Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gweithwyr o Ewrop yn y DU

Os ydych chi’n dod o wlad arall yn Ewrop ac yn dymuno dod i'r DU i weithio, bydd angen i'ch cyflogwr newydd wybod a yw'n gyfreithlon i chi wneud hynny. Yma cewch wybod a fydd rhaid i chi gofrestru, a pha brawf fydd angen i chi ei ddangos i gyflogwr.

Dod i weithio yn y DU

Mae gan bron i holl ddinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) a'r Swistir hawl i ddod i’r Deyrnas Unedig ac i fyw yno heb orfod gwneud cais am ganiatâd.

Gwledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd

Dyma wledydd yr AEE:

Yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gwlad Groeg, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithiwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Rwmania, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, y Weriniaeth Tsiec.

Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd

Os ydych chi’n dod o un o aelod-wladwriaethau newydd yr Undeb Ewropeaidd – naill ai Bwlgaria neu Rwmania – efallai y bydd angen i chi gofrestru neu ofyn am ganiatâd.

Os ydych chi’n un o ddinasyddion Bwlgaria neu Rwmania, efallai y byddwch yn rhwym wrth ofynion awdurdodi gweithwyr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi gael caniatâd Asiantaeth Ffiniau'r DU cyn derbyn neu ddechrau unrhyw swydd yn y DU.

Os ydych chi'n hunangyflogedig, does dim angen i chi gael caniatâd.

Eithriadau wrth gofrestru ac awdurdodi gweithwyr

Ceir rhywfaint o amgylchiadau eraill pan na fyddai angen i chi gofrestru os ydych chi'n dod o Fwlgaria neu Rwmania. I gael gwybodaeth am yr eithriadau, cliciwch y ddolen isod.

Myfyrwyr o'r AEE

Os ydych chi'n dod o un o wledydd yr AEE, neu os ydych chi'n un o ddinasyddion y Swistir, fe gewch weithio heb gyfyngiadau oni bai eich bod yn un o ddinasyddion Bwlgaria neu Rwmania.

Myfyrwyr o Fwlgaria neu Rwmania

Os ydych chi’n fyfyriwr o Fwlgaria neu Rwmania, bydd angen i chi gael caniatâd Asiantaeth Ffiniau’r DU i weithio. Fe gewch chi weithio hyd at 20 awr yr wythnos ac ar sail amser llawn yn ystod y gwyliau neu os ydych yn dilyn cwrs galwedigaethol.

Aelodau o’r teulu

Os ydych chi’n aelod o deulu un o ddinasyddion yr AEE, mae’n bosib y byddwch chi'n gallu gweithio yn y DU heb gyfyngiadau, ar yr amod eich bod yn 'arfer hawl Cytundeb yn y DU'. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu eich bod naill ai’n gyflogedig, yn hunangyflogedig, yn cynnal eich hun neu’n fyfyriwr. Mae’n bosib na fydd gennych chi’r hawl hon os ydych chi, fel aelod o’r teulu, yn un o ddinasyddion Bwlgaria neu Rwmania.

Os ydych chi’n briod ag un o ddinasyddion yr AEE, mae hynny’n golygu ei fod yn aelod o’ch teulu. Gall aelod o deulu un o ddinasyddion yr AEE hefyd olygu rhiant, taid neu nain/tad-cu neu fam-gu, plentyn dan 21 oed y dinesydd neu ei gymar neu bartner sifil.

Os yw dinesydd yr AEE yn y DU fel myfyriwr, dim ond ei gymar, ei bartner sifil neu ei blant dibynnol sy’n cael eu hystyried yn aelodau o'r teulu.

Nid oes gan berthnasau eraill nad ydynt yn dod o’r UE (gan gynnwys aelodau teulu estynedig fel partneriaid, brodyr, chwiorydd a chefndryd/cyfnitherod) hawl awtomatig i weithio yn y Deyrnas Unedig. Os ydych chi’n perthyn i’r categori hwn, efallai y bydd angen i chi wneud cais am gerdyn preswylio cyn y bydd gennych hawl i weithio yma dan gyfraith Ewrop.

Os ydych chi’n aelod o deulu un o ddinasyddion Bwlgaria neu Rwmania, bydd eich gallu i weithio a pha ddogfennau y cewch wneud cais amdanynt yn dibynnu ar statws eich noddwr Ewropeaidd.

Pa brawf fydd ei angen ar gyflogwyr

Os ydych chi’n dod o un o wledydd yr AEE, bydd angen i chi ddangos un o’r canlynol i ddarpar gyflogwr:

  • eich pasbort
  • eich cerdyn adnabod cenedlaethol

Os ydych chi’n dod o Fwlgaria neu Rwmania a bod arnoch angen caniatâd gan Asiantaeth Ffiniau’r DU er mwyn gweithio, bydd angen i chi ddangos eich dogfen weithio.

Gall cyflogwyr wynebu dirwyon o unrhyw faint os byddant yn cyflogi gweithwyr anghyfreithlon, felly mae angen iddynt sicrhau nad oes neb y maen nhw'n ei gyflogi'n gweithio'n anghyfreithlon yn y DU. Fodd bynnag, er mwyn gwarchod eu hunain rhag deddfau gwahaniaethu, dylent drin pob ymgeisydd am swydd yn gyfartal.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU