Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawliau cyflogaeth sylfaenol

Caiff eich hawliau cyflogaeth eu gwarchod gan y gyfraith i’ch atal rhag cael eich ecsbloetio neu’ch trin yn wael. Yma cewch wybod beth yw eich hawliau cyflogaeth sylfaenol a ble gallwch gael help a chyngor os oes gennych broblem.

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

Mae’r Llinell Gymorth yn cymryd galwadau mewn dros 100 o ieithoedd – ffoniwch 0800 917 2368

Gall y Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio eich helpu gyda chwestiynau neu gwynion ynghylch:

  • yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • yr Isafswm Cyflog Amaethyddol
  • gweithio i unrhyw asiantaeth cyflogi
  • terfynau oriau gwaith
  • gweithio i gangfeistr (asiant sy’n dod o hyd i waith i chi ym meysydd amaeth, coedwigaeth, prosesu bwyd a phecynnu neu brosesu pysgod cregyn)

Mae’r Llinell Gymorth yn cymryd galwadau mewn dros 100 o ieithoedd.

Gallwch hefyd ofyn cwestiwn neu gwyno gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf. Nid oes gwahaniaeth a ydych chi’n gweithio'n amser llawn, yn rhan amser, mewn swydd barhaol, ar gontract tymor byr, i asiantaeth, neu'n uniongyrchol i gyflogwr.

Os cewch eich talu ar sail sawl peth rydych chi'n ei wneud neu sawl tasg rydych chi'n ei chyflawni, gelwir hyn yn waith ‘fesul tasg’ neu’n waith ‘allbwn’. Mae gennych chi dal yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer gwaith fesul tasg.

Gwaith amaethyddol

Os ydych chi'n gweithio ym maes amaethyddiaeth, mae gennych chi hawliau gwahanol i weithwyr eraill. Gallwch fod â’r hawl i gael yr Isafswm Cyflog Amaethyddol a lwfansau eraill. Mae gennych hefyd reolau gwahanol ar gyfer cyfrifo eich hawl i dâl gwyliau a thâl salwch.

Gall gwaith amaethyddol fod yn nifer o bethau gwahanol, gan gynnwys, er enghraifft:

  • unrhyw weithgaredd ar fferm
  • tyfu a chynaeafu bwyd, bylbiau ffrwythau, planhigion a blodau
  • defnyddio tir ar gyfer porfeydd, perllannau a choetiroedd

Asiantaethau cyflogaeth

Os ydych yn defnyddio asiantaeth gyflogaeth i ddod o hyd i waith, mae gennych rai hawliau. Mae’r rhain yn sicrhau na all yr asiantaeth eich ecsbloetio.

Didynnu arian o gyflog

Gall arian ond gael ei ddidynnu’n gyfreithlon o'ch cyflog os:

  • ydyw’n ofynnol neu wedi'i awdurdodi yn gyfreithiol (e.e. treth ac Yswiriant Gwladol)
  • ydyw’n cael ei ganiatáu yn eich contract cyflogaeth – mae’n rhaid i chi gael copi o’r amod yn eich contract sy’n caniatáu didynnu’r arian, neu esboniad ysgrifenedig ohono, cyn i’r arian gael ei ddidynnu
  • rydych wedi cytuno yn ysgrifenedig cyn i’r arian gael ei ddidynnu

Os yw eich cyflogwr yn didynnu arian o'ch cyflog, dylech edrych i weld a oes ganddo ganiatâd i wneud hynny. Ni all eich cyflogwr ddidynnu unrhyw arian na chymryd taliad gennych a fydd yn gostwng eich cyflog yn is na chyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol hyd yn oed os oes ganddynt eich caniatâd i wneud hynny.

Trwyddedu gangfeistri

Unigolyn neu fusnes yw gangfeistr, sy’n cyflenwi llafur (gweithwyr) i’r meysydd canlynol:

  • amaethyddiaeth
  • garddwriaeth
  • prosesu pysgod
  • casglu pysgod cregyn
  • pecynnu neu brosesu cynhyrchion bwyd neu ddiod

Mae’n rhaid i gangfeistri sy’n cyflenwi gweithwyr fod wedi’u trwyddedu gan yr Awdurdod Trwyddedu Gangfeistri. Mae’r Awdurdod Trwyddedu Gangfeistri yn rheoleiddio'r busnesau hyn ac yn sicrhau eu bod yn parchu eich hawliau cyflogaeth.

Oriau gwaith

Ni ddylech orfod gweithio mwy na 48 awr ar gyfartaledd mewn wythnos waith oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys unrhyw oramser. Mae gennych yr hawl i gael o leiaf un diwrnod yr wythnos o'r gwaith. Os ydych chi’n gweithio am fwy na chwe awr y diwrnod, dylech gael cyfnod egwyl o 20 munud o leiaf.

Os ydych chi’n defnyddio darparwr llafur, mae’n rhaid iddo gadw cofnod ysgrifenedig i ddangos eich bod wedi cytuno i weithio unrhyw oriau ychwanegol.

Hawliau cyflogaeth eraill

Llinell Gymorth Acas

08457 474 747

Gallwch hefyd fod â hawliau eraill yn y gwaith, er enghraifft yr hawl i gael contract cyflogaeth. Os oes arnoch angen cymorth gydag unrhyw un o'r hawliau hyn, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) i gael cyngor cyfrinachol, diduedd sy'n rhad ac am ddim. Mae’r Llinell Gymorth yn cymryd galwadau mewn dros 100 o ieithoedd.

Eich contract cyflogaeth

Cytundeb rhyngoch chi â’ch cyflogwr yw contract cyflogaeth. Os ydych chi wedi cael eich cyflogi am dros fis, yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gael datganiad ysgrifenedig o’ch telerau a'ch amodau. Dylech gael hwn o fewn dau fis o ddechrau gweithio, hyd yn oed os ydych chi'n mynd i weithio iddynt am lai na dau fis.

Yn gyffredinol, mae ar eich cyflogwr angen eich caniatâd chi i newid telerau ac amodau eich contract.

Dylech edrych yn eich contract cyflogaeth bob amser i weld beth yw eich hawliau. Os yw eich contract cyflogaeth yn dweud y dylech gael mwy na’r isafswm statudol (e.e. cyflog uwch na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol), mae’n rhaid i’ch cyflogwr ei roi i chi.

Slipiau cyflog

Dylech gael slip cyflog ysgrifenedig arbennig ar eich cyfer chi ar y diwrnod y cewch eich talu, neu cyn y diwrnod hwnnw. Mae’n rhaid i hwn ddangos eich ‘tâl gros’ (cyn treth) a'ch ‘tâl yn y boced’ (ar ôl treth a didyniadau eraill).

Dylai didyniadau a all newid yn wythnosol (e.e. treth ac Yswiriant Gwladol) gael eu rhestru ar bob slip cyflog. Gall unrhyw ddidyniadau sy’n parhau'r un fath gael eu rhestru unwaith y flwyddyn.

Tâl salwch

Gallech fod â’r hawl i gael Tâl Salwch Statudol os ydych chi i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch am bedwar diwrnod neu ragor yn olynol. Mae hyn yn gwarantu y telir isafswm i chi am y cyfnod y buoch yn sâl.

Gwyliau blynyddol

Mae gennych yr hawl i gael isafswm o wyliau y flwyddyn, gan ddechrau ar eich diwrnod cyntaf yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr rhan amser a gweithwyr cyfnod penodol.

Iechyd a diogelwch

Mae gan eich cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol am eich iechyd a’ch diogelwch yn y gwaith. Dylech fod yn cael y canlynol yn rhad ac am ddim:

  • gwybodaeth iechyd a diogelwch
  • hyfforddiant
  • dillad i'ch amddiffyn

Dylai unrhyw lety a ddarperir gan eich cyflogwr neu ddarparwr llafur ddiwallu deddfwriaeth bresennol.

Os ydych chi’n defnyddio darparwr llafur i ddod o hyd i waith, bydd yn rhaid i’ch darparwr llafur a’r defnyddiwr llafur (yr unigolyn y byddwch yn gweithio ar ei gyfer) gytuno ar bwy fydd yn gyfrifol am reoli eich iechyd a diogelwch. Mae’n rhaid i’r cytundeb hwn fod yn ysgrifenedig.

Gwaith a theuluoedd

Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yr hawl i gael amser o'r gwaith gyda thâl adeg geni neu fabwysiadu plentyn. Bydd yr amser y gallwch ei gael yn dibynnu ar ai'r fam ynteu'r tad ydych chi ac ers faint rydych chi wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr.

Mae’n bosib bod gennych chi’r hawl i ofyn am gael gweithio oriau hyblyg neu i ofyn am gael cymryd amser di-dâl o’r gwaith i ofalu am eich plant.

Problemau yn y gwaith

Os oes gennych chi broblem neu anghydfod yn y gwaith, gallwch chi a’ch cyflogwr fynd ati mewn sawl gwahanol ffordd i geisio eu datrys. I gael gwybod sut i ddatrys problemau, llwythwch y daflen ‘Problemau yn y gwaith’ oddi ar y we.

Eich cyfrifoldebau chi

Mae’n rhaid i chi fod â hawl gyfreithiol i weithio yn y DU, a dylech chi fod â rhif Yswiriant Gwladol dilys, neu fod wedi gwneud cais am un.

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU