isafswm a ddarperir gan y wlad rydych wedi cael eich anfon iddi.
Dyma'r telerau ac amodau sy'n berthnasol i weithwyr sy'n cael eu hanfon i wlad arall i weithio:
Mae hefyd yn bosib bod eich telerau ac amodau gwaith yn cael eu rheoleiddio gan gytundebau cenedlaethol ar y cyd a all fod yn berthnasol yn gyffredinol. Does dim ar waith yn y DU.
Nid yw'r warchodaeth a gynigir i weithwyr a anfonir i wlad arall i weithio yn ymdrin â darpariaethau Yswiriant Gwladol a threth.
Os ydych chi'n gweithio yn y DU, bydd angen i chi gofrestru at ddibenion treth. Os oes gennych ffurflen E101 o'r wlad sydd fel arfer yn eich cyflogi, gallai hynny olygu y gallwch barhau i dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol i'ch mamwlad.
I gael gwybod mwy am y ffurflen E101 neu am dreth a nawdd cymdeithasol os cewch eich anfon o'r DU neu i'r DU i weithio, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen cysylltiadau cyflogaeth. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, gallwch gael cymorth, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.
Os hoffech gael cyngor ynghylch dod o hyd i waith dramor, gallwch gysylltu â thîm Cyngor ynghylch Chwilio am Waith Rhyngwladol y Ganolfan Byd Gwaith.
Anfonwch e-bost at y tîm ar:
europarc.ija4@jobcentreplus.gsi.gov.uk